Marc 16
16
1Ac wedi i’r Sabath fynd heibio prynodd Mair o Fagdala, a Mair mam Iago, a Salome, beraroglau i fynd i’w eneinio ef. 2Ac yn fore iawn y dydd cyntaf o’r wythnos deuant at y bedd, a’r haul wedi codi. 3Ac meddent wrth ei gilydd, “Pwy a dreigla ymaith i ni y maen o ddrws y bedd?” 4Ond erbyn codi eu golwg, sylwant fod y maen wedi ei dreiglo’n ol — yr oedd yn un mawr anferth. 5Ac wedi mynd i mewn i’r bedd gwelsant ddyn ieuanc yn eistedd ar y ddeheu, ag amdano wisg wenllaes, ac arswydasant. 6Medd yntau wrthynt, “Nac arswydwch; Iesu a geisiwch, y Nasaread croeshoeliedig; fe gyfododd; nid yw yma; dyma’r fan y dodasant ef. 7Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Bedr, ‘Y mae ef yn myned o’ch blaen i Galilea; yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’ ” 8Ac aethant allan, a ffoesant oddiwrth y bedd, canys yr oedd arnynt ddychryn a syfrdandod. Ac ni ddywedasant ddim wrth neb; canys ofnent — #16:8 Y mae’r rhelyw o’r llyfr ar goll. Yn y llawysgrifau hynaf oll diwedda yma. Mewn gwahanol lawysgrifau eraill ceir dau ddiweddiad gwahanol, a ychwanegir yma fel dau atodiad. Priodolir y rhai hyn i’r ail ganrif.
ATODIAD
9Ac wedi cyfodi ohono yn fore y dydd cyntaf o’r wythnos, fe ymddangosodd gyntaf i Fair o Fagdala, y bwriasai ohoni saith o gythreuliaid. 10Aeth honno, a mynegodd i’r rhai a fuasai gydag ef, a hwy’n galaru ac yn wylofain; 11a’r rheini pan glywsant ei fod yn fyw, a’i weled ganddi, a anghredasant. 12Ac wedi hynny i ddau ohonynt yr ymddangosodd mewn ffurf arall, a hwy yn cerdded ar eu ffordd i’r wlad; 13ac aeth y rheini ymaith, a mynegasant i’r gweddill; ond i’r rheini chwaith ni chredasant. 14Ac yn ddiweddarach fe ymddangosodd i’r un-ar-ddeg, a hwythau ar bryd bwyd, ac edliwiodd iddynt eu hanghrediniaeth a’u cyndynrwydd, am na chredasent i’r rhai a’i gwelsai wedi cyfodi. 15A dywedodd wrthynt, “Ewch i’r holl fyd, a phregethwch yr efengyl i bob creadur. 16Y neb a gredo ac a fedyddier a achubir; ond y neb ni chredo a gondemnir. 17Ac yn arwyddion, y pethau hyn a ddilyn i’r rhai a gredo: yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid; â thafodau newyddion y llefarant; 18mewn seirff y gafaelant; ac os yfant beth marwol nis niweidia hwynt ddim; ar gleifion y dodant ddwylo, ac iach fyddant.” 19Ac felly’r Arglwydd Iesu, wedi llefaru wrthynt, a gymerwyd i fyny i’r nef,#2 Bren. 2:11. ac a eisteddodd ar ddeheulaw Duw.#Salm 110:1. 20Aethant hwythau allan, a phregethasant ym mhobman, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion a ddilynai.
ATODIAD ARALL
Ond y cwbl a orchmynnwyd iddynt a fynegasant ar fyr eiriau i Bedr a’r rhai oedd gydag ef. Ac wedi hynny yr Iesu ei hunan a anfonodd trwyddynt hwy, o ddwyrain hyd orllewin, santaidd ac anllygradwy genadwri’r dragwyddol iechydwriaeth.
Dewis Presennol:
Marc 16: CUG
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945