Ioan 19
19
1Yna, felly, cymerth Pilat yr Iesu, a chwipiodd ef. 2A phlethodd y milwyr ddrain yn goron, a dodasant hi ar ei ben, a rhoddasant amdano wisg borffor, 3a myned ato a dywedyd: “Henffych well, Frenin yr Iddewon,” a rhoddi cernodiau iddo. 4Ac aeth Pilat allan wedyn, ac medd ef wrthynt: “Dyma fi’n dyfod ag ef allan i chwi, er mwyn i chwi wybod nad wyf i yn cael dim achos yn ei erbyn.” 5Felly daeth yr Iesu allan yn gwisgo’r goron ddrain a’r wisg borffor. Ac medd ef wrthynt: “Dyma fo.” #19:5 Neu: fe, neu y dyn, 6Felly, pan welodd y prif offeiriaid a’r swyddogion ef, gwaeddasant gan ddywedyd: “Croeshoelia, croeshoelia.” Medd Pilat wrthynt: “Cymerwch ef eich hunain, a chroeshoeliwch, oherwydd nid wyf i yn cael achos yn ei erbyn.” 7Atebodd yr Iddewon iddo: “Y mae gennym ni gyfraith, ac yn ôl y gyfraith, dylai farw, am iddo ei wneuthur ei hunan yn fab Duw.” 8Felly, pan glywodd Pilat y gair hwn, daeth arno fwy o ofn, 9ac aeth yn ei ôl i’r Plas, ac medd ef wrth yr Iesu: “O ba le yr wyt ti?” Ond ateb ni roddes yr Iesu iddo. 10Felly, medd Pilat wrtho: “Oni ddywedi di wrthyf? Oni wyddost fod gennyf hawl i’th ryddhau, a bod gennyf hawl i’th groeshoelio?” 11Atebodd Iesu: “Ni buasai gennyt ddim hawl arnaf i, heb fod hynny wedi ei roddi i ti oddiuchod. Am hyn, yr hwn a’m rhoes yn dy ddwylo, y mae mwy pechod arno.” 12O hyn allan, ceisiai Pilat ei ryddhau ef, ond gwaeddodd yr Iddewon gan ddywedyd: “Os rhyddhei hwn, nid wyt ti’n bleidiol i Gesar; y mae pob un sy’n ei wneuthur ei hun yn frenin yn erbyn Cesar.” 13Felly, pan glywodd Pilat y geiriau hyn, aeth â’r Iesu allan, ac eisteddodd ar fainc yn y lle a elwir y Palmant, yn Hebraeg, Gabbatha. 14A noswyl y Pasg ydoedd hi, a thua’r wythfed awr. Ac medd ef wrth yr Iddewon: “Dyma’ch brenin.” 15Felly gwaeddasant hwy: “Ymaith, ymaith ag ef; croeshoelia ef.” Medd Pilat wrthynt: “A wyf i groeshoelio eich brenin?” Atebodd y prif offeiriaid: “Nid oes gennym frenin ond Cesar.” 16Yna, felly, traddododd yntau’r Iesu iddynt, i’w groeshoelio. Felly cymerasant yr Iesu. 17Ac aeth allan gan gario’i groes ei hunan, i’r fan a elwir Lle’r Benglog (a elwir Golgotha yn Hebraeg), 18lle y croeshoeliasant ef, a chydag ef ddau arall, un o boptu, a’r Iesu yn y canol. 19Ac ysgrifennodd Pilat hysbysiad, a gosododd ef ar y groes, a’r ysgrifen oedd, Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon. 20Felly darllenodd llawer o’r Iddewon yr hysbysiad hwn, am fod y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu yn agos i’r ddinas; ac yr oedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, yn Lladin, yn Roeg. 21Felly dywedodd prif offeiriaid yr Iddewon wrth Bilat: “Nac ysgrifenna ‘Brenin yr Iddewon,’ ” ond “Dywedodd hwn, ‘Brenin yr Iddewon ydwyf.’ ” 22Atebodd Pilat: “Yr hyn a ysgrifennais, a ysgrifennais.”
23Yna wedi croeshoelio’r Iesu, cymerth y milwyr ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, — rhan i bob milwr, — ynghyd â’r crys, ac yr oedd y crys yn ddiwnïad, wedi ei weu drwyddo oll o’r cwr uchaf. 24Felly meddent hwy wrth ei gilydd: “Na rwygwn ef, ond bwrw coelbren arno pwy a’i caiff”; fel y cyflawnid yr adnod, Rhanasant fy nillad rhyngddynt, ac ar fy ngwisg bwriasant goelbren; a hyn felly a wnaeth y milwyr. 25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam, a chwaer ei fam, Mair Clopas, a Mair o Fagdala. 26A phan welodd Iesu ei fam a’r disgybl a garai yn sefyll yn agos, medd ef wrth ei fam: “Mam, #19:26 Yn y Gr., wraig. dyma dy fab.” 27Yna medd ef wrth y disgybl: “Dyma dy fam.” Ac o hynny allan, cymerth y disgybl hi i’w gartref ei hun. 28Ar ôl hynny, dywedodd yr Iesu, ac yntau’n gwybod bod popeth bellach wedi dyfod i’r pen (fel y cyflawnid yr ysgrythur): “Y mae syched arnaf.” 29Yr oedd llestr wrth law yn llawn o finegr; felly dodasant yspwng yn llawn o finegr ar flaen picell, #19:29 Darllenir yma νσσω yn lle νσσωπω, hysop. a chyfodasant ef at ei enau. 30Felly pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd: “Dyma’r diwedd,” #19:30 Neu: Daeth i ben. ac wedi plygu ei ben, rhoddodd i fyny ei ysbryd. 31Felly, gan ei bod yn noswyl y Sabath, rhag i’r cyrff aros ar y groes ar y Sabath (canys y dydd Sabath mawr oedd hwnnw), gofynnodd yr Iddewon gan Bilat gael torri eu coesau hwynt a’u tynnu i lawr. 32Felly daeth y milwyr a thorasant goesau’r cyntaf ac yna’r ail a groeshoeliasid gydag ef. 33Ond pan ddaethant at yr Iesu, gan eu bod yn gweled ei fod eisoes wedi marw, ni thorasant ei goesau ef, 34ond gwanodd un o’r milwyr ei ochr â gwaywffon, ac ar unwaith daeth allan waed a dwfr. 35Ac y mae’r un a’i gwelodd wedi tystio, a gwir yw ei dystiolaeth ef, a gŵyr hwnnw ei fod yn dywedyd y gwir, er mwyn i chwithau hefyd gredu. 36Canys bu hynny fel y cyflawnid yr adnod: Asgwrn ohono ni ddryllir. 37Ac y mae adnod arall eto yn dywedyd: Edrychant ar yr hwn a drywanasant.
38Ond ar ôl hyn, gofynnodd Ioseff o Arimathea (ag yntau’n ddisgybl i’r Iesu, ond yn ddirgel rhag ofn yr Iddewon) gan Bilat a gâi gymryd ymaith gorff yr Iesu. A chaniataodd Pilat. Felly daeth a chymerth ymaith ei gorff ef. 39A daeth Nicodemus hefyd (a ddaethai ato y tro cyntaf yn y nos) a chanddo gymysgedd o fyrr ac aloes, tua chan pwys. 40Felly cymerasant gorff yr Iesu a rhwymasant ef â llieiniau gyda’r perlysiau, fel y mae’n arfer gan yr Iddewon at gladdu. 41Ac yr oedd gardd yn y lle y croeshoeliwyd ef, ac yn yr ardd fedd newydd na ddodasid neb ynddo hyd hynny. 42Yno, felly, o achos noswyl yr Iddewon, gan fod y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu.
Dewis Presennol:
Ioan 19: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945