Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 17

17
SALM XVII.
M. B. D.
Gweddi Dafydd.
1Clyw, Arglwydd, ystyr di
Wrth lais fy nghri a’m llef,
O wefus ddidwyll esgyn hon
Yn union tua’r nef:
2Doed oddi ger dy fron
Fy marn, a’th gyfion raith,
Fy nghalon brofaist, cêst hi’n wir,
Yn gywir yn ei gwaith.
3Gofwyaist fi y nos
Er dangos nad oes dim
Anwiredd ynof, O! fy Nêr!
Mae hyny ’n hyder im’:
4O lwybrau dynion drwg
A’m golwg ar d’ air di,
Yn wir ymgedwais — gwyddost Naf —
Ac felly ymgadwaf fi.
5Dal fi, O Arglwydd mâd!
Rhag llithro ’m traed o’u lle;
Hwylia ’m cerddediad ger dy fron
Yn union lwybrau ’r ne’;
6Mi elwais arnat ti,
Gwrandewaist fi, mi wn:
O! gostwng etto ’th glust ’r un modd,
A chlyw f’ ymadrodd hwn.
7O! dangos, dirion Dad,
Dy ryfedd rad i’r rhai
Sydd yn ymddiried yn dy nerth,
Rhag dynion certh eu bai;
I’th erbyn di, a’th blant,
Yr ymgyfodant hwy —
Darostwng hwy yn ngrym eu chwant,
Fel na chyfodant mwy.
Rhan II.
8.7.4.
8Cadw fi fel canwyll llygad,
Cudd fi dan d’ adenydd clyd;
9Rhag yr annuwiolion creulawn
A’m gorthrymant i o hyd:
Rhag gelynion, & c.,
Marwol yn f’amgylchu sydd.
10Ymgauasant gan eu brasder,
Geiriau balchder sy ar eu mîn;
11Cylchynasant ein c’niweirfa
Beunydd mewn dichellion blin;
Mae eu golwg, & c.,
Ar ein tynu i lawr i’r llwch.
12Mae eu dull fel llew chwennychai,
Ysglyfaethu wrth ei nwyd;
Fel llew ieuangc mewn cynllwynfa,
Yno ’n disgwyl am ei fwyd:
13Cyfod, Arglwydd, & c.,
Saf o’u blaen, a thor hwy i lawr.
Gwared f’enaid rhag yr annuw,
Hwnw yw’th law a’th gleddyf di:
14Plant y byd, y rhai, mae’u cyfran,
Yn y bywyd yma a’i fri:
Llawn o frasder, & c.,
Dy ddaioni ydynt hwy.
Llawn o gyfoeth, llawn o feibion,
Ydynt er yn llawn o fai,
Golud lawer a adawant
Ar eu hol i’w bychain rai:
Yna derfydd, & c.,
Am eu gobaith yn y bedd.
15Mi edrychaf mewn cyfiawnder
Ar dy wyneb yn ddifraw;
Llawn ddigonir pan ddihunwyf
Fi â’th ddelw ddydd a ddaw:
Dyna fywyd, & c.,
O ddedwyddwch bery byth.
Nodiadau.
Hòna y Salmydd yn y salm hon, fel mewn amryw ereill o salmau yr un tymmor o’i fywyd, ei berffaith ddiniweidrwydd o’r bai y cyhuddid ef gan Saul, a gwŷr ei lŷs; sef, o’i fod yn cynllwyn bradwriaeth yn erbyn gorsedd a bywyd y brenin. Wedi appelio yn y modd cryfaf at Dduw fel tyst o’i ddiniweidrwydd, cyflwyna ei hun yn ffyddiog i’w nawdd a’i arweiniad ef, a’i elynion maleisus hefyd, i’w barnu a’u ceryddu yn ol ei ddoethineb, ac yn ei amser ef ei hun. Geilw yr annuwiol, Saul a’i gyffelyb, yn llaw a chleddyf Duw — bod ei allu goruwchlywodraethol ef ar holl weithrediadau a bwriadau drygionus yr annuwiol, fel na allo wneyd dim ond a oddefo efe iddo; a’i fod yn ei ddefnyddio fel offeryn yn aml i gyflawni ei fwriadau doethion a daionus ei hun. Edrycha ar druenus gyflwr yr annuwiol yn nghanol ei lwyddiant a’i gyfoeth, ei rwysg, a’i ryfyg; o herwydd mai yn y byd a’r bywyd hwn yn unig y mae ei ran ef, a’r bywyd hwnw mor frau, ansicr, a byr ar y goreu. Cyferbyna ei gyflwr dedwydd ef ei hun yn nghanol ei beryglon, â chyflwr ei elynion yn nghanol eu golud a’u llwyddiant presennol, gan mai Duw yn ei heddwch a’i foddlonrwydd ydoedd ei ran a’i etifeddiaeth ef, a bod ganddo obaith sicr oedd yn ymestyn y tu hwnt i’r byd a’r bywyd presennol hwn i fyd a bywyd anfarwol a thragywyddol, lle y cai ei lawn ddigoni byth â’r mwynhâd o Dduw, pan ddihunai ei gorph o’r bedd, wedi ei berffeithio ar ei ddelw ef. Prophwydasai yn y salm o’r blaen am adgyfodiad y Messïah o’r bedd cyn gweled llygredigaeth; ac yma traetha ei hyder am adgyfodiad ei gorph ei hun etto, a’i adferiad i ddelw y cyntafanedig o’r meirw, er i lygredigaeth falurio, a theyrnasu ar ei sylwedd oesau lawer.

Dewis Presennol:

Salmau 17: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda