Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 18

18
SALM XVIII.
11au.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,
1Ti, Arglwydd, a garaf, fy nerth ydwyt ti,
2Fy nghraig, f’amddiffynfa, ’m gwaredydd, a’m Rhi,
Cadernid fy enaid, fy nharian, fy nhŵr,
Byth ynot gobeithiaf, nid ofnaf un gŵr.
3Ar enw yr Arglwydd y galwaf bob pryd,
A chedwir fi rhag fy ngelynion i gyd,
4Gofidiau llym angeu, afonydd y fall,
A’m cyd‐ddychrynasant, bu f’enaid ar ball.
5Holl ddychrynfeydd uffern achubent fy mlaen,
A maglau marwolaeth o’m cylch oedd ar daen;
6Yn nydd fy nghyfyngder y gwaeddais i’r nef,
Iehofah o’i deml a glybu fy llef.
Rhan II.
11au.
7Gan nerth ei ddigofaint, fe siglodd y byd,
A seiliau’r mynyddoedd grynasant yn-nghyd;
8Daeth mŵg yn golofnau o ffroenau ’i lid o,
Gan anadl ei enau ennynodd y glô.
9Gostyngodd y nefoedd, disgynodd i lawr,
A th’w’llwch orchuddiodd ei draed ef yn awr;
10Marchogodd ar gerub, yn rhwysgfawr ei hynt,
Ehedodd ar gryfion adenydd y gwynt.
11Gwnai’r t’w’llwch a thewion gymmylau y ne’
Yn babell o’i amgylch, lle’r ymguddiai efe;
12Disgleirdeb dywynai o’i orsedd wen lân,
Ai heibio’r cymmylau, y cenllysg, a’r tân.
13Yr Arglwydd daranodd yn entrych y nef,
Oddi yno’r Goruchaf a roddes ei lef;
Ac yna y cenllysg, a’r marwor ynghyd,
Ddisgynent yn nghymmysg i lawr ar y byd.
14Anfonodd ei saethau, gwasgarodd ei gâs,
Ergydiodd ei fellt, a gorchfygai ’u holl dras;
15Gwaelodion y dyfroedd a seiliau y llawr
A welwyd, ddynoethwyd, gan ŵg y Duw mawr.
16Anfonodd oddi uchod o’i gariad yn gu,
A thynodd fi allan o ddyfroedd dwfn du,
17Gwaredodd fi’n rasol pan glywodd fy nghri
Oddi wrth fy ngelynion — trech oeddynt na mi.
18-19Achubai’m gelynion fy mlaen ar ddydd blin,
Fy nerth a fy noddwr fu’r Arglwydd ei hun;
20Gwobrwyodd fi’n ol fy nghyfiawnder mewn bri,
’Nol glendid fy nwylaw y talodd i mi.
Rhan III.
8.6.
21Ffyrdd yr Arglwydd a gedwais heb
Annuwiol adael Duw;
22Ei farnau oeddynt ger fy mron,
Ac ynddynt bum i byw;
23Bum hefyd berffaith gydag ef,
24A’r Arglwydd a’m gobrwyai ’n hael —
Yn ol fy mhurdeb ger ei fron
Y parodd ef im’ gael.
25Trugaredd i’r trugarog wnai,
Y perffaith ddygi i fri,
26A’r glân gwnei di lendid, ond
Y cyndyn ferni di;
27Can’s ti waredi’r bobl sydd
O dawel, isel, gywir fryd;
Ond y golygon uchel, ffrom,
A dyni ’lawr i gyd.
Rhan IV.
8au.
28Ti, fy Nuw, oleui ’nghanwyll
I lewyrchu pan fo ’n dywyll;
29Ynot rhedais i trwy fyddin,
Dros fur uchel llemais wed’yn.
30Duw sydd yn ei ffordd yn sanctaidd,
Gair yr Arglwydd sydd yn buraidd;
Tarian yw efe i orchuddio
Pawb a ymddiriedant ynddo.
31Pwy sydd Dduw heb law yr Arglwydd?
Pwy ond ef sy’n Graig dragywydd?
32Ef a’m gwisga â nerth i ryfel,
Ac a wna fy ffordd yn ddiogel.
33Gosod mae fy nhraed yn barod,
Megys ystwyth draed ewigod;
34Dysga ’m dwylaw i ryfela,
Yn fy mreichiau tỳr y bŵa.
35Rhoddaist i mi rhag pob alaeth
Darian fawr dy iachawdwriaeth;
Dy ddeheulaw a’m cynnaliodd
A dy fwynder a’m lliosogodd.
36Ti ehengaist fy ngherddediad,
Fel na ŵyrai ’m traed ar lithriad;
37Fy ngelynion oddiweddais —
Nes eu difa ni ddychwelais.
38T’rewais hwynt, ac ni allasant
Godi, dan fy nhraed syrthiasant;
39Darostyngaist ti bob gelyn
Felly gododd yn fy erbyn.
40Rhoist im’ wàrau fy ngelynion
Fel dyfethwn hwynt yn friwsion;
41-42Gwaeddent, ond nid oedd achubydd;
Duw ni attebai eu lleferydd.
Rhan V.
7.6.
43Rhag holl gynhenau’r bobloedd
Y cedwaist fi ’n ddi‐sen,
Ac ar genhedloedd lawer
Gosodaist fi yn ben;
Daw pobloedd nad adnabum
I blygu ger fy mron,
A hwy a’m gwasanaethant
Yn ufudd ac yn llon.
44-45Pan glywant hwy am danaf
Hwy ddeuant yn gyttûn,
Ac wrth fy nhraed yn ddistaw
Y plygant bob yr un;
46Byw wyt, a bendigedig
Fo d’ enw mawr, fy Nuw;
Fy nghraig a’m hiachawdwriaeth,
Rhoist arnaf fawredd gwiw.
47Duw sydd yn rhoi im’ allu
I ddial ar fy nghâs,
Fe ddwg fy mhobl danaf,
Mi a’i molaf am ei ras;
48Fe’m ceidw etto ’n ffyddlawn
Rhag llid gelynion llym,
Ni chaiff y traws ysgeler
Wneyd unrhyw niwed im’.
49Am hyn, myfi, O Arglwydd!
Moliannaf di yn awr:
Yn mhlith cenhedloedd canaf
Ogoniant d’ enw mawr;
50Ymwared mawr i’w frenin,
A wnaeth efe ’n ddilyth,
I Dafydd, ei eneiniog,
Ac i’w ei had ef byth.
Nodiadau.
Wele y “truan helbulus gan dymmhestl,” wedi cael ei long i’r porthladd a ddymunai o’r diwedd! Wedi cymdeithasu âg ef yn ei drallodion blinion, a gwrandaw ar ei gŵynion dyfnion yn y salmau blaenorol, cawn ef yn y salm hon ar ei uchelfanau, yn canu ac yn moliannu ei Dduw a’i waredydd. Saul, ei elyn penaf, wedi cwympo; ac yntau wedi ei ddwyn o ogof y crwydryn i lys y brenin; Israel yn cydnabod, ac yn plygu i’w awdurdod; cenhedloedd gelynol yn cael eu darostwng o’i flaen, ac yn dyfod dan warogaeth i’w goron. Llef gorfoledd ac iachawdwriaeth, a mawl, a diolchgarwch yw y salm drwyddi. Gesyd y bardd ei awen megys i farchogaeth elfenau natur, y gwynt, y mellt, y tân, a’r cenllysg, gan eu darostwng oll at wasanaeth ei awydd a’i amcan yn ei fawl‐gân odidog hon. Benthycia ffeithiau o hanes rhyfeddodau tir Ham, y Môr Coch, a’r anialwch, a rhai digwyddiadau yn hanes buddugoliaethau Iosuah, i’w cymmhwyso at waredigaethau Duw iddo ef oddi wrth ei elynion, oddi ar fod rhyw bethau yn debyg wedi digwydd mewn rhai o’i amgylchiadau ef i’r digwyddiadau hyny. Cyflwyna yr holl ogoniant am bob gwaredigaeth a gawsai, a phob buddugoliaeth a ennillasai, i Dduw yn unig, heb briodoli dim oll i’w ddoethineb, ei ddyfais, ei fedr, a’i allu ei hun. Adduneda barhau byth wrth y gwaith o fawrhau a chlodfori Duw oddi ar y profiad a gawsai efe o’i ddaioni tuag ato. Y mae llawer a gwynant fel Dafydd, mewn gwasgfeuon a thrallodau, na feddyliant byth, fel efe, ar ol cael eu gwaredu o’u cyfyngderau, am dalu diolchgarwch i’r Gwaredwr, a chyflawni eu haddunedau.
Diolchasai Dafydd lawer am bob gwaredigaeth a gawsai o gyfyngderau a pheryglon fel yr oedd yn eu cael; ond yn y salm hon y mae efe, wedi dyfod drwyddynt oll yn ei berthynas â Saul a’i wŷr, megys yn casglu y cwbl ynghyd ger bron ei feddwl, ac yn tynu ei holl enaid allan i fawrhau a chlodfori Duw yn yr olwg arnynt, fel y gwna y gwaredigion o’r cystudd mawr, wedi iddynt ddiangc y tu draw i holl brofedigaethau a pheryglon bywyd, a rhoddi y gelyn olaf dan eu traed, pan y try y cwbl iddynt yn salm dragywyddol o foliant a diolchgarwch.

Dewis Presennol:

Salmau 18: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda