Actau'r Apostolion 4
4
1A hwy’n llefaru wrth y bobl daeth yr archoffeiriaid#4:1 Yn ôl darlleniad arall, offeiriaid. a phennaeth y Deml a’r Sadwceaid arnynt, 2yn ymboeni am eu bod yn dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi ynglŷn â’r Iesu yr atgyfodiad o feirw, 3a gosodasant eu dwylo arnynt a’u rhoi dan warchod hyd drannoeth; canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. 4Ond llawer o’r rhai a glywsai’r gair a gredodd, ac aeth rhif y gwŷr yn rhyw bum mil.
5A thrannoeth y bu cyfarfod o’u llywodraethwyr hwynt a’r henuriaid a’r ysgrifenyddion yng Nghaersalem 6(a hefyd Annas, yr archoffeiriad, a Chaiaffas ac Ioan ac Alecsander a chynifer ag a oedd o’r teulu archoffeiriadol), 7ac wedi eu gosod hwynt yn y canol holent, “Ym mha nerth neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?” 8Yna Pedr, wedi ei lanw â’r Ysbryd Glân, a ddywedodd wrthynt, “Lywodraethwyr y bobl a henuriaid, 9os ŷm ni heddiw ar brawf am gymwynas i ddyn claf, pa fodd y mae hwn yn iach, 10bydded hysbys i chwi oll ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist y Nasaread, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y saif hwn ger eich bron yn iach. 11Hwn yw’r maen a ddiystyriwyd gennych chwi yr adeiladwyr, ac a ddaeth yn ben y gongl.#Salm 118:22. 12Ac nid yw’r Iechydwriaeth yn neb arall, ac nid oes yn wir o dan y nef, wedi ei roi ymhlith dynion, enw arall y mae’n rhaid ein hiacháu drwyddo.” 13Ac wrth sylwi ar hyfder Pedr ac Ioan, ac wedi deall mai dynion anllythrennog a dinod oeddynt, rhyfeddent; adwaenent hwynt eu bod gyda’r Iesu, 14ac a hwy’n gweled y dyn a iachawyd yn sefyll gyda hwynt ni allent wrthddwedyd ddim. 15Ac wedi erchi iddynt fynd allan o’r Sanhedrin, dechreuasant ymgynghori â’i gilydd, 16gan ddywedyd, “Beth a wnawn i’r dynion hyn? canys amlwg yw i bawb sy’n preswylio yng Nghaersalem ddyfod trwyddynt hwy arwydd hysbys, ac ni allwn ei wadu; 17eithr rhag ei daenu ymhellach ymhlith y bobl, bygythiwn hwynt nad ydynt i lefaru mwyach am yr enw hwn wrth neb pwy bynnag.” 18A galwasant hwynt, a’u gorchymyn nad ynganent o gwbl ac na ddysgent am enw’r Iesu. 19Ond atebodd Pedr ac Ioan iddynt, “Ai iawn yw ger bron Duw wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi; 20canys ni allwn ni na ddywedom yr hyn a welsom ac a glywsom.” 21Hwythau, wedi eu bygwth ymhellach, gollyngasant hwynt, heb gael dim modd i’w cosbi hwynt, oherwydd y bobl, canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a ddigwyddasai; 22canys dros ddeugain mlwydd oed oedd y dyn y gwnaethid yr arwydd iachaol hwn arno. 23Ac wedi eu gollwng aethant at eu cyfeillion, a mynegasant y cyfan a ddywedodd yr archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. 24Hwythau, wedi clywed, codasant yn unfryd lef at Dduw, a dywedasant, “O Benarglwydd, tydi a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a phob peth sydd ynddynt,#Ecs. 20:11. 25ti a ddywedodd drwy’r Ysbryd Glân yng ngenau Dafydd, dy was, ein tad ni,
Paham yr ymgynddeiriogodd y cenhedloedd,
ac y dyfeisiodd y bobloedd bethau ofer?
26 Ymddangosodd brenhinoedd y ddaear,
a’r llywodraethwyr a ymgasglodd ynghyd
yn erbyn yr Arglwydd ac yn erbyn ei Eneiniog ef. #
Salm 2:1–2.
27Canys ymgasglodd yn wir yn y ddinas hon yn erbyn dy Was santaidd Iesu, yr hwn a eneiniaist, Herod a Phontius Pilat ynghyd â’r cenhedloedd a phobloedd Israel, 28i wneuthur yr hyn y rhagluniodd dy law a’th gyngor ei ddyfod. 29Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion, a dyro i’th weision gyda phob hyfder lefaru dy air, 30tra estynnych di dy law i beri iachâd ac arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy was santaidd, Iesu.” 31Ac wedi iddynt ymbil, ysgydwyd y lle yr oeddynt wedi ymgasglu, a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a llefarent air Duw yn hy.
32A’r lliaws o’r rhai a gredodd oedd o un galon ac enaid, ac ni ddywedai undyn fod dim o’i feddiannau yn eiddo iddo, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin. 33Ac â nerth mawr y rhoddes yr apostolion eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll. 34Ac yn wir nid oedd neb anghenus yn eu plith; canys gwerthai cynifer ag a oedd feddianwyr tiroedd neu dai, a dygent y tâl am yr hyn a werthid, 35a’i osod wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb, yn ôl fel y byddai ar neb angen. 36Ioseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o’i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth, 37yr hwn bioedd ddarn o dir, a’i gwerthodd, a dug yr arian a’i roddi wrth draed yr apostolion.
Dewis Presennol:
Actau'r Apostolion 4: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)