Actau'r Apostolion RHAGAIR
RHAGAIR
Mae’r gwaith hwn yn un o’r gyfres gyfieithiadau a gyhoeddir dan nawdd Adran Ddiwinyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru. Ffurfiwyd pwyllgor yn Abertawe, yn cynnwys yr Athro D. Emrys Evans, Cadeirydd, y Parchedigion D. James Jones ac Edward Jones, yr Athro Henry Lewis, Mr. Saunders Lewis, a’r Parchedigion R. S. Rogers a D. Eurof Walters. Wedi i’r pwyllgor fod wrthi am gryn amser, daeth cais oddi wrth yr Adran Ddiwinyddol am iddo ymdrechu i orffen y gwaith fel y gellid ei gyhoeddi ar ddechrau blwyddyn y Wers yn yr Ysgolion Sul. Penderfynodd y pwyllgor felly ofyn i’r Athro Emrys Evans ymgymryd yn llwyr â’r gweddill o’r llyfr. Wedi iddo ef orffen, bwriwyd golwg dros y cwbl gan y lleill. Cydnabyddir yn ddiolchgar yr awgrymiadau a gafwyd gan yr Athrawon T. Gwynn Jones, W. J. Gruffydd, T. H. Parry-Williams ac Ifor Williams. Fel rheol, testun Westcott a Hort a ddilynwyd; mewn ychydig o fannau (er enghraifft yn 1130 1235), dewisach fu gennym ddilyn testun arall. Ond lle y gwnaethpwyd hynny fe’i nodir ar waelod y ddalen. Yn yr Actau fe wahaniaetha un o’r hen lawysgrifau, sef Codex Bezae (D), gryn lawer oddiwrth y lleill. Cytunir bod testun y llawysgrif hon wedi dioddef llawer gan gyfnewidiadau ac ychwanegiadau sy’n ddiweddarach nag amser y sawl a’i sgrifennodd gyntaf. Er hynny y mae lle i gredu ei bod yn cynrychioli traddodiad da, a bod hyd yn oed yr ychwanegiadau weithiau yn seiliedig ar wybodaeth sicr. Felly, fe roddwyd ar waelod y ddalen ambell ddarlleniad a berthyn i D yn unig o’r hen lawysgrifau, lle y tybid ei fod yn ddiddorol beth bynnag, er na ellir ei dderbyn i mewn i’r testun.
Ynglŷn â ffurfiau’r enwau priod, nid gwiw fuasai ceisio bod yn hollol gyson. Rhoddwyd i’r terfyniadau, yn ôl yr hen arfer, eu gwedd Ladin; oddieithr hynny ceisiwyd rhoi i’r enwau y ffurfiau hynny a ddengys yn fwyaf ffyddlon eu cynhaniad. Er enghraifft, sgrifennwyd Clawdius ac nid Claudius. Ni wnaethpwyd hyd yn oed gymaint â hynny â’r enwau mwyaf adnabyddus, megis Paul.
Abertawe,
21 Mai, 1925.
EGLURHAD
Y TESTUN
Rhennir y testun yn baragraffau, ac argreffir pob paragraff yn ddidor, oddieithr bod dyfyniadau mydryddol wedi eu trefnu’n llinellau. Rhoir rhif pob pennod ac adnod ar yr ymyl gyferbyn â’i dechrau.
Argreffir dyfyniadau o’r Hen Destament mewn llythyren dduach, a rhoir cyfeiriadau atynt ar waelod y ddalen.
Y NODIADAU
Dynoda “Gr.” gyfieithiad llythrennol o’r Groeg, a fyddai’n amwys pes dodid yn y testun.
Dynoda “Neu” gyfieithiad posibl arall o’r Groeg; arferir ef pan fo amwysedd yn y gair Groeg.
Dynoda “Sef” eglurhad ar y gair Cymraeg yn y testun; arferir ef yn bennaf lle ni ellir rhoi holl ystyr y Groeg mewn un gair Cymraeg.
Actau’r Apostolion
Dewis Presennol:
Actau'r Apostolion RHAGAIR: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: