Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 64

64
SALM LXIV.
M. S.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
1Clyw fi, O Dduw! a gwrandaw ’m llef,
A doed i’r nef fy ngweddi;
Cadw fy einioes rhag y dyn
Y sydd yn elyn imi.
2O! cudd fi rhag cyfrinach gâs
Y rhai di‐ras eu buchedd;
A therfysg dynion sydd o hyd
A’u holl fryd ar anwiredd.
3Rhai hogant eu tafodau blin
Fel cleddyf llym fin creulon;
Gwnant eu gwefusau yn fwäau
I saethu geiriau chwerwon.
4I ddirgel saethu ’r perffaith yn
Ddisymmwth, hyn gyflawnant;
Ac wedi gwneyd y creulawn waith
Hwynthwy ychwaith nid ofnant.
5Hwy ymwrolant yn eu drwg,
A’u golwg ar ei gelu;
A threfnant osod maglau heb
Eu gwel’d gan neb i’w tarfu.
6Hwy chwiliant allan o bob man
Bob math o anwireddau;
Mae pob rhyw ystryw ddofn all fod
Yn ngheudod eu calonau.
7Ond Duw a’u saetha hwynt â saeth
Bair farwol alaeth iddynt;
8A distryw eu tafodau ’u hun
A’u deil, bob un o honynt.
9Pob un a’u gwelo gilia draw,
Ac ofn a braw a’u daliant;
Mynegant waith Duw a’i farn goeth,
Can’s hwy a’u doeth ystyriant.
10Yn Nuw’r cyfiawnion lawenhânt,
Eu hyder roddant arno;
A’r uniawn rai o galon gu
Wnant orfoleddu ynddo.
Nodiadau.
Saul, yn ddiau, yw y gelyn y gweddïa Dafydd yn nechreu y salm hon, fel mewn llawer o’i salmau, ar i Dduw gadw ei einioes rhagddo; a’i gynghorwyr annuwiol, y rhai oeddynt o hyd yn cam achwyn arno wrth Saul, er ei annog i geisio ei einioes ef, yw y “dynion drygionus, a’r gweithredwyr anwiredd,” y cyfeiria atynt. Cafodd gyfleusdra mewn dau amgylchiad, pan yr oedd Saul a’i weision hyny yn ei erlid, i ddyweyd gair wrth y brenin am danynt yn nghlywedigaeth eu clustiau hwy eu hunain. Un oedd, pan aeth efe ac Abisai i wersyll Saul liw nos, yn anialwch Ziph, ac y cafodd hwynt oll yn cysgu, ac y cymmerodd efe waywffon Saul, a’r llestr dwfr oedd wrth ei obenydd ef, ac yr aeth ymaith; ac y galwodd arno y boreu dranoeth, gan ddangos y waywffon a’r llestr dwfr fel profion o’i ddiniweidrwydd. 1 Sam xxvi; “Pa ham,” meddai wrth Saul, “mae fy Arglwydd fel hyn yn erlid ar ol ei was? canys beth a wnaethum? neu pa ddrygioni sydd yn fy llaw? Yn awr gan hyny, attolwg, gwrandawed fy Arglwydd frenin eiriau ei wasanaethwr. Os yr Arglwydd a’th annogodd di i’m herbyn, arogled offrwm: ond os meibion dynion, melldigedig fyddant hwy ger bron yr Arglwydd; o herwydd hwy a’m gyrasant i allan heddyw, fel nad ydwyf yn cael glynu yn etifeddiaeth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Dos, gwasanaetha dduwiau dyeithr.” Yn gyffelyb y llefara efe ar yr amgylchiad arall cyn y tro hwnw: 1 Sam xxiv. 9-14.
Trechodd caredigrwydd a geiriau Dafydd Saul ar y ddau amgylchiad uchod, fel yr wylodd, y cyfaddefodd ei fai, ac y cyfiawnhaodd Dafydd; ac os oedd dim tynerwch wedi ei adael yn nghalonau ei gynghorwyr drygionus oedd yn sefyll o’i amgylch, yr oedd yn rhaid fod y geiriau a lefarai y diniwed am danynt yn gwanu drwyddynt fel picellau. Hon yw yr olaf o’i weddïau yn y dosbarth hwn, yn achos Saul a’i gynghorwyr — yn ol fel y mae y salmau wedi eu cyfleu beth bynag, os nad yn ol yr amser y cyfansoddwyd hi.

Dewis Presennol:

Salmau 64: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda