Actau'r Apostolion 1
1
1Yr hanes cyntaf a roddais, Theophilus, am yr holl bethau y dechreuodd Iesu eu gwneuthur a’u dysgu 2hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny wedi iddo roi gorchmynion drwy’r Ysbryd Glân i’r apostolion a etholasai; 3iddynt hwy y dangosodd ei hun hefyd yn fyw wedi ei ddioddefaint drwy brofion lawer, gan fod yn weledig iddynt yn ystod deugain niwrnod a llefaru’r pethau a oedd am deyrnas. Dduw. 4Ac wrth gyd-ymgynnull,#1:4 Neu, gyd-fwyta. gorchmynnodd iddynt nad ymadawent o Gaersalem, ond disgwyl addewid y Tad, “a glywsoch,” eb ef, “gennyf fi; 5canys â dwfr y bedyddiodd Ioan, ond fe’ch bedyddir chwi â’r Ysbryd Glân cyn pen llawer o ddyddiau.” 6Hwythau felly wedi dyfod ynghyd, gofynnent iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, ai yn yr amser hwn yr adferi’r deyrnas i Israel?” 7Dywedodd wrthynt, “Nid eiddoch chwi ydyw gwybod amseroedd neu brydiau, y rhai a osododd y Tad o fewn ei awdurdod ei hun, 8eithr chwi gewch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddyfod arnoch, a byddwch imi’n dystion yng Nghaersalem ac yn holl Iwdea a Samaria a hyd eithaf y ddaear.” 9Ac wedi iddo ddywedyd hyn, a hwythau’n edrych, fe’i dygwyd i fyny, a chipiodd cwmwl ef o’u golwg hwynt. 10Ac fel yr oeddynt yn syllu tua’r nef, ac yntau’n myned, dyna ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion, 11a dywedodd y rhain, “Wŷr Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? Yr Iesu hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i’r nef, felly y daw, y modd y gwelsoch ef yn myned i’r nef.” 12Yna dychwelasant i Gaersalem o’r mynydd a elwir Mynydd Olewydd, sydd yn agos i Gaersalem, daith Saboth. 13Ac wedi iddynt ddyfod yno, aethant i fyny i’r llofft lle’r oeddynt yn aros, Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Phylip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot ac Iwdas fab Iago. 14Y rhai hyn oll oedd yn dyfal barhau yn unfryd mewn gweddi gyda rhai gwragedd a Mair, mam yr Iesu, a chyda’i frodyr.
15Ac yn y dyddiau hynny cyfododd Pedr ymysg y brodyr a dywedyd (yr oedd torf o bobl, tua chant ac ugain i gyd), 16“Frodyr, rhaid oedd cyflawni’r ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân drwy enau Dafydd am Iwdas, a fu’n arweinydd i’r rhai a ddaliodd Iesu; 17canys cyfrifid ef yn ein plith ni, a digwyddodd iddo’i gyfran o’r swyddogaeth hon.” 18(Yn awr prynasai hwn gae o’r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi ymchwyddo holltodd yn ei ganol, a llifodd ei holl ymysgaroedd allan. 19A daeth yn hysbys i holl drigolion Caersalem, nes galw’r cae hwnnw yn eu hiaith hwy Aceldama, sef Cae’r Gwaed.) 20“Canys ysgrifennwyd yn Llyfr y Salmau
Eled ei dyddyn yn anghyfannedd
ac na bydded a drigo ynddo, #
Salm 69:25.
ac Cymered arall ei swydd ef.#Salm 109:8.
21Felly o’r gwŷr a fu’n cydymdaith â ni yr holl amser y bu’r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein gŵydd, 22gan ddechrau o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddiwrthym, rhaid i un ohonynt ddyfod yn dyst o’i atgyfodiad gyda ni.” 23A dodasant ddau, Ioseff a enwid Barsabbas, ac a gyfenwid Iwstus, a Mathias. 24A chan weddïo dywedasant, “Tydi Arglwydd, a ŵyr galonnau pawb, amlyga pwy a ddewisaist, un o’r ddau hyn, 25i gymryd ei le yn y weinidogaeth hon a’r apostolaeth, y gŵyrodd Iwdas oddiwrthi i fyned i’w le ei hun.” 26A bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Fathias, a chyfrifwyd ef gyda’r un apostol ar ddeg.
Dewis Presennol:
Actau'r Apostolion 1: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: