Eseia 10
10
PEN. X.
1Gwae i wneuthurwyr deddfau anwir;
Ac idd yr ysgrifenyddion a ysgrifenant flinder:
2I ymchwelyd y tlodion oddi wrth frawd,
Ac i dreisiaw barn anghenogion fy mhobl;
Mal y byddo gweddwon yn yspail iddynt,
Ac yr anrheithiont yr amddifaid.
3Ond pa beth a wnewch yn nydd yr ymweliad,
Ac yn y dystryw a ddaw o bell?
At bwy y ffowch am gynnorthwy?
A pha le y gadewch eich gogoniant?
4Hebof fi y crymant ymhlith carcharorion,
Ac ymhlith y lladdedigion y syrthiant.
Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef,
Ac hyd yn hyn ei law sydd estynedig.
5Gwae yr Assyriad, gwialen fy llid;
A ffon hwn yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint.
6At genedl halogedig yr anfonaf;
Ac yn erbyn pobl fy nigllonedd y gorchymynaf iddo
Yspeiliaw yspail, ac anrheithiaw anrhaith;
Ac i eu gosawd hwynt yn sathrfa megys tom yr heolydd.
7Ond efe nid felly yr amcana,
Ac ei galon ef nid felly y meddylia;
Eithr am ddyfetha sydd yn ei galon ef,
Ac am dòri ymaith genedloedd nid ychydig.
8Canys dyweda,
Onid ynt fy nhywysogion oll yn freninoedd?
9Onid fal Carcemis yw Calno?
Onid fal Arpad, Chamath?
Onid fal Damascus, Samaria?
10Megys y cyrhaeddodd fy llaw dëyrnasoedd yr eilunod,
Ac eu delwau cerfiedig hwy a ragorant ar eiddaw Ierusalem a Samaria;
11Onid megys y gwneuthym i Samaria ac idd ei heilunod,
Efelly y gwnaf i Ierusalem ac idd ei delwau?
12A bydd pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith,
Yn mynydd Sïon, ac yn Ierusalem;
Yr ymwelaf â ffrwyth mawredd calon brenin Assyria,
A â gogoniant uchelder ei lygaid.
13Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthym hyn,
A thrwy fy noethineb, o herwydd deallgar ydwyf.
Ac mi a symudais derfynau pobloedd,
Ac eu trysorau hwynt a yspeiliais;
A bwriais, mal gwr grymus, y trigolion i lawr.
14Cafodd fy llaw hefyd hyd i gyfoeth y bobloedd, mal nyth;
Ac megys y cesglir wyau a adawid,
Y cesglais innau yr holl ddaiar;
Ac nid oedd neb yn symud aden;
Nac yn agoryd safn, nac yn clegyr.
15A ymffrostia y fwyell yn erbyn yr hwn a gymyno â hi?
A ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn sydd yn ei siglaw?
Megys pe y siglai gwialen y sawl sydd yn ei chodi i fyny!
Megys pe y codai ffon ei pherchen i fyny!
16Am hyny yr anfona yr Arglwydd,
Arglwydd y lluoedd, ar ei freision ef gulni;
A than ei ogoniant y llosga llosgiad, megys Ilosgiad tân.
17A bydd goleuni Israel yn dân,
Ac ei Sant yn fflam;
Ac efe a losga ac a ysa ei ddrain ef, ac ei fieri, mewn un dydd.
18Gogoniant ei goedwig hefyd, ac ei ddoldir,
O yr enaid hyd y cnawd, a ysa efe;
A byddant megys pan y llesmeirio gwr claf.
19A phrenau gweddill ei goed ef a fyddant o nifer
Mal y rhifo plentyn hwynt.
20A bydd yn y dydd hwnw,
Na chwanega gweddill Israel,
Ac y diangawl o dŷ Iacob,
Ymbwysaw mwy ar eu tarawydd:
Ond ymbwysant ar Iehofah,
Sant Israel, mewn gwirionedd.
21Gweddill a ddychwela, gweddill Iacob,
At y Duw cadarn.
22Canys pe byddai dy bobl di, Israel, mal tywawd y môr,
Gweddill a ddychwela o honynt.
Difrodiad a benodwyd,
Yn gorlifaw o gyfiawnder;
23Canys difrawd, a dystryw,
A wna yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd.
Ynghanol yr holl dir.
24Er hyny fal hyn y dweda yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd,
Fy mhobl a breswyli yn Sïon,
Nac ofna rhag yr Assyriad:
A gwialen y tarawa,
Ac ei ffon a gyfoda efe yn dy erbyn yn ol ffordd yr Aipht.
25Canys etto ychydig bach, a derfydda llid,
Ac fy nigofaint yn eu dinystr hwynt.
26A Iehofah y lluoedd a ddeffroa ffrewyll yn ei erbyn,
Mal taraw Midian wrth graig Oreb,
Neu ei wialen ar y môr;
A chyfoda hi yn ol ffordd yr Aipht.
27A bydd yn y dydd hwnw,
Y symudir ei faich oddi ar dy ysgwydd,
Ac ei iau oddi ar dy wàr,
A dryllir yr iau gan dewder.
28Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron;
Yn Michmas y rhoddes ei beiriannau i gadw.
29Aethant dros y bwlch; Geba yw y lletty, y man y llettyasant;
Dychrynodd Ramah; ffoes Gibeah Saul.
30Cyfoda dy lef, merch Galim! Gwrandawa tua Lais,
O Anathoth druan!
31Mudodd Madmenah; ymgasglasant drigolion Gebim i ffoi.
32Eto bydd un dydd i sefyll yn Nob,
Yna y sigla ei law yn erbyn mynydd merch Sïon,
Bryn Ierusalem.
33Wele, yr Arglwydd, Iehofah y lluoedd,
Yn ysgythru y gangen gyda grym ofnadwy;
A thorir ymaith y rhai uchel o daldra,
Ac y rhai goruchel a ostyngir.
34Ac efe a drycha frysglwyni y coed â haiarn,
A Libanus drwy un Cadarn a gwymp.
Dewis Presennol:
Eseia 10: TEGID
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cafodd Argraffiad Digidol Salmau 1-20 a detholiad o Ruth ac Eseia ei ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2021.