Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 16

16
SALM XVI.
M. H. D.
Michtam Dafydd.
1Cadw, O Dduw! a gwared fi,
Can’s ymddiriedaf ynot ti —
2Fy enaid dd’wedodd mai ti yw
Fy unig Arglwydd i a’m Duw:
Fy na nid yw i ti ’n un fraint,
3Ond i dy etholedig saint,
Sydd ar y ddaear — ynddynt hwy
Y mae fy holl hyfrydwch mwy.
4I’r rhai a geisiant dduwiau gau,
Y bydd gofidiau’n amlhau;
Ni offrymaf fi eu hoffrwm hwy,
Ac ni choffâf eu henwau mwy:
5Iehofah ’n unig yw fy rhan,
Ac etifeddiaeth f’enaid gwan;
Efe ei hun yw’m phiol lawn,
Fy nghoelbren gynnal ef yn iawn.
6Syrthiodd llinynau ’m rhandir llawn,
Yn wir mewn lleoedd hyfryd iawn;
Ni ddaw i’m cwrdd na braw na brêg,
Mae i mi etifeddiaeth deg;
7Yn nyfnder nos bendithiaf Dduw —
F’ arweinydd a’m cynghorwr yw:
8Yn wastad ger fy mron y mae,
Ar fy neheulaw i’m cryfhau.
9Am hyn fy nghalon lawenhâ,
Fy ngenau fola ’i enw da,
Fy nghnawd a orphwys yn y bedd,
Yn dawel yn ei hyfryd hedd;
10Can’s ni adewir f’enaid cu
Yn hir dan gloion angeu du,
Ac ni oddefi i’th Sanct dilyth,
I weled llygredigaeth byth.
11Dangosi i mi’r ffordd o’r bedd,
I’r bywyd o drag’wyddol hedd,
Lle mae rhyw ddigllonrwydd llawn,
O bob digrifwch melus iawn,
Ar dy ddeheulaw i’w fwynhau,
Ac yn dragywydd i barhau:
Ar ol y gauaf du fe ddaw
Diddiwedd haf yr ochr draw.
Nodiadau.
Salm Fessianaidd yw hon: efe ei hun, drwy ei Ysbryd, yn ngenau Dafydd, sydd yn ei llefaru. Y mae rhai ymadroddion yn ei dechreu yn briodol i Dafydd, ac i bob Cristion, i’w defnyddio; ond nid oes dim ynddynt y byddai yn ammhriodol eu cyfrif i’r Messïah yn ei ystad o ddarostyngiad. Os ydyw Dafydd yma o gwbl ar ddechreu y salm, y mae efe yn fuan megys yn diflanu o’r golwg: ac, fel ar fynydd y gweddnewidiad, ar ol ymadawiad Moses ac Elias, na welai y dysgyblion “neb ond yr Iesu yn unig;” felly yma, tawa ac ymgilia Dafydd — ac ni welir neb ond y Messïah ei hun. Y mae yr ymadroddion yn gyfryw nad ydynt gymmhwys i neb ond iddo ef. Llefara yma wrth y Tad, fel yr oedd efe yn was iddo, ac yn anfonedig ganddo, gan draethu ei hyder ynddo am ei gymmhorth i gyflawni, a’i gymmeradwyaeth o waith ei gyfryngdod. Llefara yn benaf fel offeiriad y drefn gyfryngol, ac am y wobr addawedig iddo am waith ei offeiriadaeth. Fel nad oedd i’r offeiriaid Lefiaidd dan y gyfraith ran na meddiant yn nhir Gwlad Canaan — “Canys yr Arglwydd ei hun oedd eu rhan a’u hetifeddiaeth hwy,” fel y dywed efe wrthynt, ac am danynt — felly dywed yr Offeiriad mawr yma, mai Iehofah yn unig oedd ei ran a’i etifeddiaeth ef, a’r wobr a addawsai efe iddo; sef, ei had — ei saint, “y rhai rhagorol;” “yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch,” medd efe. Traetha yma lawn foddlonrwydd ei enaid yn yr etifeddiaeth deg, y disgynasai llinynau yr arfaeth dragywyddol ar ei thiroedd i’w mesur iddo; ac efe a ddengys i bawb yn holl lywodraeth Iehofah ddydd a ddaw, “beth yw golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint,” pan ddel efe i’w ogoneddu, ac i fod yn rhyfeddol ynddynt. Yn olaf, y mae efe yn edrych trwy dywyllwch dudew ei ddioddefiadau a’i farwolaeth ar oleuni boreu y trydydd dydd:— “Na adewid ei enaid yn uffern (h. y., yn y byd anweledig), ac na oddefid i’w gorph weled llygredigaeth” yn y bedd; yr hyn a welodd corph pob un arall a aeth iddo erioed, ac a wel pob un a ä iddo etto — y “dangosai y Tad iddo lwybr bywyd” o fro llygredigaeth, cyn i lygredigaeth ymaflyd ynddo, ac y dyrchefid ef i fwynhâd o’r digrifwch tragywyddol oedd iddo ar ei ddeheulaw. Defnyddia yr apostolion Pedr a Phaul yr ymadroddion sydd yn y gyfran olaf o’r salm hon fel prophwydoliaeth bennodol am adgyfodiad Crist o’r bedd foreu y trydydd dydd, a’i esgyniad i’w ogoniant yn y nefoedd — ymadroddion nad ydynt yn briodol i nac am neb arall, ond ef yn unig: Act. iii. 25-31, a xiii. 35-37.

Dewis Presennol:

Salmau 16: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda