Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 15

15
SALM XV.
9.8.
Salm Dafydd.
1O Arglwydd! pwy drig yn dy babell?
Pwy gyda thi yno gaiff fyw?
Pwy esgyn, pwy saif yn ddiysgog
Yn mynydd sancteiddrwydd ein Duw?
2Yr hwn mae ei rodiad yn berffaith,
Yr hwn sydd yn gyfiawn ei waith,
Yr hwn ddywed wir yn ei galon,
Heb ffalsedd, na choegedd ychwaith.
3Yr hwn ni wna ddrwg i’w gymmydog,
Pob absen ac enllib gasâ,
4Dirmyga’r drygionus ei fuchedd,
Ond pawb ofno’r Arglwydd fawrhâ;
’R hwn saif at ei air heb gyfnewid,
Er iddo gael niwed drwy hyn,
Wrth burdeb gwirionedd y glyna —
Anwiredd, oferedd ni fyn.
5Ei arian a’i aur ar usuriaeth
Ni rydd er chwanegu ei dda;
A gwobr yn erbyn y gwirion
Ni chymmer — ei gwrthod a wna;
A wnelo hyn oll a gaiff drigo
Yn mynydd a phabell Duw cun,
A byth ni ysgogir mo hono —
Bydd fel mynydd Seion ei hun.
Nodiadau.
Y mae Dafydd yn y salm hon megys yn sefyll wrth ddrws pabell Duw ar fynydd Seion, i ymgynghori â’r oracl ddwyfol oedd o’i mewn ar y mater pwysicaf iddo ef ei hun, a phawb ereill yr un modd. Y cwestiwn a rydd yr ymofynydd i’r oracl ydyw, Pwy, pa fath, raid i hwnw fod, a gaiff yr anrhydedd a’r fraint o esgyn i fynydd, a thrigo yn mhabell y Goruchaf, i fwynhau ei gymmeradwyaeth, ei ffafr, a’i bresennoldeb grasol? Wedi cyflwyno ei ymofyniad, saif yr ymofynydd i ddisgwyl yr attebiad, yr hwn a gawn megys yn dyfod yn uniongyrchol o enau Duw ei hun, oddi rhwng adenydd y cerubiaid ar y drugareddfa, yr hwn a gymmer i fyny weddill y salm. Nid ydyw yr atteb yn gyfryw un ag a ddisgwyliasai llawer Iuddew. Tybiasai y defodwyr yn nyddiau Dafydd, fel defodwyr y dyddiau hyn, mai yr hwn a fyddai yn fwyaf manwl a gofalus i ddwyn ei aberthau a’i offrymau i’r allor, ac yn y cyflawniad o’r defodau a’r seremonïau cnawdol, yn ddichlynaidd a rheolaidd gyda’i ymprydiau, ei baderau, a’i ffurfiau, yn sicr a fuasai y dyn cymmeradwy gan yr Arglwydd. Ond nid felly: nid oes yma un gair o sôn am y pethau hyny: rhinweddau moesol yn unig a ganmolir ac a gymmhellir gan yr oracl — gwirionedd, cyfiawnder, didwylledd, diniweidrwydd, ffyddlondeb, cymmwynasgarwch, & c. Rhed athrawiaeth y salm fel ffrwd gref drwy ysgrythyrau yr Hen Destament a’r Newydd; delir hi allan yn ngweinidogaeth y prophwydi o Samuel hyd Malachi, mewn llaweroedd o fanau, mewn gwrthwynebiad i athrawiaeth y seremonïau a’r defodau cnawdol y mynai y bobl bob amser ymlynu wrthi, ac ymddiried ynddi; a hi ydyw yr athrawiaeth a ddysgodd yr Athraw mawr ei hun yn ei bregeth ar y mynydd. Oni ellid meddwl ei bod yn ammhossibl i un dyn sydd â’r oraclau dwyfol — ymadroddion Duw — yn ei ddwylaw, gamgymmeryd ynghylch natur y grefydd a’r gwasanaeth sydd yn dderbyniol a chymmeradwy gyda Duw? Un fel hyn, yn ei gymmeriad moesol, ydyw y Duw sydd yn trigo yn ei babell; ac un yn dwyn y ddelw hon arno, a hwnw yn unig, a gaiff drigo ac aros gydag ef yno. Gallai dyn fod yn orfanwl, fel yr oedd y Phariseaid yn nyddiau Crist, yn y cyflawniad o ddefodau allanol crefydd, heb feddu un rhithyn o’r rhinweddau moesol a nodir yn y salm hon ynddo; ac felly, yn gwbl amddifad o ddelw Duw, a’i berson a’i gyflawniadau, gan hyny, yn anghymmeradwy. “Yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder sydd gyfiawn, megys y mae yntau yn gyfiawn.”

Dewis Presennol:

Salmau 15: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda