Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 14

14
SALM XIV.
12.11.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Yr ynfyd a dd’wedodd yn nyfnder dymuniad
Ei galon lygredig, Nid oes yr un Duw;
A chydymlygrasant mewn meddwl a bwriad,
Ffieiddwaith drygioni a wnaethant bob rhyw.
2Yr Arglwydd edrychodd i lawr o uchelder
Y nef, ar agweddau plant dynion i gyd,
I wel’d oedd o honynt ddim un yn ddeallgar —
Oedd neb yn ymgeisio â Duw yn y byd.
3Ciliasai pawb oll, cydymddifwynasent,
A wnelai ddaioni nid oedd un i’w gael,
Hwy oll fel un gŵr ar gyfeiliorn yr aethent,
I wneuthur anwiredd a phob peth sydd wael.
4Gweithredwyr anwiredd, hwynthwy nid ystyriant,
Fy mhobl, medd Duw, a ysasant fel haint,
5Dychrynasant, gan ofn ynghyd y syrthiasant,
Can’s trigo mae Duw yn nghenhedlaeth y saint.
6Cynghor y tlawd a waradwyddasoch,
Am fod yr Arglwydd yn obaith i’r gwan,
Am hyny mewn gwarth a gwaradwydd gorweddwch,
A gwarth a gwaradwydd hyd byth fydd eich rhan.
7Pwy rydd iachawdwriaeth i Israel o Seion?
Pan ddychwel yr Arglwydd gaethiwed ei saint,
Bydd Iacob yn llawen yn nghwymp ei elynion,
Ac Israel yn hyfryd yn mawredd ei fraint.
Nodiadau.
Priodola rhai y salm hon i dymmor erledigaeth Dafydd gan Saul, ac ereill i amser gwrthryfel Absalom; ond prin, dybygid, y gellir gweled cysgod o’r naill na’r llall o honynt ynddi. Yn hytrach, tybiwn mai salm o athrawiaeth yw hon, heb un digwyddiad neillduol yn achlysur o’i chyfansoddiad. Yr athrawiaeth ydyw, hollol lygredigaeth y galon ddynol yn ei hystâd o ymadawiad oddi wrth Dduw, bod y llygredigaeth hwn mewn enghreifftiau mynych yn ymweithio yn elyniaeth mor gref yn erbyn Duw yn y galon, nes y mae hi yn dymuno na byddai, ac yn ceisio ei darbwyllo ei hun i gredu nad oes un Duw. Yr oedd dynion felly hyd yn oed yn Israel yn amser Dafydd; ac y mae dynion felly i’w cael yn mhob gwlad Gristionogol y dyddiau hyn, heb sôn am wledydd paganaidd y byd. Sylwa y Salmydd, wedi yr elo dynion unwaith dan lywodraeth y syniadau annuwaidd hyn, eu bod yn ymddiddarbodi i gyflawni pob ffieiddwaith a rhysedd yn ddiattaliad; ond rhybuddia hwy, bod y Duw a wadant yn bod, yn gweled ac yn gwylio holl weithrediadau eu calonau a’u bucheddau. Cyrcha Paul rai ymadroddion o’r salm hon, fel tystiolaeth ysbrydoliaeth Duw i wirionedd yr athrawiaeth yr ymdriniai ef â hi; sef, fod pawb, Iuddewon a Groegwyr, dan bechod: Rhuf. iii. Wrth edrych ar drueni alaethus y byd didduw, tỳr y Salmydd allan ar y diwedd mewn teimlad awyddus am weled yr Iachawdwr addawedig i Seion yn cael ei ddadguddio.

Dewis Presennol:

Salmau 14: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda