Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 54

54
SALM LIV.
8.7.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd, pan ddaeth y Ziphiaid a dywedyd wrth Saul, Onid ydyw Dafydd yn ymguddio gyda ni?
1Achub fi, O Dduw! yn d’ enw
Barn fi, mewn cyfiawnder; 2clyw
Lais fy ngweddi, gwrandaw, ystyr,
Wrth fy ’madrodd, O fy Nuw!
3Can’s dyeithriaid gyfodasant,
Yn fy erbyn oll y maen’;
Dynion trawsion geisiant f ’enaid,
Ni osodant Dduw o’u blaen.
4Wele, Duw a’m cynnorthwya,
Mae efe yn mysg y rhai
A gynnaliant f’ enaid ofnus,
Ni fydd arnaf wall na thrai;
5Efe a dâl i fy ngelynion,
Dwg yn ol eu haeddiant hwy,
Tỳr hwynt ymaith — felly derfydd
Am eu coffadwriaeth mwy.
6Ewyllysgar yr aberthaf
I ti foliant, O fy Nuw!
Molaf d’ enw di, O Arglwydd!
Canys da a hyfryd yw;
7O bob trallod y’m gwaredant,
Ca’dd fy llygad yn y fan
Wel’d cyflawniad ei ewyllys
Ar elynion f’ enaid gwan.
Nodiadau.
Y mae enwau a choffadwriaeth llawer o ddynion yn eu perthynas â Dafydd yn neillduol wedi eu cadw a’u trosglwyddo ganddo i fod yn wrthddrychau adgasrwydd a dirmyg drwy yr oesau; megys Döeg yr Edomiad yn y salm ddiweddaf ond un, a’r Ziphiaid yn y salm hon, ac ereill. Preswylwyr dinas o’r enw Ziph oedd y gwŷr hyn. Yr oedd dwy ddinas o’r enw yn Palestina, a’r ddwy o fewn rhandir Iudah hefyd: gwel Ios. xv. 24 a 55. Cymmerai y Ziphiaid bradwrus hyny y drafferth i anfon cenhadau at Saul, i’w hysbysu fod Dafydd yn eu cymmydogaeth hwy, fel y gallai efe gael cyfleusdra i’w ddal a’i ddyfetha, er na wnaethai Dafydd ddim oll yn eu herbyn hwynt, ac er ei fod yn ŵr o’u llwyth eu hunain. Mewn canlyniad i hyny bu efe megys agosaf i syrthio yn llaw Saul o un tro, fel y cawsom achlysur i sylwi o’r blaen yn ein nodiadau ar salm arall.
Yn ei weddi fèr hon y mae y Salmydd yn cydblethu deisyfiadau am y nawdd ddwyfol i’w ddiogelu yn y perygl yr oedd ynddo ar y pryd, a’i hyder yn Nuw fel ei waredwr, a’i benderfyniadau i ymddiried yn yr Arglwydd, ac i’w foliannu yn wastadol. Yn yr adnod ddiweddaf, y mae y waredigaeth y gweddïai ac y disgwyliai am dani wedi dyfod. “Fy llygad a welodd fy ewyllys ar fy ngelynion,” medd efe. Gwelai Saul a’i wŷr ar unwaith yn troi oddi wrtho, pan oeddynt wedi ei amgylchynu, o herwydd i genad ddyfod at Saul i’w hysbysu fod y Philistiaid wedi ymdaenu ar hyd y wlad. Am hyny y dychwelodd Saul o erlid ar ol Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid. O herwydd hyny y galwasant y fan hono Sela Hammahlecoth, sef craig y gwahaniadau: 1 Sam xxiii. 28.
Tra yr oedd Dafydd yn llechu yn anialwch Ziph, daeth ei anwylaf gyfaill, Ionathan, ato “i’r coed, ac a gryfhaodd ei law ef yn Nuw” (1 Sam xxiii. 16); a dyna y tro diweddaf y gwelsant wynebau eu gilydd ar y ddaear!
Tybiaf fod Dafydd yn cyfeirio at y dyddanwch a gawsai yn nghymdeithas Ionathan, a thrwy y geiriau a lefarodd Ionathan, fel cenad anfonedig gan Dduw ato yn ei drallod, yn adn. 4 — lle y dywed, “Wele, Duw sydd yn fy nghynnorthwyo; yr Arglwydd sydd yn mysg y rhai a gynnaliant fy enaid.”

Dewis Presennol:

Salmau 54: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda