Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau'r Apostolion 5

5
1Ond rhyw ŵr, a’i enw Ananias, ynghyd â’i wraig Saffira, a werthodd eiddo, 2ac a gadwodd beth o’r tâl, a’i wraig hithau’n gwybod, ac fe ddug gyfran a’i gosod wrth draed yr apostolion. 3Ond dywedodd Pedr, “Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon i dwyllo’r Ysbryd Glân a chadw peth o’r tâl am y tir? 4O adael iddo, onid gennyt ti yr arhosai? Ac o’i werthu, onid gennyt ti yr oedd yr hawl? Pa fodd y gosodaist dy fryd ar y weithred yma? Nid wrth ddynion y dywedaist gelwydd, ond wrth Dduw.” 5Ac wrth glywed y geiriau hyn, syrthiodd Ananias a threngodd; ac aeth ofn mawr ar bawb a glywai. 6A chyfododd y gwŷr ifainc a’i amdoi, a dygasant ef allan a’i gladdu. 7A bu ysbaid o ryw deirawr, a daeth ei wraig i mewn, heb wybod yr hyn a ddigwyddasai. 8A chyfarchodd Pedr hi, “Dywed wrthyf, ai am hyn a hyn y gwerthasoch y tir?” Dywedodd hithau, “Ie, am hyn a hyn.” 9Ebe Pedr wrthi, “Paham y cydsyniwyd gennych i brofi Ysbryd yr Arglwydd? Dyma draed y rhai a gladdodd dy ŵr wrth y drws, a dygant dithau allan.” 10A syrthiodd yn y fan wrth ei draed, a threngodd; ac wedi i’r gwŷr ifainc fynd i mewn cawsant hi’n farw, a dygasant hi allan a’i chladdu gyda’i gŵr. 11Ac aeth ofn mawr ar yr holl eglwys ac ar bawb a glywai am hyn.
12A thrwy ddwylo’r apostolion gwneid arwyddion a rhyfeddodau lawer ymhlith y bobl; ac yr oeddynt i gyd yn unfryd yng Ngholofnfa Solomon; 13ond o’r lleill ni feiddiai neb ymlynu wrthynt, eithr mawrygai’r bobl hwynt, 14a chwanegid fwyfwy rai’n credu yn yr Arglwydd, luoedd o wŷr a gwragedd. 15Yn wir, dygent y cleifion hyd yn oed allan i’r heolydd a’u gosod ar welyau a matrasau, fel y caffai pe na bai ond cysgod Pedr, wrth fynd heibio, ddisgyn ar rywun ohonynt. 16Ac ymgynullai hefyd y lliaws o’r dinasoedd o amgylch Caersalem, gan ddwyn cleifion a rhai a flinid gan ysbrydion aflan, ac iacheid hwynt oll.
17A chyfododd yr archoffeiriad a’r holl rai oedd gydag ef, sef sect y Sadwceaid, wedi eu llanw ag eiddigedd, 18a dodasant eu dwylo ar yr apostolion, a rhoesant hwynt dan warchod cyhoeddus. 19Ond angel yr Arglwydd o hyd nos a agorodd ddrysau’r carchar, ac wedi eu dwyn hwynt allan 20dywedodd, “Ewch, a sefwch yn y Deml, a lleferwch wrth y bobl yr holl bethau ynglŷn â’r bywyd hwn.” 21Wedi clywed, aethant tua thoriad dydd i mewn i’r Deml a dechreuasant ddysgu. Wedi i’r archoffeiriad ddyfod, a’r rhai oedd gydag ef, galwasant ynghyd y Sanhedrin, sef holl gyngor meibion Israel, ac anfonasant i’r carchardy i’w cyrchu hwynt. 22Ond wedi i’r gweision gyrraedd ni chawsant hwynt yn y carchar, ac wedi dychwelyd mynegasant, 23gan ddywedyd, “Cawsom y carchardy wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a’r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb i mewn.” 24A phan glywodd pennaeth y Deml a’r archoffeiriaid y geiriau yma, yr oeddynt mewn penbleth amdanynt beth a ddeuai o hyn. 25Ond daeth rhywun a mynegodd iddynt, “Dyma’r gwŷr, a ddodasoch yn y carchar, yn y Deml yn sefyll ac yn dysgu’r bobl!” 26Yna aeth y pennaeth gyda’r gweision, a’u dwyn hwynt, — heb drais, canys ofnent y bobl rhag eu llabyddio; 27ac wedi eu dwyn gwnaethant iddynt sefyll yn y Sanhedrin. A holodd yr archoffeiriad hwynt, 28gan ddywedyd, “Rhoesom orchymyn pendant i chwi i beidio â dysgu am yr enw hwn, a dyma chwi wedi llanw Caersalem â’ch dysgeidiaeth, a cheisiwch ddwyn arnom ni waed y dyn hwn.” 29Ac atebodd Pedr a’r apostolion a dywedyd, “Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion. 30Cyfododd Duw ein tadau Iesu, a lofruddiasoch chwi gan ei grogi ar bren;#Deut. 21:22. 31hwn a ddyrchafodd Duw â’i law ddehau yn flaenor ac iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau; 32ac yr ŷm ni’n dystion o’r pethau hyn, a’r Ysbryd Glân, a roddes Duw i’r sawl a ufuddhao iddo.” 33Pan glywsant hwythau, ffyrnigent a mynnent eu lladd hwynt. 34Ond cyfododd rhyw Pharisead yn y Sanhedrin a’i enw Gamaliel, athro’r Gyfraith, gŵr parchus gan yr holl bobl, ac archodd roi’r dynion allan am ychydig, 35a dywedodd wrthynt, “Wŷr Israel, cymerwch ofal am y dynion hyn pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur. 36Canys cyn y dyddiau hyn cyfododd Thewdas, gan ddywedyd ei fod yn rhywun, ac fe lynodd nifer o ddynion wrtho, ynghylch pedwar cant; a lladdwyd ef, a gwasgarwyd pawb a’i pleidiai, ac aethant yn ddim. 37Ar ei ôl ef cyfododd Iwdas y Galilead yn nyddiau’r cyfrifiad, a thynnodd bobl ymaith ar ei ôl; darfu amdano yntau hefyd, a chwalwyd pawb a’i pleidiai. 38Ac yn awr meddaf wrthych, peidiwch â’r dynion hyn a gedwch iddynt; oblegid os o ddynion y mae’r cyngor hwn neu’r gwaith hwn, fe’i dymchwelir; 39eithr os o Dduw y mae, ni ellwch eu dymchwelyd hwynt; fe all y’ch ceir chwi yn ymladd â Duw.” 40A chytuno ag ef a wnaethant, ac wedi galw’r apostolion a’u fflangellu, gorchmynasant na lefarent am enw’r Iesu, a’u gollwng ymaith. 41Hwythau, aent i ffwrdd yn llawen o ŵydd y Sanhedrin am eu cyfrif yn deilwng i dderbyn amarch er mwyn yr enw; 42a phob dydd yn y Deml ac o dŷ i dŷ ni pheidient â dysgu a chyhoeddi’r efengyl am y Crist, Iesu.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda