Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11

11
1Ac yr oedd rhyw ddyn yn glaf, Lasarus o Fethania o dref Mair a Martha ei chwaer, — 2Mair oedd honno a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint ac a sychodd ei draed â’i gwallt, a’i brawd hi Lasarus oedd yn glaf. 3Felly anfonodd y chwiorydd ato a dywedyd: “Arglwydd, dyma’r hwn sydd hoff gennyt yn glaf.” 4Wedi clywed, dywedodd yr Iesu: “Nid yw’r clefyd yma tuag at farwolaeth, ond er mwyn gogoniant Duw, fel y gogonedder mab Duw drwyddo.” 5Ac yr oedd yr Iesu yn caru Martha a’i chwaer a Lasarus; 6felly pan glywodd ei fod yn glaf, yna aros deuddydd a wnaeth yn y fan lle’r oedd. 7Ond wedi hynny, medd wrth ei ddisgyblion: “Awn yn ôl i Iwdea.” Medd ei ddisgyblion wrtho: 8“Rabbi, gynneu yr oedd pobl Iwdea#11:8 Neu: yr Iddewon. yn ceisio dy labyddio, ac a wyt ti’n myned yn ôl yno?” 9Atebodd Iesu: “Onid oes deuddeg awr yn y dydd? 10Os rhodia neb yn y dydd, ni fagla am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn; ond os rhodia neb yn y nos, fe fagla, am nad yw’r goleuni ynddo.” 11Dywedodd hyn, ac wedi hynny medd ef wrthynt: “Y mae Lasarus ein ffrind ni wedi huno, ond yr wyf i yn myned er mwyn ei ddihuno ef.” 12Medd ei ddisgyblion wrtho felly: “Arglwydd, os ydyw wedi huno, fe wella”; 13ond soniasasai’r Iesu am ei farw ef, ond tybiasant hwy mai am hun cwsg y soniai. 14Felly dywedodd yr Iesu wrthynt wedyn yn eglur: “Y mae Lasarus wedi marw, ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, 15er eich mwyn chwi, fel y credoch. Ond awn ato.” 16Felly dywedodd Thomas (a elwir yn Efell) wrth ei gyd-ddisgyblion: “Awn ninnau hefyd i farw gydag ef.” 17Felly ar ôl i’r Iesu ddyfod, cafodd ef wedi bod eisoes bedwar diwrnod yn ei fedd 18— ac yr oedd Bethania yn ymyl Caersalem, tua phymtheg ystâd. 19Ac yr oedd llawer o’r Iddewon wedi dyfod at Fartha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. 20Aeth Martha, wedi clywed bod yr Iesu’n dyfod, i gyfarfod ag ef, ond yr oedd Mair yn eistedd yn y tŷ. 21Ac meddai Martha wrth Iesu: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. 22A gwn yn awr, pa beth bynnag a ofynnych gan Dduw, y dyry Duw ef i ti.” 23Medd yr Iesu wrthi: “Fe atgyfyd dy frawd.” 24Medd Martha wrtho: “Mi wn yr atgyfyd yn yr atgyfodiad yn y dydd diwethaf.” 25Medd yr Iesu wrthi: “Myfi ydyw’r atgyfodiad a’r bywyd. Y neb sy’n credu ynof, bydd byw er iddo farw, 26a phob un sy’n byw ac yn credu ynof i, ni bydd marw byth yn dragywydd. 27A wyt ti’n credu hyn?” Medd hithau wrtho: “Ydwyf, Arglwydd, yr wyf wedi credu mai ti yw’r Eneiniog, mab Duw sydd yn dyfod i’r byd.” 28Wedi dywedyd hyn, aeth ymaith a galwodd ei chwaer Mair yn ddistaw a dywedyd: “Y mae’r athro wedi dyfod, ac yn galw amdanat.” 29A phan glywodd hithau hynny, y mae’n codi i fyny ar unwaith, a chychwynnodd tuag ato, 30ond nid oedd yr Iesu wedi cyrraedd eto i’r dref, ond yr oedd eto yn y lle y cyfarfu Martha ag ef. 31A phan welodd yr Iddewon a oedd gyda hi yn y tŷ ac yn ei chysuro, fod Mair wedi cyfodi yn sydyn a myned allan, dilynasant hi, gan dybio ei bod yn myned at y bedd i alaru yno. 32A phan ddaeth Mair i’r lle yr oedd Iesu, wedi ei weled, syrthiodd wrth ei draed a dywedodd wrtho: “Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd.” 33Felly pan welodd yr Iesu hi’n galaru a’r Iddewon a ddaethai gyda hi yn galaru, ffromodd yn yr ysbryd ac ymgynhyrfodd, 34a dywedodd: “Ym mha le yr ydych wedi ei ddodi ef?” Meddant hwy wrtho: “Syr, tyred a gwêl.” 35Torrodd yr Iesu i wylo. 36Meddai’r Iddewon felly: “Mor hoff oedd ohono!” 37Ond meddai rhai ohonynt: “Oni allai hwn, agorwr llygaid y dall, wneuthur â hwn hefyd na byddai farw?” 38Felly ffromodd yr Iesu drachefn ynddo’i hun, ac aeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen wedi ei osod arno. 39Medd yr Iesu: “Symudwch y maen.” Medd Martha, chwaer y marw wrtho: “Arglwydd, y mae’n arogleuo erbyn hyn, oherwydd y mae hi’n bedwerydd dydd arno.” 40Medd yr Iesu wrthi: “Oni ddywedais i wrthyt: ‘Os credi, cei weled gogoniant Duw’?” 41Felly symudasant y maen, a chododd yr Iesu ei lygaid i fyny a dywedodd: “Dad, yr wyf yn diolch iti am i ti fy ngwrando; 42mi wyddwn i dy fod bob amser yn fy ngwrando, ond oherwydd y dyrfa sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, er mwyn iddynt gredu mai ti a’m hanfonodd.” 43Ac ar ôl dywedyd hyn, gwaeddodd â llais uchel: “Lasarus, tyrd allan.” 44Daeth y marw allan a’i draed a’i ddwylo wedi eu rhwymo mewn cadachau, ac yr oedd ei wyneb wedi ei rwymo â ffunen. Medd yr Iesu wrthynt: “Rhyddhewch ef, a gedwch iddo fyned.”
45Felly credodd ynddo lawer o’r Iddewon a ddaethai at Fair ac a welsai’r hyn a wnaeth. 46Ond aeth rhai ohonynt at y Phariseaid, a dywedasant wrthynt yr hyn a wnaeth Iesu. 47Felly galwodd y prif offeiriaid a’r Phariseaid gyngor, a dywedasant: “Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur, gan fod y dyn hwn yn gwneuthur llawer o arwyddion? 48Os gadwn iddo fel y mae, bydd pawb yn credu ynddo, a daw’r Rhufeiniaid a chymryd ein gwlad a’n cenedl hefyd.” 49A dywedodd un ohonynt, Caiaffas, a oedd yn brif offeiriad y flwyddyn honno: “Ni wyddoch chwi ddim byd, 50ac nid ydych yn ystyried ei bod yn ennill i chwi farw o un dyn dros y bobl yn lle dyfod dinistr ar yr holl genedl.” 51Ond nid ohono’i hun y dywedodd ef hyn, ond ag yntau’n brif offeiriad y flwyddyn honno, proffwydodd y byddai i Iesu farw dros y genedl, 52ac nid dros y genedl yn unig, ond er mwyn iddo gasglu yn un blant Duw a aethai ar wasgar. 53Felly o’r dydd hwnnw allan cynlluniasant i’w ladd ef.
54Gan hynny ni rodiai’r Iesu’n agored mwy ymhlith pobl Iwdea#11:54 Neu: yr Iddewon., ond aeth ymaith oddiyno i’r wlad yn ymyl yr anialwch i ddinas a elwir Effraim, ac yno yr arhosodd gyda’i ddisgyblion. 55Ac yr oedd pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth llaweroedd i fyny i Gaersalem o’r wlad, o flaen y pasg, er mwyn ymlanhau. 56Felly aethant i chwilio am yr Iesu a dywedent wrth ei gilydd wrth sefyll yn y deml: “Beth a feddyliwch chwi? Na ddaw ef i’r ŵyl?” 57Ac yr oedd y prif offeiriaid a’r Phariseaid wedi rhoddi gorchmynion os gwyddai rhywun lle yr oedd, i hysbysu hynny, er mwyn iddynt ei ddal.

Dewis Presennol:

Ioan 11: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda