Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau'r Apostolion 3

3
1Yr oedd Pedr ac Ioan yn esgyn i’r Deml erbyn yr awr weddi, y nawfed, 2ac yr oeddid yn dwyn rhyw ŵr, a oedd gloff o groth ei fam, yr hwn a osodent beunydd wrth ddôr y Deml, a elwid Prydferth, i geisio elusen gan y rhai a gyrchai i’r Deml; 3pan welodd hwn Bedr ac Ioan ar fynd i mewn i’r Deml, gofynnai am gael elusen. 4Ac wedi i Bedr syllu arno, ynghyd ag Ioan, fe ddywedodd, “Edrych arnom.” 5Daliai yntau sylw arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. 6Ond dywedodd Pedr, “Arian ac aur nid oes gennyf, ond yr hyn sydd gennyf, hynny a roddaf iti; yn enw Iesu Grist y Nasaread, rhodia.” 7A chan afael ynddo gerfydd ei law ddehau cododd ef; ac yn y fan aeth ei draed a’i fferau’n gadarn, 8a chan neidio i fyny safodd a dechreuodd gerdded, ac aeth gyda hwynt i mewn i’r Deml, dan rodio a neidio a moli Duw. 9A gwelodd yr holl bobl ef yn rhodio ac yn moli Duw, 10ac adwaenent ef mai hwn oedd yr un a eisteddai i elusena wrth Borth Prydferth y Deml, a llannwyd hwynt â braw a syndod am yr hyn a ddigwyddasai iddo.
11A thra oedd ef yn dal ei afael ym Mhedr ac Ioan rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i’r fan a elwir Colofnfa Solomon, yn frawychedig. 12A phan welodd Pedr, atebodd i’r bobl, “Wŷr Israel, paham y rhyfeddwch at hyn?#3:12 Neu, hwn. A phaham y syllwch arnom ni fel pe trwy ein nerth ni ein hunain neu’n duwioldeb y gwnaethem iddo gerdded? 13Duw Abraham ac Isaac ac Iacob, Duw ein tadau, a ogoneddodd ei was ef#Ecs. 3:15; Esa. 52:13. Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi ac a wadasoch ger bron Pilat, wedi i hwnnw benderfynu ei ryddhau. 14Eithr chwi, gwadasoch y Sant a’r Cyfiawn, a mynasoch roddi i chwi ŵr o lofrudd; 15awdur bywyd a laddasoch, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yr hyn yr ŷm ni’n dystion ohono. 16A thrwy ffydd yn ei enw ef y cadarnhawyd, drwy ei enw, hwnyma, a welwch ac a adwaenoch, a’r ffydd sydd drwyddo ef a roddes iddo lwyr wellhâd fel hyn yn eich gwydd chwi oll. 17Ac yn awr, frodyr, gwn mai mewn anwybod y gwnaethoch, fel eich llywodraethwyr hwythau; 18ond fel hyn y cyflawnodd Duw yr hyn a ragfynegodd drwy enau’r holl broffwydi, sef dioddefaint ei Grist. 19Edifarhewch, ynteu, a throwch fel y dilëer eich pechodau, fel y delo tymhorau adfywiant oddi ger bron yr Arglwydd 20ac y danfono’r Crist a ragordeiniwyd i chwi, Iesu, 21yr hwn y mae’n rhaid i’r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai y llefarodd Duw amdanynt drwy enau ei broffwydi santaidd erioed. 22Moesen yn un a ddywedodd, Proffwyd a gyfyd yr Arglwydd Dduw i chwi o blith eich brodyr, megis myfi; ef a wrandewch ym mhob peth a lefaro wrthych. 23A phob enaid na wrandawo’r proffwyd hwnnw a lwyr ddifethir o blith y bobl.#Deut. 18:15–19; Lef. 23:29. 24A’r holl broffwydi hefyd o Samwel a’r rhai dilynol, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn. 25Chwi yw meibion y proffwydi a’r cyfamod a wnaeth Duw â’ch tadau, pan ddywedodd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau’r ddaear.#Gen. 12:3. 26I chwi’n gyntaf y cyfododd Duw ei was, a’i ddanfon i’ch bendithio drwy eich troi bob un oddiwrth ei ddrygioni.”

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda