Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 25

25
SALM XXV.
6.8.
Salm Dafydd.
1O Arglwydd! atat ti,
Dyrcha’i ’m henaid tlawd;
2Fy hyder ynot sy’,
Ac nid mewn braich o gnawd:
O! cynnal fi — na âd i’th was
Fyn’d yn waradwydd i fy nghas.
3Na siomer neb o’r rhai
Ddisgwyliant wrthyt, Iôn;
Rhai ’mffrostiant yn eu bai,
Dan fythol warth y bôn’:
4Dy ffyrdd, O Arglwydd! dysg i’th was,
Ac arwain fi yn llwybrau’th ras.
5Duw’m hiachawdwriaeth, bydd
Im’ yn arweinydd da;
Wrthyt, ar hyd y dydd,
Fy enaid disgwyl wna:
6Dy rad drugaredd i mi doed,
A’th dosturiaethau, ’r rhai sy’ erioed.
7Pechodau boreu f’oes
Dilëa oll yn lân;
Trugaredd i mi moes,
Rhof finnau i’th enw gân:
Cofia am danaf, O fy Nuw!
Yn ol dy dosturiaethau gwiw.
8Da yw yr Arglwydd hael,
Am hyny dysga ef
I bechaduriaid gwael
Adnabod llwybrau ’r nef;
9Y llariaidd rai hyfforddi wna,
A’r gostyngedig a fawrhâ.
10Holl lwybrau ’r Arglwydd sy
Drugaredd, hedd, a gwir,
I’r rhai a gadwo ’n gu
Ei dystiolaethau pur:
11Er mwyn dy enw, O fy Nuw!
Maddeu f’anwiredd, can’s mawr yw.
Rhan II.
M. S.
12Pa ŵr sy’n ofni Duw ’n eich mysg?
Efe a’i dysg i rodio
Ar hyd y ffordd ddewiso ’n glau,
Ac ni bydd eisieu arno.
13Ei enaid mewn daioni drig,
Heb ofid, dig, nac afar;
Ac ar ei ol, ei had yn llu
Gânt etifeddu ’r ddaear.
14Dirgelwch cynghor Duw ’n ddiau
Sydd gyda’r rhai a’i hofnant,
Ei ddeddfau a’i gyfammod o
I’w gyfarwyddo fyddant.
15Fy llygaid ar yr Arglwydd sydd
Yn edrych yn feunyddiol:
Fe geidw ’m traed — efe a’m cwyd
O bob rhyw rwyd niweidiol.
Rhan III.
M. S.
16Tro ataf, Arglwydd, trugarhâ,
Can’s amlhâ fy adfyd;
17Gofidiau ’m calon sy’n trymhau,
A chyfyngderau f’ ysbryd.
18O! gwel helbulon ’r enaid mau,
A maddeu fy mhechodau,
19A gwel fy ngelyn llym ei ŵg,
A’i drawsion ddrwg fwriadau.
20O! achub di fy enaid gwan
Sy’n llechu dan dy gysgod,
O! gwrandaw, a chyflawna ’nghais,
Can’s ymddiriedais ynod.
21A chalon gywir, isel, wyl,
Yr wyf yn disgwyl wrthyd,
22Duw, gwared Isräel yn glau
O’i gyfyngderau celyd.
Nodiadau.
Dygir dull newydd ar gyfansoddi i’r Ysgrythyr yn y salm hon — yr un gwyddorol (acrostic):— pob llinell neu gwpled yn dechreu â llythyren o’r egwyddor Hebraeg yn rheolaidd o’r gyntaf hyd yr olaf. Y mae deuddeg o’r cyfansoddiadau hyn yn yr Hen Destament:— Salmau xxv., xxxiv., xxxvii., cxix., cxli., cxlii., a cxlv.; Diarhebion xxxi.; a Galarnad i., ii., iii., a iv. Yn Salmau cxi., a cxii., a Galarnad iii., pob cwpled a ddechreuir felly; ond yn y lleill oll, pob llinell. Yr amcan, medd rhai, ydyw cynnorthwyo y côf i ddal yn well y materion a osodir allan; ond pa ham y salmau hyn, a’r rhanau ereill hyny o’r Gair sanctaidd, yn fwy na’r lleill, nid oes neb, am a wyddom, yn cynnyg un rheswm.
Sŵn calon ddrylliog ac ysbryd cystuddiedig pechadur edifeiriol, a llais ffydd a hyder calon ffyddiog yn nhrugaredd a gras maddeuol Duw, a glywir yn cyd-gerdded yn hyfryd drwy y salm felus hon. Gallem feddwl mai nid ar ryw achlysur neillduol yn ei fywyd, na chyda golwg ar ryw bechod neillduol a gyflawnasai, y cyfansoddodd Dafydd hi, ond ar ryw hamdden pan yr arweinid ei feddwl i adolygu ei fywyd yn gyffredinol — pan yr adgofiai lawer o ffaeleddau a beiau blynyddoedd ei oes, o’i ieuengctid hyd yr amser y cyfansoddai hi. “Na chofia bechodau fy ieuengctid, na’m camweddau,” medd ef. Gallai nad oedd neb yn Israel ond efe ei hun wedi sôn, na meddwl, na gwybod dim erioed am y pechodau a’r camweddau hyny; ond yr oedd efe ei hun yn gwybod ac yn cofio am danynt, ac yn ystyriol fod Duw yn hysbys o honynt, ac ymbiliai yn daer na byddai iddo ef eu cofio, i’w gosod yn ei erbyn. Pan y mae y pechadur ei hun yn cofio, ac yn cydnabod ei bechodau ger bron Duw mewn edifeirwch, y mae efe o’i ras yn eu dileu o lyfr ei goffadwriaeth. Terfyna y Salmydd ei weddi hon mewn deisyfiad dros holl Israel Duw, am yr un fendith iddynt hwythau ag a geisiai efe iddo ei hun.

Dewis Presennol:

Salmau 25: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda