Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 5

5
1Clywch hyn, offeiriaid,
Ac ymwrandewch, Dŷ Israel,
A chlustfeiniwch, Dŷ’r brenin,
Oblegid i chwi y mae’r farn;
Canys aethoch yn fagl ym Mispa,
Ac yn rhwyd daenedig ar Dabor,
2A gwnaeth gwrthryfelwyr lofruddiaeth yn ddwfn,
A minnau sydd gerydd arnynt oll.
3Mi adwaen Effraim,
Ac nid yw Israel guddiedig oddiwrthyf,
Canys yn awr puteiniaist, Effraim,
Ymhalogodd Israel.
4Ni ad eu harferion iddynt ddychwelyd at eu Duw,
Am fod ysbryd puteindra yn eu canol,
Ac nad adwaenant Iafe.
5A thystia godidowgrwydd Israel yn ei wyneb,
A llithra Israel ac Effraim yn eu hanwiredd,
Llithrodd Iwda hefyd gyda hwynt.
6Ânt gyda’u praidd a’u gwartheg i geisio Iafe,
Ond nis cânt; ciliodd ef oddiwrthynt.
7Buont anffyddlon i Iafe, canys dygasant blant dieithr;
Ŷs y Newyddloer hwynt bellach ynghyda’u rhandiroedd.
8Chwythwch utgorn yng Ngibea, corn yn Rama,
Bloeddiwch ym Methafen “Ar dy ol di Beniamin!”
9Bydd Effraim yn anghyfaneddle yn nydd cerydd;
Ymysg llwythau Israel hysbysais yr hyn sydd sicr.
10Y mae tywysogion Iwda fel symudwyr terfyn,
Tywalltaf arnynt fy llid fel dwfr.
11Gorthrymedig yw Effraim, maluriedig dan farn,
Canys mynnodd fyned ar ol defod.#5:11 LXX a Syr. gwagedd.
12Minnau sydd fel gwyfyn i Effraim,
Ac fel pydredd i Dŷ Iwda.
13Pan welodd Effraim ei glefyd,
A Iwda ei glwyf,
Aeth Effraim at Asyria,
Ac anfonodd at y brenin Iareb;
Eithr ni all ef iacháu monoch,
Ac nid ymedy’r clwyf oddiwrthych.
14Canys yr wyf fi fel llew i Effraim,
Ac fel llew ifanc i Dŷ Iwda;
Myfi, ïe myfi, a rwyga, ac af ymlaen,
Dygaf ymaith, ac ni bydd achubwr.
15Af, dychwelaf i’m lle,
Hyd oni chaffer hwynt yn euog, ac y’m ceisiont;
Yn eu cyfyngder dyfalchwiliant amdanaf.

Dewis Presennol:

Hosea 5: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda