Luc 9
9
1Wedi: iddo alw’r deuddeg ynghyd, rhoes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid ac i iacháu clefydon, 2ac anfonodd hwynt i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu; 3a dywedodd wrthynt, “Na chymerwch ddim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, ac na fydded gennych ddwy grysbais. 4Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch. 5A pha rai bynnag ni’ch derbyniont, wrth ymadael o’r ddinas honno ysgydwch ymaith y llwch oddi ar eich traed er tystiolaeth yn eu herbyn.” 6Ac aethant ymaith, a mynd drwy’r pentrefydd gan gyhoeddi’r newyddion da ac iacháu ym mhob man.
7Clywodd Herod y tetrarch am yr holl bethau a oedd yn digwydd, ac yr oedd mewn penbleth am fod rhywrai’n dywedyd gyfodi o Ioan o feirw, a rhai mai Elïas a ymddangosodd, 8ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd. 9Dywedodd Herod, “Pen Ioan a dorrwyd gennyf i; pwy, ynteu, yw hwn y clywaf y cyfryw bethau amdano?” A cheisiai ei weled ef.
10A dychwelodd yr apostolion, ac adrodd iddo y cwbl a wnaethant. A chymerth hwynt a chilio o’r neilltu i ddinas a elwid Bethsaida. 11Ond gwybu’r tyrfaoedd, a’i ddilyn ef. A chroesawodd hwynt, a llefaru wrthynt am deyrnas Dduw, ac iacháu y rhai yr oedd eisiau meddyginiaeth arnynt. 12A dechreuodd y dydd ballu; a daeth y deuddeg ato; a dywedyd wrtho, “Gollwng y dyrfa, fel yr elont i’r pentrefydd a’r wlad oddi amgylch i letya a chael lluniaeth, canys yr ydym yma mewn lle anghyfannedd.” 13Dywedodd yntau wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Dywedasant hwythau; “Nid oes gennym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn, heb i ni fynd a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn.” 14Canys yr oeddent tua phum mil o wŷr. Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Perwch iddynt eistedd i lawr yn finteioedd, tua hanner cant yr un.” 15A gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd i lawr. 16Wedi iddo gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a bendithiodd hwynt a’u torri a’u rhoddi i’r disgyblion i’w gosod o flaen y dyrfa. 17A bwytasant, a, diwallwyd hwynt oll; a chodwyd o’r hyn a weddillasid iddynt o friwfwyd ddeuddeg basgedaid.
18A digwyddodd, ac yntau yn gweddïo o’r neilltu, fod ei ddisgyblion gydag ef, ac fe ofynnodd iddynt, “Pwy medd y tyrfaoedd ydwyf i?” 19Atebasant hwythau, “Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd.” 20Dywedodd wrthynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” Atebodd Pedr, “Crist Duw.” 21Rhybuddiodd yntau hwynt, a gorchymyn na ddywedent hyn wrth neb; 22a dywedodd, “Rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd ei gyfodi.” 23Ac meddai wrth bawb, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a dilyned fi. 24Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, fe’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei fywyd er fy mwyn i, hwnnw a’i ceidw. 25Canys pa faint gwell yw dyn o ennill yr holl fyd, a’i golli ei hun, neu ei golledu ei hun? 26Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof i ac o’m geiriau, bydd ar Fab y dyn gywilydd ohono yntau pan ddêl yn ei ogoniant a gogoniant ei Dad a’r angylion santaidd. 27Dywedaf wrthych yn wir, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw.”
28Oddeutu wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, fe gymerth Bedr ac Ioan ac Iago, ac aeth i fyny i’r mynydd i weddïo. 29Ac wrth iddo weddïo daeth newid ar wedd ei wyneb, ac aeth ei wisg yn wen lachar. 30A dyma ddau ŵr yn ymddiddan ag ef, sef Moses ac Elïas; 31ymddangosasant mewn gogoniant, a sôn am ei ymadawiad ef, a oedd ar fedr ei gyflawni yng Nghaersalem. 32A Phedr a’r rhai gydag, ef oedd yn drwm o gwsg; a phan ddeffroesant, gwelsant ei ogoniant ef a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag ef. 33A phan oeddent yn ymadael oddi wrtho, dywedodd Pedr wrth yr Iesu, “Meistr, da yw ein bod ni yma, a gwnawn dair pabell — un i ti, ac un i Foses, ac un i Elïas,” heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34Ac ef yn dywedyd hyn, daeth cwmwl i’w cysgodi hwynt. Ac ofnasant wrth fynd i mewn i’r cwmwl. 35A llef a ddaeth o’r cwmwl, yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab, fy etholedig; gwrandewch arno ef.” 36Ac wedi’r llef, cafwyd Iesu yn unig. A thewi a wnaethant hwy; ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
37Digwyddodd drannoeth wedi iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38A dyma ŵr o’r dyrfa yn llefain, gan ddywedyd, “Athro, yr wyf yn erfyn arnat edrych ar fy mab, canys unig blentyn yw i mi; 39ac wele y mae ysbryd yn ei gymryd, a dolefa yntau yn sydyn; a dirdynna ef, ac yntau’n malu ewyn; a phrin gan ei lethu yr ymedy oddi wrtho. 40Ac erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw ef allan, ac nis gallasant.” 41Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac y’ch goddefaf? Dwg yma dy fab.” 42A phan oedd eto yn dyfod, hyrddiodd y cythraul ef i lawr, a’i ddirdynnu. Ceryddodd yr Iesu yr ysbryd aflan, ac iachaodd y bachgen, a’i roi’n ôl i’w dad. 43A synnai pawb at fawredd Duw.
A phawb yn rhyfeddu at yr holl bethau a wnâi, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 44“Gwrandewch chwi yn ddyfal ar y geiriau hyn: y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion.” 45Nid oeddent hwythau’n deall yr ymadrodd hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt fel na allasent ei amgyffred, ac ofnent ei holi am yr ymadrodd hwn.
46Ac aeth yn ddadl yn eu plith pa un ohonynt a fyddai fwyaf. 47A’r Iesu, yn gwybod dadl eu calon hwynt, a gymerth blentyn, a’i osod yn ei ymyl; 48a dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag a dderbynio’r plentyn hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i, a phwy bynnag a’m derbynio i, y mae’n derbyn yr hwn a’m hanfonodd i; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.” 49Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw cythreuliaid allan yn dy enw di, a cheisiasom wahardd iddo am nad yw yn canlyn gyda ni.” 50Dywedodd yr Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd; canys y neb nid yw i’ch erbyn, o’ch plaid y mae.”
51A chan fod dyddiau ei ddyrchafael yn dirwyn i ben, gosododd ei fryd ar fyned i Gaersalem, ac anfonodd genhadau o’i flaen. 52Ac aethant, a dyfod i mewn i bentref o Samariaid i baratoi ar ei gyfer, 53ac nis derbyniasant ef am fod ei fryd ar fynd i Gaersalem. 54Pan welodd y disgyblion, Iago ac Ioan, dywedasant, “Arglwydd, a gawn ni ddywedyd am i dân ddisgyn o’r nef a’u difa hwynt?” 55Troes yntau, a’u ceryddu. 56Ac aethant i bentref arall.
57A hwy’n myned, ar y ffordd dywedodd rhywun wrtho: “Mi’th ddilynaf, pa le bynnag yr elych.” 58A dywedodd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.” 59Dywedodd wrth un arall, “Dilyn fi.” Dywedodd yntau, “Caniatâ i mi yn gyntaf fynd i gladdu fy nhad.” 60Dywedodd wrtho, “Gad i’r meirw gladdu eu meirw, a dos dithau a chyhoedda deyrnas Dduw.” 61Un arall eto a ddywedodd wrtho, “Mi’th ddilynai di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu’n iach i’r rhai sydd gartref.” 62Dywedodd yr Iesu wrtho, “Nid oes neb sy’n rhoi ei law ar aradr ac yn edrych yn wysg ei gefn yn gymwys i deyrnas Dduw.”
Dewis Presennol:
Luc 9: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: