Mathew 7
7
1-2Na fernwch, fel na’ch barner; canys â’r farn y bernwch y’ch bernir, ac â’r mesur y mesurwch y mesurir i chwi. 3A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad di? 4Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r fflewyn o’th lygad,’ a dyna’r trawst yn dy lygad di? 5Ragrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn o lygad dy frawd.
6Na rowch y peth sy santaidd i’r cŵn, ac na theflwch eich perlau o flaen y moch, rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi a’ch rhwygo chwi.
7Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. 8Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir. 9Neu ba ddyn sydd ohonoch, y gofyn ei fab iddo am dorth, — a ddyry garreg iddo? 10neu os gofyn iddo am bysgodyn, — a ddyry sarff iddo? 11Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofyn iddo? 12Popeth, ynteu, a fynnoch i ddynion eu gwneuthur i chwi, gwnewch chwithau felly iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
13Ewch i mewn trwy’r porth cul; canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sy’n arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sy’n mynd i mewn ar hyd-ddi; 14canys cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i’r bywyd, ac ychydig yw’r rhai sy’n cael hyd iddi.
15Gochelwch y gau broffwydi, sy’n dyfod atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn sy’n lleiddiaid rheibus. 16Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yn sicr ni chasgl neb rawnwin oddi ar ddrain neu ffigys oddi ar ysgall? 17Felly pob pren da a rydd ffrwythau da, ond y pren sâl a rydd ffrwythau gwael. 18Ni all pren da ddwyn ffrwythau gwael, na phren sâl ddwyn ffrwythau da. 19Pob pren ni roddo ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. 20Gan hynny wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt.
21Nid pob un sy’n dywedyd wrthyf, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ a â i mewn i deyrnas nefoedd, ond y neb a wnêl ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd. 22Llawer a ddywed wrthyf yn y dydd hwnnw, ‘Arglwydd, Arglwydd, oni phroffwydasom yn dy enw, a bwrw allan gythreuliaid yn dy enw, a gwneuthur grymusterau lawer yn dy enw?’ 23Ac yna y cyfaddefaf wrthynt, ‘Ni’ch adnabûm chwi erioed; ewch ymaith oddi wrthyf, weithredwyr anghyfraith.’
24Pob un, ynteu, a glyw fy ngeiriau hyn, ac a’u gwna, a gyffelybir i ŵr call a adeiladodd ei dŷ ar y graig; 25a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd, a syrthiasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, canys sylfaenesid ef ar y graig. 26A phawb a glyw fy ngeiriau hyn, ac nis gwna, a gyffelybir i ŵr ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod; 27a disgynnodd y glaw, a daeth y llifogydd, a chwythodd y gwyntoedd a churasant ar y tŷ hwnnw, ac fe syrthiodd, a’i gwymp a fu fawr.”
28A phan orffennodd yr Iesu’r geiriau hyn fe synnai’r torfeydd at ei ddysgeidiaeth; 29canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion hwy.
Dewis Presennol:
Mathew 7: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fen.png&w=128&q=75)