Mathew 9
9
1Ac fe aeth i long, a chroesodd, a daeth i’w ddinas ei hun. 2A dyna hwy’n dwyn ato un parlysedig yn gorwedd ar wely. A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, fe ddywedodd wrth y parlysedig, “Cod dy galon, fy mab, maddeuwyd dy bechodau.” 3A dyna rai o’r ysgrifenyddion yn dywedyd ynddynt eu hunain, “Mae hwn yn cablu.” 4A gwybu’r Iesu eu meddyliau hwynt, a dywedodd, “Paham y meddyliwch bethau drwg yn eich calonnau? 5Canys beth sydd hawsaf, ai dywedyd ‘Maddeuwyd dy bechodau’ ai dywedyd ‘Cyfod a rhodia’? 6Ond fel y gwypoch fod awdurdod gan Fab y dyn ar y ddaear i faddau pechodau” — yna medd ef wrth y parlysedig, “Cyfod, cymer dy wely a dos adref.” 7Ac fe gyfododd, ac aeth ymaith adref. 8A phan welodd y tyrfaoedd, ofni a wnaethant, a gogoneddu Duw, a roes y fath awdurdod i ddynion. 9Ac wrth i’r Iesu fynd heibio oddi yno fe welodd ddyn yn eistedd wrth y dollfa, a’i enw Mathew, ac medd wrtho, “Dilyn fi.” A chododd a dilynodd ef. 10A digwyddodd, ac ef ar bryd bwyd yn tŷ, dyna hefyd lawer o drethwyr a phechaduriaid yn dyfod ac yn cyd-eistedd â’r Iesu ac â’i ddisgyblion. 11A phan welodd y Phariseaid, meddent wrth ei ddisgyblion, “Paham y bwyta eich Athro gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?” 12Clywodd yntau, a dywedodd, “Nid rhaid i’r iach wrth feddyg, ond y rhai gwael. 13Eithr ewch a dysgwch beth yw Trugaredd a fynnaf ac nid aberth. Canys ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid.”
14Yna daw ato ddisgyblion Ioan gan ddywedyd, “Paham yr ymprydiwn ni a’r Phariseaid, ac nad ymprydia dy ddisgyblion di?” 15A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A all gwesteion y briodas alaru tra fo’r priodfab gyda hwynt? Ond fe ddaw dyddiau pan ddyger oddi wrthynt y priodfab, ac yna yr ymprydiant. 16Ni ddyd neb glwt o frethyn crai#9:16 Gr., heb ei bannu. ar hen ddilledyn; canys tyn y darn llanw oddi wrth y dilledyn, a gwaeth rhwyg a fydd. 17Ni roddant chwaith win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwygir y crwyn, a’r gwin a red allan, a’r crwyn a ddifethir; eithr rhoddant win newydd mewn crwyn newydd, a’r naill a’r llall a gedwir.”
18Ac yntau’n llefaru’r pethau hyn wrthynt, dyma ryw bennaeth yn dyfod ac yn ymgrymu iddo, gan ddywedyd, “Fy merch sydd newydd farw; eithr tyred a dod dy law arni, a hi fydd byw.” 19A chododd yr Iesu a’i ddilyn ef, a’i ddisgyblion hefyd. 20A dyna wraig â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd yn dyfod o’r tu ôl, a chyffwrdd â thasel ei fantell; 21canys dywedai ynddi ei hun, “Os caf yn unig gyffwrdd â’i fantell, iach fyddaf.” 22A’r Iesu a droes a’i gweled hi, a dywedodd, “Cod dy galon, fy merch; dy ffydd a’th iachaodd.” Ac iachawyd y wraig o’r awr honno. 23A daeth yr Iesu i dŷ’r pennaeth, ac wrth weled y pibyddion a’r dyrfa’n terfysgu, 24meddai, “Ewch ymaith, canys ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae.” A gwatwarasant ef. 25Ond pan yrrwyd y dyrfa allan, fe aeth i mewn a gafael yn ei llaw hi; a chododd yr eneth. 26Ac aeth y sôn am hyn allan drwy’r holl fro honno.
27Ac wrth i’r Iesu fyned oddi yno, dilynodd dau ddyn dall ef, gan weiddi a dywedyd, “Tosturia wrthym, fab Dafydd.” 28Ac wedi iddo fynd i’r tŷ daeth y deillion ato, ac medd yr Iesu wrthynt, “A ydych yn credu y gallaf wneuthur hyn?” Meddant wrtho, “Ydym, Arglwydd.” 29Yna cyffyrddodd â’u llygaid hwynt gan ddywedyd, “Yn ôl eich ffydd boed i chwi.” 30Ac agorwyd eu llygaid hwynt. A chwyrn rybuddiodd yr Iesu hwynt gan ddywedyd, “Gwyliwch! Na chaffed neb wybod!” 31Ond aethant hwythau allan, a thaenu’r sôn amdano yn yr holl fro honno.
32A hwy’n mynd allan, dyma rai’n dwyn ato fudan cythreulig. 33A phan fwriwyd y cythraul allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd, gan ddywedyd, “Ni welwyd erioed y fath beth yn Israel.” 34Ond dywedai’r Phariseaid, “Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
35Ac âi’r Iesu o amgylch y dinasoedd oll a’r pentrefi gan ddysgu yn eu synagogau hwynt, a chyhoeddi efengyl y deyrnas, ac iacháu pob clefyd a phob llesgedd. 36Ac wrth weled y tyrfaoedd bu ddrwg ganddo drostynt, am eu bod yn flin ac wedi ymollwng fel defaid heb ganddynt fugail. 37Yna medd ef wrth ei ddisgyblion, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr; 38felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf.”
Dewis Presennol:
Mathew 9: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945

: