Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 8

8
1Digwyddodd yn union wedyn ei fod ef yn teithio trwy ddinas a phentref, gan bregethu a chyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw, a’r deuddeg gydag ef, 2a rhai gwragedd a gawsai feddyginiaeth oddi wrth ysbrydion drwg a gwendidau, Mair a elwid Magdalen, yr aethai saith gythraul allan ohoni, 3a Ioana, gwraig Chwsas, goruchwyliwr Herod, a Swsanna ac eraill lawer, a gweinyddai’r rhain arnynt o’r hyn a oedd ganddynt.
4A phan oedd tyrfa fawr yn ei hebrwng a rhai; o bob dinas yn cyrchu ato, fe ddywedodd ar ddameg, 5“Aeth yr heuwr allan i hau ei had. Ac wrth iddo hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd, ac a sathrwyd, ac adar y nef a’i difaodd. 6A pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi iddo dyfu gwywodd, am nad oedd iddo leithder. 7Ac arall a syrthiodd ymysg y drain, a’r drain wedi cyd-dyfu ag ef a’i fagodd. 8Ac arall a syrthiodd yn y tir da, ac wedi iddo dyfu fe ddug ffrwyth ar ei ganfed.” Wrth ddywedyd hyn llefodd, “Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.” 9Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd y ddameg hon. 10Dywedodd yntau, “I chwi y rhoddwyd gwybod cyfrinion teyrnas Dduw, ond i’r lleill ar ddamhegion, fel er gweled na welont ac er clywed na ddeallont. 11Hyn yw’r ddameg. Yr had yw gair Duw. 12Y rhai ar fin y ffordd yw’r rhai a glywodd; yna daw’r diafol a dwyn ymaith y gair o’u calon, rhag iddynt gredu a chael eu cadw. 13Y rhai ar y graig yw’r rhai pan glywant sy’n derbyn y gair gyda llawenydd, ac nid oes ganddynt hwy wreiddyn; dros amser y credant hwy, ac yn amser temtasiwn gwrthgiliant. 14Y peth a syrthiodd i’r drain, hwy yw’r rhai a glywodd, a mynd a chael eu tagu gan bryderon a golud a phleserau bywyd, ac nid aeddfedant. 15Y peth yn y tir da, hwy yw’r rhai, wedi clywed y gair, a’i ceidw mewn calon lân a da, a dygant ffrwyth trwy ddyfalwch.
16Nid yw neb, wedi golau cannwyll, yn ei chuddio â llestr neu ei dodi o dan wely, eithr ei dodi ar ganhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau. 17Canys nid oes dim cuddiedig nas gwneir yn amlwg, na dim dirgel nas gwybyddir ac na ddaw i’r amlwg. 18Edrychwch, ynteu, pa fodd y gwrandewch; canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo, a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn a dybia ei fod ganddo a ddygir oddi arno.”
19Daeth ei fam a’i frodyr ato, ac ni fedrent ddyfod i’w ymyl oblegid y dyrfa. 20A mynegwyd iddo, “Mae dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan, ac yn dymuno dy weled.” 21Atebodd yntau iddynt, “Fy mam a’m brodyr i yw’r rhain, sy’n clywed gair Duw ac yn ei wneuthur.”
22Fe aeth ryw ddiwrnod i long, ef a’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i’r ochr draw i’r llyn.” A chychwynasant. 23Fel yr oeddent yn hwylio, syrthiodd i gysgu. A disgynnodd rhuthr o wynt ar y llyn, ac yr oeddent yn llenwi ac mewn perygl. 24Ac aethant ato a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Meistr, Meistr, yr ydym ar ddarfod amdanom.” Deffrôdd yntau, a cheryddodd y gwynt ac ymchwydd y dŵr, a pheidiasant, a bu gosteg. 25Dywedodd yntau wrthynt, “Pa le mae eich ffydd chwi?” Ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “Pwy, tybed, yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed i’r gwyntoedd a’r dŵr, a hwythau’n ufuddhau iddo?”
26A thiriasant yng ngwlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. 27Wedi iddo lanio, fe gyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, a chythreuliaid ynddo; ac ni wisgasai ddillad er ys talm, ac ni thrigai mewn tŷ, ond ymhlith y beddau. 28Pan welodd ef yr Iesu, gwaeddodd a syrthiodd ger ei fron, ac â llef uchel dywedodd, “Beth sy rhyngof i a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Erfyniai arnat, na ddirboena fi.” 29Canys gorchymyn yr oedd i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer gwaith y meddianesid ef ganddo; a chedwid ef wedi ei rwymo â chadwynau ac â llyffetheiriau, a thorrai’r rhwymau, a gyrrid ef gan y cythraul i’r diffeithleoedd. 30Gofynnodd yr Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” Dywedodd yntau, “Lleng.” Canys aeth cythreuliaid lawer i mewn iddo. 31Ac atolygent iddo na orchmynnai iddynt fyned i’r affwys. 32Yr oedd yno genfaint fawr o foch, yn pori ar y mynydd; ac atolygasant iddo ganiatáu iddynt fynd i mewn i’r rheini; a chaniataodd iddynt. 33Ac allan yr aeth y cythreuliaid o’r dyn, ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn, a boddi. 34Pan welodd y meichiaid y peth a ddigwyddodd, ffoesant, a’i fynegi yn y ddinas ac yn y wlad. 35Ac aethant allan i weled y peth a ddigwyddodd, a daethant at yr Iesu, a chawsant y dyn yr aethai’r cythreuliaid allan ohono yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll wrth draed yr Iesu, ac ofnasant. 36A mynegodd y rhai a’i gwelsai iddynt pa fodd yr iachawyd y cythreulig. 37A gofynnodd holl liaws ardal y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr yn eu dirwasgu. Aeth yntau i long, a dychwelodd. 38Deisyfai’r gŵr yr aethai’r cythreuliaid allan ohono am gael bod gydag ef, ond gollyngodd ef ymaith, gan ddywedyd, 39“Dychwel adref, a datgan pa faint a wnaeth Duw erot.” Ac aeth ymaith dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas pa faint a wnaethai’r Iesu erddo.
40Ar ddychweliad yr Iesu, croesawodd y bobl ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano. 41A dyma ŵr yn dyfod, a’i enw Iairus, a hwn oedd bennaeth y synagog, a chan syrthio wrth draed Iesu erfyniai arno ddyfod i’w dŷ, 42gan, fod iddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a’i bod hi ar farw. Ac wrth iddo fynd y tyrfaoedd oedd yn gwasgu arno. 43A gwraig ag arni ddiferlif gwaed ers deuddeng mlynedd, heb fedru cael meddyginiaeth gan neb, 44a ddaeth ato o’r tu ôl a chyffwrdd â thasel ei fantell, ac ar unwaith safodd diferlif ei gwaed hi. 45Dywedodd yr Iesu, “Pwy a gyffyrddodd â mi?” A phawb yn gwadu, dywedodd Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sydd yn cau amdanat ac yn dy ddirwasgu.” 46Dywedodd yr Iesu, “Cyffyrddodd rhywun â mi, canys mi wn i fod rhinwedd wedi mynd allan ohonof.” 47A gwelodd y wraig nad oedd wedi osgoi sylw, a daeth dan grynu, ac wedi syrthio ger ei fron mynegodd yng ngŵydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag ef, a’r modd yr iachawyd hi ar unwaith. 48Dywedodd yntau wrthi, “Fy merch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.” 49Ac ef eto’n llefaru, daw un o dŷ’r pensynagogydd, a dywedyd, “Mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni’r Athro.” 50Yr Iesu, pan glywodd, a’i hatebodd, “Paid ag ofni; yn unig cred, ac iacheir hi.” 51Wedi iddo ddyfod i’r tŷ, ni adodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago a thad yr eneth a’i mam. 52Yr oeddent oll yn wylo ac yn galaru amdani. Dywedodd yntau, “Peidiwch ag wylo; canys ni bu hi farw, eithr cysgu y mae.” 53A gwatwarant ef, am eu bod yn gwybod iddi farw. 54Gafaelodd yntau yn ei llaw, a galwodd gan ddywedyd, “Fy ngeneth, cyfod.” 55A dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith; gorchmynnodd yntau roi iddi beth i’w fwyta. 56A syfrdanwyd ei rhieni. Gorchmynnodd yntau iddynt na ddywedent wrth neb beth a ddigwyddodd.

Dewis Presennol:

Luc 8: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda