Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 10

10
1Wedi hyn penododd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill, ac anfonodd hwynt bob yn ddau o’i flaen i bob dinas a man lle’r oedd ef ar fedr dyfod. 2Ac meddai wrthynt, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr; felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf. 3Ewch; dyma fi’n eich anfon chwi fel ŵyn i blith bleiddiaid. 4Na ddygwch bwrs, na chod, nac esgidiau, ac na chyferchwch neb ar y ffordd. 5I ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i’r tŷ hwn.’ 6Ac os bydd yno fab tangnefedd, fe orffwys eich tangnefedd arno; onid e, fe ddychwel arnoch chwi. 7Arhoswch yn y tŷ hwnnw, gan fwyta ac yfed a fo ganddynt, canys teilwng i’r gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ. 8Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a chael croeso, bwytewch yr hyn a osodir ger eich bron, 9ac iachewch y cleifion ynddi, a dywedwch wrthynt, ‘Nesaodd teyrnas Dduw atoch.’ 10Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a heb gael croeso, ewch allan i’w heolydd hi, a dywedwch, 11‘Hyd yn oed y llwch o’ch dinas chwi a lynodd wrth ein traed, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi; eithr gwybyddwch hyn, nesaodd teyrnas Dduw.’ 12Yr wyf yn dywedyd wrthych mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw nag i’r ddinas honno. 13Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm yr eisteddasent mewn sachliain a lludw ac yr edifarhasent. 14Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn nag i chwi. 15A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni. 16Y neb a wrendy arnoch chwi a wrendy arnaf innau, a’r neb a’ch gwrthyd chwi a’m gwrthyd innau; a’r neb a’m gwrthyd i a wrthyd yr hwn a’m danfonodd i.”
17A dychwelodd y deg a thrigain mewn llawenydd, gan ddywedyd, “Arglwydd, darostyngir hyd yn oed y cythreuliaid i ni yn dy enw di.” 18Dywedodd wrthynt, “Yr oeddwn yn gwylied Satan fel mellten yn syrthio o’r nef. 19Dyma fi wedi rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl allu’r gelyn, ac nid oes dim a’ch niweidia o gwbl oll. 20Eithr na lawenhewch am hyn, fod yr ysbrydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenhewch fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”
21Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, a dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti. 22Popeth a draddodwyd imi gan fy Nhad, ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab ond y Tad, a phwy yw’r Tad ond y Mab a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.” 23A throes at y disgyblion o’r neilltu, a dywedodd, “Gwyn eu byd y llygaid sy’n gweled yr hyn a welwch chwi. 24Canys meddaf i chwi, llawer o broffwydi a brenhinoedd a ddymunodd weled yr hyn a welwch chwi ac nis gwelsant, a chlywed yr hyn a glywch ac nis clywsant.”
25A dyma ryw gyfreithiwr yn codi i’w demtio, gan ddywedyd, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” 26Dywedodd yntau wrtho, “Beth sy’n ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa fodd y darlleni?” 27Atebodd yntau, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth ac â’th holl feddwl, a dy gymydog fel ti dy hun.” 28Dywedodd yntau, “Iawn yr atebaist; gwna hyn, a byw fyddi.” 29Yntau, yn dymuno ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, “A phwy sydd gymydog i mi?” 30Gan ddal ar ei air, dywedodd, yr Iesu, “Rhyw ddyn oedd yn mynd i lawr o Gaersalem i Iericho, ac fe syrthiodd ymhlith lladron, y rhai a’i diosgodd a’i guro, a mynd ymaith a’i adael yn hanner marw. 31A digwyddodd bod rhyw offeiriad yn mynd i lawr y ffordd honno, a phan welodd ef fe aeth o’r tu arall heibio. 32Yr un modd Lefiad hefyd a ddaeth i’r fan, a’i weled, a mynd o’r tu arall heibio. 33Ond rhyw Samariad ar ei daith a ddaeth lle’r oedd, a phan welodd ef fe dosturiodd wrtho, 34ac aeth ato a rhwymo’i archollion a thywallt arnynt olew a gwin; a gosododd ef ar ei anifail ei hun, a’i ddwyn i westy, a chymryd gofal ohono. 35A thrannoeth tynnodd allan ddau swllt, a rhoes hwynt i’r gwestywr, a dywedodd, ‘Cymer ofal ohono, a pha beth bynnag a wariech yn rhagor, ar fy ffordd yn ôl mi a’i talaf i ti.’ 36Pa un o’r tri hyn, dybi di, a fu gymydog i’r hwn a syrthiodd i blith y lladron?” 37Dywedodd yntau, “Yr un a wnaeth drugaredd ag ef.” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau’r un modd.”
38Ac ar eu taith aeth ef i mewn i ryw bentref. A rhyw wraig a’i henw Martha a’i croesawodd ef i’r tŷ. 39Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, ac eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd, a gwrandawai ar ei ymadrodd. 40Ond yr oedd Martha yn drysu gan gymaint o weini; a safodd a dywedodd, “Arglwydd, ai difater gennyt i’m chwaer fy ngadael wrthyf, fy hun i weini? Dywed wrthi, ynteu, am estyn cymorth i mi.” 41Atebodd yr Arglwydd a dywedodd wrthi, “Martha, Martha, pryderu a thyrfu’r wyt ynghylch llawer o bethau; 42nid rhaid ond wrth ychydig o bethau, neu un; canys Mair a ddewisodd y rhan dda, a honno nis dygir oddi arni.”

Dewis Presennol:

Luc 10: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda