Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 19

19
SALM XIX.
8.7.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1-2Dadgan clod yr hwn a’i creodd,
Mae y glaer serenog nef;
A’r ffurfafen sy’n mynegu
Rhyfedd waith ei ddwylaw ef;
3Nid oes iaith nac un ymadrodd
Lle na chlywir hwynt o hyd;
4Aeth eu llinyn a’u lleferydd
Hyd eithafoedd pella’r byd.
Ynddynt hwy gosododd babell
Fawr yr haul, yr hwn y sydd
5Yn d’od allan o’i ystafell
Fel gŵr priod glân bob dydd;
Megys cawr i redeg gyrfa
Ymwregysa ef i’w daith,
6O eithafoedd pell y dwyrain
Draw i fro’r gorllewin faith.
Ar ei yrfa faith amgylchol
Gwasgar ei fendithiol des;
Nid oes neb, na dim, a ymgudd
Rhag effeithiol rym ei wres:
Ond nis gallodd un pelydryn
O’i oleuni treiddiol ef
D’w’nu i oleuo calon
Un pechadur dan y nef.
Rhan II.
M. C.
7Cyfraith yr Arglwydd perffaith yw
I droi a dwyn yn ol
Yr enaid adref at ei Dduw
O’i holl grwydriadau ffol.
Tystiolaeth gair yr Arglwydd sydd
Yn gywir ac yn goeth,
A dwyfol addysg hon a wna
Y gwirion ddyn yn ddoeth.
8Holl ddeddfau’r Arglwydd union y’nt,
Y galon lawenhânt,
A’i holl orch’mynion ydynt bur,
Goleuo’r llygaid wnant.
9Ac ofn yr Arglwydd sydd yn lân,
Parhau y mae o hyd:
Gwirionedd yw ei farnau ef,
A chyfiawn oll i gyd.
10A mwy dymunol y’nt nag aur
Coethedig dan y sêl,
A llawer iawn melusach na
Dyferion diliau mêl.
11Rhybuddion ynddynt gaiff dy was,
Beunyddiol addysg lawn;
O’u cadw hwy y ceir mwynhau
Gwobrwyon lawer iawn.
Rhan III.
M. C.
12Pwy ddeall ei gamweddau? pwy
All ddirnad faint eu rhi’?
Oddi wrth fy meiau cudd, O Dduw!
Glanhâ, a phura fi.
13Rhag pob rhyfygus bechod brwnt,
O! attal fi, dy was;
Ac felly purir a glanheir
Fi oddi wrth fy meiau câs.
14Fy myfyrdodau a’m geiriau fo
Yn wastad ar bob awr,
Yn gymmeradwy ger dy fron,
Fy Nghraig a’m Prynwr mawr.
Nodiadau.
Y mae hon bob amser wedi bod yn hoff salm darllenwyr yr Ysgrythyrau — yn un o’r rhai a ddysgir ac a adroddir gan ieuengctyd yr Ysgolion Sabbathol yn bur gyffredin; ac y mae yn ei chyfansoddiad, o ran ei symledd a’i phrydferthwch, megys wedi ei bwriadu i’w dysgu felly. Ei mater ydyw, gweithredoedd dwylaw, ac ymadroddion genau Duw; neu y ddau lyfr, fel yr arferwn ddywedyd — llyfr natur, a llyfr gras: neu y ddau fodd y mae Duw yn dadguddio ei hun i ddynion; sef, ei greadigaeth a’i ragluniaeth, a’i air. Amlyga yn y cyntaf fawredd anfeidrol ei allu a’i ddoethineb — ei briodoliaethau naturiol; ac yn yr ail, ei gyflawnder, ei ras, â’i ewyllys da — ei briodoleddau moesol. Dadguddia y blaenaf ei fawredd — anweledig bethau Duw — ei dragywyddol allu a’i Dduwdod, drwy weledig bethau, heb iaith nac ymadrodd; a’r ail, ei nodwedd moesol, drwy iaith ac ymadrodd. Buasai dadguddiad y cyntaf yn unig, fe ddichon, yn ddigonol i ddyn, fel creadur dieuog a glân, i’w gymmhell i addoli a gogoneddu Duw; ond nid oes ynddo ddim i gyfarfod â’i drueni a’i angen fel pechadur. Cyflenwi yr angen hwn yw amcan mawr yr ail — “Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid.” Helaethir llawer yn y salm er dangos rhagorol werth ac ardderchawgrwydd y gair ysgrifenedig, fel y mae yn “berffaith — yn troi’r enaid,” “yn sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth;” “yn uniawn — yn llawenhau y galon;” “yn bur — yn goleuo y llygaid;” “yn lân — yn parhau yn dragywydd;” “yn wirionedd, ac yn gyfiawn i gyd;” “yn felusach na dyferiad y diliau mêl;” ac “yn werthfawrocach nag aur coeth lawer;” yn rhybuddiwr a chyfarwyddwr bywyd i ddyn ar ei daith trwy y byd hwn. Gweddïa y Salmydd ar y diwedd ar fod iddo gael ei sancteiddio yn ngwirionedd y gair, a’i ddysgu i feddwl a gwneuthur yn ei ol.
Ar ba dymmor o’i fywyd y cyfansoddodd Dafydd y gân felus hon, rhy anhawdd penderfynu i sicrwydd: ond tybiwn i, mai pan oedd yn ieuangc, yn bugeilio defaid ei dad, wedi iddo gael ei eneinio yn frenin i Israel, a chyn iddo ddyfod i afael profedigaethau bywyd; ac iddo, ar ol dyfod i’r orsedd, ei chyflwyno i’r pencerdd i’w chanu yn y cyssegr.

Dewis Presennol:

Salmau 19: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda