Actau'r Apostolion 2
2
1Ac yn ystod dydd y Pentecost yr oeddynt oll ynghyd gyda’i gilydd, 2ac fe ddaeth yn sydyn o’r nef drwst megis gwynt cryf yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle’r oeddynt yn eistedd, 3ac ymddangosodd iddynt yn ymwahanu dafodau megis o dân, ac eisteddodd ar bob un ohonynt, 4a llannwyd hwynt oll â’r Ysbryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill, yn ôl fel y rhoddai’r Ysbryd iddynt ddatgan. 5Ac yr oedd yng Nghaersalem yn trigo Iddewon, gwŷr duwiol o bob cenedl dan y nef; 6ac wedi dyfod y sŵn hwn ymgynullodd y lliaws ac ymddrysu, canys clywodd pob un hwynt yn llefaru yn ei iaith ei hun; 7a synnent a rhyfeddent, gan ddywedyd, “Wel! Onid Galileaid yw’r rhai hyn oll sy’n llefaru? 8A pha fodd yr ŷm ni, bob un, yn eu clywed yn ein hiaith ein hunain, yr hon y’n ganed ni ynddi? 9Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid a thrigolion Mesopotamia, Iwdea a Chapadocia, Pontus ac Asia, 10Phrygia a Phamffylia, yr Aifft a pharthau Libya tua Chyrene, a’r ymwelwyr o Rufain, Iddewon a phroselytiaid, 11Cretiaid ac Arabiaid, clywn hwynt yn llefaru yn ein tafodau ni am orchestion Duw.” 12A synnai pawb ac ymgythryblent, gan ddywedyd y naill wrth y is llall, “Beth yw ystyr hyn?” 13Ond eraill yn wawdlyd a ddywedai, “Llawn ydynt o win newydd.”
14A safodd Pedr ynghyd â’r un ar ddeg, a chododd ei lais ac anerchodd hwynt, “Wŷr Iwdea, a thrigolion Caersalem oll, bydded hyn hysbys i chwi, a rhowch glust i’m geiriau. 15Nid yw’r rhain yn wir, fel y tybiwch chwi, yn feddw; canys y drydedd awr o’r dydd yw hi; 16eithr dyma a ddywedwyd drwy’r proffwyd Ioel,
17 Ac yn y dyddiau diweddaf, medd Duw,
y tywalltaf o’m hysbryd ar bob cnawd;
a phroffwyda’ch meibion a’ch merched,
a’ch gwŷr ifainc, gweledigaethau a welant,
a’ch hynafgwyr, breuddwydion a freuddwydiant;
18 hyd yn oed ar fy nghaethweision a’m caethforynion
yn y dyddiau hynny y tywalltaf o’m Hysbryd, #
Ioel 2:18–19.
a phroffwydant.
19 A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod,
ac arwyddion ar y ddaear isod,
gwaed a thân a tharth mwg;
20 yr haul a droir yn dywyllwch,
a’r lloer yn waed,
cyn dyfod dydd yr Arglwydd, y dydd mawr ac amlwg;
21 a phawb a alwo ar enw’r Arglwydd a gedwir. #
Ioel 2:30–31.
22Wŷr Israel, gwrandewch y geiriau hyn; Iesu’r Nasaread, gŵr arddeledig gan Dduw i chwi trwy rymusterau a rhyfeddodau ac arwyddion, a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysg, fel y gwyddoch eich hunain, hwn, 23wedi ei fradychu yn ôl arfaeth osodedig Duw a’i ragwybodaeth, a hoeliasoch chwi drwy law rhai anwir ac a laddasoch; 24ond cyfododd Duw ef, gan atal gwewyr Angau, oherwydd nid oedd bosibl i hwnnw’i ddal yn ei afael. 25Canys dywed Dafydd amdano,
Gwelwn yr Arglwydd ger fy mron yn wastad,
canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgydwer.
26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon ac y gorfoleddodd fy nhafod,
ie, a’m cnawd hefyd, ar obaith y pabella;
27 canys ni adewi fy enaid yn Hades,
ac ni edi i’th sant weled llygredigaeth.
28 Hysbysaist imi ffyrdd bywyd,
llenwi fi o lawenydd â’th wyneb. #
Salm 16:8–11.
29Frodyr, rhydd yw dywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, canys bu farw a chladdwyd ef, ac y mae ei fedd yn ein plith hyd y dydd hwn; 30ac ef yn broffwyd, ynteu, ac yn gwybod i Dduw dyngu wrtho ar lw y gosodai o ffrwyth ei lwynau ar ei orsedd,#Salm 132:11. 31gan ragweled llefarodd am atgyfodiad y Crist, nis gadawyd ef yn Hades ac ni welodd ei gnawd lygredigaeth.#Salm 16:10. 32Yr Iesu hwn a gyfododd Duw, peth yr ydym ni oll yn dystion ohono. 33Felly, wedi ei ddyrchafu â deheulaw Duw ac wedi cael yr addewid am yr Ysbryd Glân gan y Tad, tywalltodd y peth hwn a welwch chwi ac a glywch. 34Canys nid Dafydd a esgynnodd i’r nefoedd, ond dywed ef ei hun,
Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
Eistedd ar fy neheulaw
35 hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. #
Salm 110:1.
36Gwybydded yn sicr, felly, holl dŷ Israel i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.”
37Wedi iddynt glywed, dwysbigwyd eu calon, a dywedasant wrth Bedr a’r lleill o’r apostolion, “Beth a wnawn, frodyr?” 38Meddai Pedr wrthynt, “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau, a chwi gewch yr Ysbryd Glân yn rhodd; 39canys i chwi y mae’r addewid ac i’ch plant ac i bawb y sydd ymhell, gynifer ag a alwo’r Arglwydd ein Duw ni ato.”#Dan. 9:7; Ioel 2:31. 40Ac â geiriau eraill yn ychwaneg y dwys dystiolaethodd, ac anogai hwynt gan ddywedyd, “Dihengwch rhag y genhedlaeth ŵyrgam hon.” 41Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd yn y dydd hwnnw tua thair mil o eneidiau. 42Ac yr oeddynt yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn nhorri’r bara ac yn y gweddïau. 43A deuai ar bob enaid ofn, a rhyfeddodau ac arwyddion lawer a wneid drwy’r apostolion. 44Ac i bawb gyda’i gilydd a gredodd yr oedd popeth yn gyffredin, 45a gwerthent eu meddiannau a’u heiddo, a’u rhannu rhwng pawb yn ôl fel y byddai ar neb angen; 46a beunydd gan ddyfalbarhau yn unfryd yn y Deml, a thorri bara o dŷ i dŷ, y cyfranogent o’r lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, 47gan foli Duw a chael ffafr gan yr holl bobl. A chwanegai’r Arglwydd beunydd y rhai oedd yn cael eu cadw, bawb at ei gilydd.
Dewis Presennol:
Actau'r Apostolion 2: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: