Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 8

8
1Wedi iddo ddyfod i lawr o’r mynydd canlynodd tyrfaoedd lawer ef. 2A dyma wahanglwyfus yn dyfod ato, ac yn ymgrymu iddo gan ddywedyd, “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.” 3Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn y fan glanhawyd ei wahanglwyf. 4Ac medd yr Iesu wrtho, “Gwylia na ddywedi wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, a dwg yr offrwm a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
5Ac wedi iddo fynd i mewn i Gapernaum daeth ato ganwriad gan erfyn arno, 6a dywedyd, “Syr, y mae fy ngwas yn gorwedd yn tŷ yn barlysedig, mewn poenau ofnadwy.” 7Medd ef wrtho, “Mi ddof i i’w iacháu ef.” 8Atebodd y canwriad, “Syr, nid wyf ddigon da i ti ddyfod dan fy nghronglwyd; eithr yn unig dywed y gair, ac fe iacheir fy ngwas. 9Canys dyn dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf, a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.” 10A phan glywodd yr Iesu fe ryfeddodd, a dywedodd wrth ei ganlynwyr, “Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymaint ffydd gan neb yn Israel. 11Ac meddaf i chwi, llawer o’r dwyrain a’r gorllewin a ddaw ac eistedd wrth y bwrdd gydag Abraham ac Isaac ac Iacob yn nheyrnas nefoedd; 12ond meibion y deyrnas a fwrir i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.” 13A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, “Dos; megis y credaist bydded i ti.” Ac iachawyd ei was yr awr honno.
14A daeth yr Iesu i dŷ Pedr, a gwelodd ei chwegr ef yn orweiddiog, ac mewn twymyn; 15a gafaelodd yn ei llaw, a gadawodd y dwymyn hi; a chododd hithau a mynd i weini arno. 16Ac wedi iddi hwyrhau, dygasant ato gythreuligion lawer; a bwriodd allan yr ysbrydion â gair, a’r holl gleifion a iachaodd; 17fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy Eseia’r proffwyd, Ef a gymerth ein gwendidau ni, ac a ddug ymaith ein clefydau.
18Pan welodd yr Iesu dyrfa o’i amgylch fe orchmynnodd fynd i’r ochr draw. 19A daeth rhyw ysgrifennydd, a dywedyd wrtho, “Athro, mi a’th ddilynaf pa le bynnag yr elych.” 20Ac medd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.” 21Un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, “Arglwydd, caniatâ i mi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” 22A dywed yr Iesu wrtho, “Dilyn fi, a gad i’r meirw gladdu eu meirw.” 23Ac aeth i’r llong, a’i ddilyn a wnaeth ei ddisgyblion. 24A dyna gynnwrf mawr yn codi yn y môr, nes cuddio’r llong gan y tonnau; ond yr oedd ef yn cysgu. 25Ac aethant ato, a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Achub, Arglwydd, mae ar ben arnom.” 26A dywed wrthynt, “Paham yr ydych mor ofnus, rai bychain eu ffydd?” Yna fe gododd, a cheryddodd y gwyntoedd a’r môr, a bu dawelwch mawr. 27A rhyfeddodd y dynion, gan ddywedyd, “Pa fath un yw hwn, gan fod hyd yn oed y gwyntoedd a’r môr yn ufuddhau iddo?”
28Ac wedi ei ddyfod i’r ochr draw i wlad y Gadareniaid, cyfarfu ag ef ddau gythreulig yn dyfod allan o blith y beddau, rhai ffyrnig iawn, fel na allai neb fyned heibio hyd y ffordd honno. 29A dyna hwy’n gweiddi, ac yn dywedyd “Beth sy rhyngom ni a thi, Fab Duw? A ddaethost ti yma cyn yr amser i’n dirboeni ni?” 30Ac yn bell oddi wrthynt yr oedd cenfaint o foch lawer yn pori. 31Ac atolygai’r cythreuliaid iddo gan ddywedyd, “Os wyt am ein bwrw ni allan, anfon ni i’r genfaint foch.” 32Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch.” Daethant hwythau allan a mynd i’r moch, a dyna’r holl genfaint yn rhuthro dros y dibyn i’r môr, ac yn trengi yn y dyfroedd. 33A ffodd y meichiaid; ac wedi mynd ymaith i’r ddinas, mynegasant bopeth, yn enwedig hanes y cythreuligion. 34A dyna’r holl ddinas yn mynd allan i gyfarfod â’r Iesu, a phan welsant ef erfyniasant arno ymadael o’u gororau hwynt.

Dewis Presennol:

Mathew 8: CUG

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda