Lyfr y Psalmau 18
18
1Ti, Dduw, a garaf; ynot Ti
Y mae i mi gadernid;
2Yr Arglwydd immi ’n Graig y sydd,
Efe a’m rhydd mewn rhyddid.
Fy Nhŵr a’m Hamddiffynfa yw,
Mae ’n rymmus Dduw i’m gwared;
Fy Nharian cryf a’m Corn yw Naf,
Ac ynddo gwnaf ymddiried.
3Galwaf ar Dduw mewn gweddi a chân,
Yr Arglwydd glân a folaf;
Ac felly rhag fy ngelyn cas
Yn rhydd trwy ras y byddaf.
4Cylchynodd gwaeau angau fi,
Y Fall a’i lli a’m tarfent;
5Poen uffern, maglau angau du,
Hwy ar bob tu a’m dalient.
6O’m hing y gelwais ar Dduw nef,
Fe glybu ’m llef yn gwaeddi;
O’i Deml y clybu Duw fy llais,
Attebodd gais fy ngweddi.
YR AIL RAN
7Crynodd y ddaear gron i gyd,
A seiliau ’r byd a siglodd;
Crynodd pob craig a mynydd serth,
Rhag ofn ei nerth, pan ddigiodd.
8O’i ffroenau Ef, gan faint ei wg,
Daeth tân a mwg echrydus;
Ennynodd tân o’i enau o,
Fel ffwrn o lo fflammychus.
9Wrth ddisgyn, fe ostyngai ’r nef,
Nos dano Ef a dduai;
10Marchogai ’r Cerub ar ei hynt,
Ar esgyll gwynt ehedai.
11Gwnaeth dywyll ddunos iddo ’n gell,
A’r fagddu ’n babell ddulen;
Deifr tywyll oedd o’i gylch yn gwau,
A thew gymmylau ’r wybren.
12Drwy ’r wybr, gan ddisglair daran‐follt,
Y gwelid hollt yn agor;
Ar cwmmwl tew disgynai i lawr
Yn genllysg mawr a marwor.
13Ein Duw o’r nef a roddes floedd,
A’i daran oedd ddychrynllyd;
Taran ei lef dyrchafodd Ior,
Cenllysg a marwor tanllyd.
14Ei saethau dig anfonodd Duw,
Yn gyflym i’w gwasgaru;
Saethodd ei fellt angerddol llym
Gan yn ei rym eu trechu.
15Gwelpwyd gwaelodion y môr certh
Gan gerydd nerth dy farnau;
Sylfeini ’r byd a wnaed yn noeth
Gan chwythad poeth dy ffroenau.
Y DRYDEDD RAN
16Ei rad drugaredd attaf fi
Anfonodd oddi fynu,
O ddyfroedd lawer, enbyd fan,
Yn llwyr i’r lan i’m tynnu.
17Gwaredodd Duw fi rhag fy nghas,
A rhag fy niras elyn;
Cryfach na mi, heb gymmorth Ner,
A threch o lawer oeddyn’.
18Bu ’m gelyn yn fy ngofid llawn
Yn agos iawn a’m trechu;
Ond yr oedd Duw o’i nefoedd wen
Yn dal fy mhen i fynu.
19Rhoes fi mewn rhyddid yn ei ras,
Ei anwyl was a hoffodd;
20Yn ol fy nglendid pur di‐nam,
Yr Arglwydd a’m gwobrwyodd.
21Hyfryd oedd ffyrdd yr Arglwydd im’,
Ni chiliais ddim oddi wrtho;
22Ei farnau beunydd oedd fy maeth,
A’i ddeddf nid aeth yn angho’.
Y BEDWAREDD RAN
23Ymgedwais rhag f’anwiredd cas,
Bûm bur trwy ’r gras a’m daliodd;
24Yn ol fy mhurdeb glân di‐nam
Yr Arglwydd a’m cynhaliodd.
25A’r mwyn gwnei fwynder yn dy waith,
I’r perffaith, perffaith fyddi;
26A’r glân gwnei lendid; ond â’r dyn
Fo’n gyndyn, ymgyndynni.
27Gwaredi ’r cystuddiedig, Ion;
Golygon balch gostyngi;
28Goleui ’m lamp yn nyfnder nos,
A’m dunos a lewyrchi.
29Oblegid, Arglwydd, yn dy nerth
Trwy fyddin gerth y rhedais;
A thrwy fy Nuw a’i rym yn hawdd
Dros fur y gwarch‐glawdd llemmais.
30Mor berffaith ydyw ffordd ein Duw!
Coethedig yw ei gyfraith;
Efe i bawb sy darian cryf,
Rônt arno ’n hyf eu gobaith.
Y BUMMED RAN
31Pwy ond yr Arglwydd yw Duw ne’?
Pwy ond Efe sy nerthol?
Pwy ond Efe sy Graig i ni,
Ein grymmus Ri trag’wyddol?
32Duw a rydd im’ ei nerth di‐nam
Yn wregys am fy lwynau;
Arwain Efe fy nhraed yn iawn
Ar hyd yr uniawn lwybrau.
33Cyflym fel ewig yn y coed
Y gwnaeth fy nhroed a’m llwybrau;
Ac ar fy uchel‐fannau syth
Sefydla fyth fy nghamrau.
34Fe ddysg im’ waith y rhyfel blin,
A’r modd i drin yr arfau;
Ac felly ’r cadarn fwa certh
A dyr gan nerth fy mreichiau.
35Dy iechyd immi rhag y balch
Yn gadarn astalch rhoddaist;
Ac yn dy ras, fy Arglwydd Ner,
A’th fwynder, y’m mawrheaist.
Y CHWECHED RAN
36Ehengaist danaf ffordd fy nhraed,
Fy llwybr a wnaed yn helaeth;
37Erlidiais, deliais fy nghas blin,
Ce’s hwynt i mi ’n ysglyfaeth.
38Clwyfais eu llu, ni chodant mwy;
Cwympasant trwy eu dychryn:
39Gwregysaist fi i’r rhyfel llym,
A chrymmaist rym y gelyn.
40Rhoist warrau ’r gelyn yn fy llaw,
Yn llawn o fraw ac arswyd;
A chennyf, drwy dy gymmorth cu,
Eu harfog lu difethwyd.
41Gwaeddasant, dyrchafasant floedd,
Er hyn nid oedd a’u helpai;
Codasant ar yr Arglwydd lef,
Ac Yntef nid attebai.
42Maluriais, chwelais hwynt ar daen,
Fel llwch o flaen y gwyntoedd;
Ysgubais ymaith hwynt yn ffrom,
Fel llaid a thom ystrydoedd.
Y SEITHFED RAN
43Gwaredaist f’enaid, Arglwydd mau,
Rhag blin gynhennau ’r bobloedd;
Dïeithriaid a’m gwas’naethant i,
Gwnaethost fi ’n ben cenhedloedd.
44Ufudd‐dod llawn o barch a rônt
I mi, pan glywont f’ enwi;
Estroniaid balch, barbaraidd, blwng,
Sy ’n ymddarostwng immi.
45Meibion estronol pallu wnant,
A gwywant mewn dychryndod;
Er dïangc i’w cuddfêydd yn chwai,
Er hyn nid llai eu cryndod.
46Byw yw ’r gogoned Arglwydd Ner,
Bendiger Craig fy nodded;
Poed uchel Enw mawr fy Nuw,
Iachawdwr yw i’m gwared.
47Rhydd Duw im’ allu i roi tâl,
A dïal ar fy ngelyn;
Efe ddarostwng danaf fyth
Genhedloedd gwarsyth, cyndyn.
48Achubaist, codaist fi uwch law
Y rhai a ddaw i’m herbyn;
Gwaredaist f’enaid ar fy nghais,
Rhag creulon drais y gelyn.
49Am hynny molaf Di, fy Nuw,
O Arglwydd byw y lluoedd;
Canaf i’th enw fyth yn llon,
Ar goedd ger bron y bobloedd.
50Ef i’w Enneiniog sydd yn awr
Yn gwneuthur mawr ymwared;
I Ddafydd ac i’w heppil byth
Ei ras sy ’n ddilyth nodded.
Dewis Presennol:
Lyfr y Psalmau 18: SC1850
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Psallwyr gan y Parch. Morris Williams (Nicander). Cyhoeddwyd gan H. Hughes, Llundain 1850. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.