Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 13

13
1-2Y dydd hwnnw aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac eistedd ar lan y môr; ac ymgasglodd ato dyrfaoedd lawer, nes iddo fynd i’r llong ac eistedd ynddi, a safai’r holl dyrfa ar y lan. 3A llefarodd wrthynt lawer ar ddamhegion gan ddywedyd, “Wele, aeth yr heuwr allan i hau; 4ac wrth iddo hau, syrthiodd rhai o’r had ar fin y ffordd, a daeth yr adar a’u difa. 5Ac eraill a syrthiodd ar y creigleoedd lle nid oedd iddynt fawr ddaear; ac yn ebrwydd y tarddasant am nad oedd iddynt ddyfnder daear. 6A phan gododd yr haul, fe’u deifiwyd; ac am nad oedd iddynt wreiddyn, gwywasant. 7Ac eraill a syrthiodd ar y drain, a thyfodd y drain, a’u tagu. 8Ac eraill a syrthiodd ar y tir da; a rhoi ffrwyth, peth gant, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain. 9Y neb sydd ganddo glustiau, gwrandawed.”
10A daeth y disgyblion ato a dywedyd wrtho, “Paham y lleferi wrthynt ar ddamhegion?” 11Atebodd yntau, “I chwi y rhoddwyd gwybod cyfrinion teyrnas nefoedd; ond i’r rhai acw nis rhoddwyd. 12Canys pwy bynnag sydd ganddo, fe roddir iddo ac fe roddir yn helaeth; ond pwy bynnag nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno. 13Am hyn yr wyf, yn llefaru wrthynt ar ddamhegion, sef am na welant er gweled, ac am na chlywant er clywed, ac na ddeallant. 14A chyflawnir ynddynt broffwydoliaeth Eseia sy’n dywedyd,
Er clywed a chlywed, eto ni ddeellwch,
Ac er gweled a gweled, eto ni chanfyddwch.
15 Canys brasawyd calon y genedl hon,
Ac â’u clustiau y clywsant yn drwm,
A’u llygaid a gaeasant;
Rhag ysgatfydd iddynt ganfod â’u llygaid,
Ac â’u clustiau glywed,
Ac â’u calon ddeall, a throi ohonynt,
Ac i mi eu hiacháu.
16Ond chwychwi, dedwydd yw eich llygaid am eu bod yn gweled, a’ch clustiau am eu bod yn clywed. 17Canys yn wir meddaf i chwi, llawer o broffwydi a rhai cyfiawn a chwenychodd weled y pethau a welwch, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau a glywch, ac nis clywsant.
18Chwychwi gan hynny, clywch ddameg yr heuwr. 19Pan glywo neb air y deyrnas a heb ei ddeall, fe ddaw’r un drwg, a chipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Hwn yw’r un a heuwyd ar fin y ffordd. 20A’r un a heuwyd ar y creigleoedd, hwn yw’r un a glyw’r gair ac yn ebrwydd gyda llawenydd a’i derbyn ef; 21ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo’i hun, eithr dros amser y mae, a phan ddêl gwasgfa neu erlid o achos y gair; yn ebrwydd y rhwystrir ef. 22A’r un a heuwyd yn y drain, hwn yw’r un a glyw’r gair, a phryder y byd a hudoliaeth golud a dag y gair, a diffrwyth fydd. 23A’r un a heuwyd ar y tir da, hwn yw’r un a glyw’r gair ac a’i deall, a hwnnw a ddwg ffrwyth ac a rydd beth gant, peth drigain, a pheth ddeg ar hugain.”
24Dameg arall a osododd ef ger eu bron, gan ddywedyd, “Cyffelyb i deyrnas nefoedd oedd dyn a heuodd had da yn ei faes; 25a phan oedd dynion yn cysgu daeth ei elyn, a heuodd efrau hefyd ymysg yr ŷd, ac aeth ymaith. 26A phan dyfodd yr eginyn a dwyn ffrwyth, yna’r ymddangosodd hefyd yr efrau. 27A phan ddaeth gweision y penteulu dywedasant wrtho, ‘Meistr, onid had da a heuaist yn dy faes? o ba le, ynteu, y mae iddo efrau?’ 28Ebe yntau wrthynt, ‘Gŵr o elyn a wnaeth hyn.’ Ac medd y gweision wrtho, ‘A fynni di, ynteu, i ni fynd i’w casglu hwynt?’ 29Medd yntau, ‘Na’, rhag ofn i chwi wrth gasglu’r efrau ddiwreiddio’r ŷd gyda hwynt. 30Gedwch i’r ddau gyd-dyfu hyd y cynhaeaf; ac yn amser y cynhaeaf mi ddywedaf wrth y medelwyr, ‘Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn sypiau i’w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i’m hysgubor’.”
31Dameg arall a osododd ef ger eu bron, gan ddywedyd, “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i hau yn ei faes; 32hwnnw, lleiaf yw o’r holl hadau; ond pan dyfo, mwy na’r llysiau yw, ac fe ddaw’n bren nes dyfod adar yr awyr, a nythu yn ei gangau.”
33Dameg arall a lefarodd ef wrthynt: “Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.” 34Hyn oll a lefarodd yr Iesu ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd, a heb ddameg ni lefarai ddim wrthynt; 35fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwyd,
Agoraf fy ngenau ar ddamhegion,
Traethaf bethau sy guddiedig er seiliad y byd.
36Yna wedi gollwng y tyrfaoedd, fe aeth i’r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, “Eglura i ni ddameg efrau’r maes.” 37Atebodd yntau, “Heuwr yr had da yw Mab y dyn; 38a’r maes yw’r byd; yr had da, y rhain yw meibion y deyrnas, a’r efrau yw meibion yr un drwg,#13:38 Neu, y drwg 39a’r gelyn a’u heuodd yw’r diafol; y cynhaeaf, terfyniad yr oes yw, a’r medelwyr yw’r angylion. 40Megis, ynteu, y cesglir yr efrau a’u llosgi yn tân, felly y bydd yn nherfyniad yr oes. 41Denfyn mab y dyn ei angylion, a chasglant allan o’i deyrnas ef bob rhwystrau a gwneuthurwyr anghyfraith, 42a bwriant hwynt i’r ffwrn dân; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 43Yna y rhai cyfiawn a ddisgleiria fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y neb sy ganddo glustiau, gwrandawed.
44Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio yn y maes, yr hwn a gafodd dyn a’i guddio, ac yn ei lawenydd y mae’n mynd ac yn gwerthu’r cwbl sy ganddo, ac yn prynu’r maes hwnnw.
45Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i fasnachwr yn ceisio perlau teg, 46ac wedi cael un perl gwerthfawr aeth a gwerthodd y cwbl a oedd ganddo, a phrynodd ef.
47Drachefn cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd i’r môr, ac a ddaliodd bysg o bob math; 48a phan lanwodd, tynasant hi i’r lan, ac wedi eistedd cynullasant y rhai da i lestri, a bwrw ymaith y rhai sâl. 49Felly y bydd yn nherfyniad yr oes; fe â’r angylion allan a didolant y rhai drygionus o blith y cyfiawn, 50a bwriant hwynt i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
51A ddeallasoch chwi hyn oll?” Dywedant wrtho, “Do.” 52Dywedodd yntau wrthynt, “Wrth hynny, pob ysgrifennydd a addysgwyd yn nheyrnas nefoedd,#13:52 Hynny yw, yng ngwirioneddau teyrnas nefoedd. cyffelyb yw i ddyn o benteulu, a ddwg allan o’i drysor bethau newydd a hen.”
53A phan orffennodd yr Iesu’r damhegion hyn fe symudodd oddi yno. 54A daeth i’w gynefin a’u dysgu hwynt yn eu synagog, nes iddynt synnu a dywedyd, “O ba le y daeth i hwn y ddoethineb hon a’r grymusterau? 55Onid hwn yw mab y saer? Onid Mair y gelwir ei fam, a’i frodyr yn Iago ac Ioseff a Simon ac Iwdas? 56A’i chwiorydd, onid ydynt oll gyda ni? O ba le gan hynny y daeth i hwn y pethau hyn oll?” 57A thramgwydd oedd iddynt. A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei gynefin ac yn ei gartref.” 58Ac ni wnaeth ef yno rymusterau lawer oherwydd eu hanghrediniaeth hwynt.

Dewis Presennol:

Mathew 13: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda