Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 61

61
SALM LXI.
8.7.3.
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
1Clyw, O Dduw! fy llefain — gwrando
Ar fy ngweddi, 2o eitha’r byd;
Llefain arnat, ar lesmeirio,
Mae fy nghalon wan o hyd:
Arwain di, Arglwydd cu,
Fi i’r graig sy’n uwch na mi.
3Canys buost noddfa imi,
Ac yn gadarn dŵr, a nerth,
I’m hamddiffyn a’m gwaredu
Rhag cynddaredd gelyn certh:
4Minnau byth, yn ddilyth,
Yn dy babell wnaf fy nyth.
Fy ymddiried fydd yn wastad
O dan nawdd d’ adenydd di,
5Canys ti, O Dduw! a glywaist
’R addunedau wnaethum i:
Rhoddaist#61:5 Yr ymadrodd yn adn. 5: “Rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw,” a gyfieitha Boothroyd yn ‘Rhoddaist y bobl a ofnant dy enw yn etifeddiaeth i mi.’ di, ’n eiddo i mi,
’R bobl a ofnant d’ enw cu.
6Ti estyni oes y brenin,
Rhoi ogoniant arno ef,
Megys cenedlaethau lawer
Bydd ei ddyddiau dan y nef:
7Ger bron Duw, byth caiff fyw,
Yn ngoleuni ’i wyneb gwiw.
Darpar iddo dy wirionedd,
A’th drugaredd ryfedd rad,
Fel y cadwont ef yn wastad
8Mewn cyflawnder o fwynhâd:
Minnau äf i’th dŷ, Naf,
Talu f’ addunedau wnaf.
Nodiadau.
Yn “eithaf y ddaear” — h. y., dybygid, ar derfyn eithaf tir Iudah, yn Mahanaim, yn ei fföedigaeth rhag Absalom, a’i galon yn llesmeirio gan drallod a gofid — yr oedd Dafydd yn cwyno, ac yn gweddïo yn nechreu y salm hon. Ymddengys yn debygol ddarfod iddo chwanegu y gyfran, o’r bummed adnod hyd y diwedd, at y rhan flaenorol, wedi iddo gael ei wrandaw, ei waredu o’i drallod, a’i ddwyn yn ol i Ierusalem, a’i adsefydlu drachefn ar ei orsedd. Addawa iddo ei hun barhâd y nodded a’r ffafr ddwyfol drosto am hir amser wedi hyny, ac adduneda y byddai iddo aros a thrigo byth, holl ddyddiau ei fywyd, “ger bron Duw, yn ei dŷ a’i wasanaeth.” Yr oedd efe yn ystyriol fod Duw yn dyst o’i addunedau a wnaethai yn amser ei drallod, ac yn eu cofio, ac y mae yntau ei hun yn eu cofio, ac yn penderfynu eu talu. Y mae llawer yn addunedu mewn trallod, nad ydynt byth yn gofalu am eu talu ar ol cael eu gwaredu o hono. “Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu, canys nid oes ganddo flâs ar rai ynfyd y peth a addunedaist, tâl,” medd y gŵr doeth: Preg. v. 4.

Dewis Presennol:

Salmau 61: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda