Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Salmau 69

69
SALM LXIX.
8.8.8.
I’r Pencerdd, ar Sosannim, Salm Dafydd.
1Achub fi, O Dduw! can’s daeth y lli’
I mewn hyd at fy enaid i;
2Mewn tom ddofn suddais lle nad oes
Man gallaf sefyll; soddi i lawr
Yr wyf yn nyfnder dyfroedd mawr:
Y ffrwd aeth trosof, cymmhorth moes.
3Ireidd‐dra ’m safn a aeth yn sych,
A phallai ’m llygaid gan fy nych,
Tra ’r wyf yn disgwyl wrth fy Nuw;
4Amlach na gwallt fy mhen yw ’r rhai
Y sydd heb achos i’m casau,
Ac am fy nifa o dir y byw.
Gwnaed i mi dalu ’n ol yr hyn
Na chymmeraswn; 5minnau ’n syn
Heb ddeall oeddwn — gwyddost ti:
O’m holl gamweddau nid oes un,
Yn nghudd oddi wrthyt ti dy hun —
Tosturia wrthyf, clyw fy nghri.
6Na chywilyddier neb o’r rhai
Obeithiant ynot am fy mai
A’m pechod i, O Arglwydd Dduw!
Na ddeued gwarth o’m plegid i
Ar neb o’r rhai a’th geisiant di —
O! cadw hwynt tra byddont byw.
Rhan II.
8.7.
7Er dy fwyn y dygais warthrudd,
Do, a ch’wilydd, trais, a cham;
8Dyeithr aethum i fy mrodyr,
Estron pell i blant fy mam:
9Sêl dy dŷ, fy Nuw, a’m hysodd,
Eiddigeddais drosot ti;
Gw’radwyddiadau ’r rhai ’th w’radwyddent
A syrthiasant arnaf fi.
10Pan yr wylais, gan gystuddio
F’ enaid trist âg ympryd, bu
Hyny yn waradwydd i mi
Gan yr halog gablwr du;
11Pan ymwisgwn â sachlian,
Chwarddent hwythau am fy mhen:
Oeddwn yn ddiareb iddynt,
Ac yn wrthddrych gwawd a sen.
12Yn fy erbyn y chwedleuai
Y rhai eisteddai ’mhyrth y dref;
Hwythau, ’r meddwon, ynfyd, ofer,
Ar fy ol ddyrchafent lef;
13Ond trwy ’r cwbl mae fy ngweddi
Yn dyrchafu tua’r nen,
’N awr mewn amser cymmeradwy
Ni chânt sathru ar fy mhen.
Yn lliosawgrwydd dy drugaredd,
Yn ngwirionedd mawr dy ras,
14Gwared fi rhag fy nghaseion,
Ac o’r dyfroedd dyfnion câs;
15Na’d i’r ffrwd i lifo drosof,
Na’d i’r dyfnder du fy nhoi,
Na’d i’r pydew erchyll gauad
Arnaf fi ei safn, a’m cloi.
Rhan III.
7.6.
16Clyw fi, O Arglwydd! canys
Da yw ’th drugaredd gu,
Yn ol dy dosturiaethau
Lliosog, gwared fi;
17Na chuddia ’th wyneb rhagof,
Cyfyngder sy’n nesau,
O! gwrandaw, brysia ataf,
I’m hachub a’m rhyddhau.
18Nesâ at f’ enaid gwirion,
Achub a gwared ef,
O herwydd fy ngelynion,
Bydd i mi ’n darian gref;
19Adwaenost ti f’ ynfydrwydd,
Fy ngwarth a’m c’wilydd mawr,
A’m holl elynion ffyrnig
Ynt ger dy fron bob awr.
20Gwarthrudd a dỳr fy nghalon,
Yr wyf mewn gofid blin,
Disgwyliais am gysurwyr,
A mi ni chefais un;
21Ond ce’s gystuddwyr ddigon,
Ro’ent fustl yn fy mwyd,
Diodent fi ’n fy syched
Ar finegr sur a llwyd.
Rhan IV.
8.7.4.
22Boed eu bwrdd yn fagl iddynt,
Troer eu llwyddiant yn sarhâd;
23Dalla ’u llygaid fel na welont
I gyflawni gwaith eu brâd:
Gwna i’w llwynau, & c.,
Grynu gan ryw arswyd mawr.
24Tywallt arnynt dy ddigofaint,
Cyrhaedd hwy â’th lid yn syth;
25Gwag fo ’u preswylfeydd — na thriged
Neb o fewn eu pebyll byth:
26Canys erlid, & c.,
Wnaent yr hwn a d’rewsit ti.
Am ofidiau ’r rhai archollaist
Y chwedleuant gyda blas;
27Dod anwiredd ar anwiredd
At eu hanwireddau cas;
Ac na ddelont, & c.,
I fwynhau ’th gyfiawnder di.
28Tyner hwy o lyfr y bywyd,
Na bo ’u henwau yno i’w cael;
Na ’sgrifener gyda’r cyfiawn,
Byth eu coffadwriaeth gwael —
Fel darfyddo, & c.,
Am eu henwau a’u hanes hwy.
Rhan V.
8.7.4.
29Minnau, truan a gofidus
Ydwyf, a’r truana’n fyw;
Nid oes ond dy iachawdwriaeth
A’m dyrchafa, O fy Nuw!
Digon i mi, & c.,
Yw dy iachawdwriaeth di.
30Mi foliannaf byth dy enw,
A mawrygaf ef ar gân;
31Gwell fydd gan yr Arglwydd hyny
Na’r holl boeth‐offrymau tân:
Ych a bustach, & c.,
Corniog, carnol, ni leshâ.
32Y trueiniaid tlawd, na feddant
Ych na bustach, lawenhânt;
Pan y clywant nad oes eisieu
Aberth gwaedlyd, canu wnant:
Aberth moliant, & c.,
A ddyrchafant hyd y nef.
Llawenhaed eich calon chwithau,
Y rhai oll a geisiwch Dduw;
Canys byth y rhai a’i ceisiant
Ef bob un a fyddant byw:
33Canys gwrendy, & c.,
’R Arglwydd ar y truan tlawd.
34Daear lawr a nefoedd uchod,
Môr a’i deulu, molant ef;
35Canys Duw a achub Seion,
Ac a’i gwna yn ddinas gref:
Fel y trigont, & c.,
Yno, ac y meddiannont hi.
36Plant ei weision a’i meddiannant
Yn ddiogel a dilyth;
Rhai a hoffant enw ’r Arglwydd
A breswyliant ynddi byth:
Dedwydd fyddant, & c.,
Yno oll dan nawdd eu Duw.
Nodiadau.
Yr oedd Dafydd yn ei fywyd, megys y dywed Paul am Melchisedec yn ei swydd fel offeiriad, “wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw.” Y mae llawer o Dafydd ei hun yn un o drallodion ei fywyd yn y salm hon, ac y mae llawer iawn o’r Messiah ynddi — rhai pethau yn briodol i Dafydd ei hun yn unig; pethau ereill felly iddo ef ac i’r Messïah hefyd; a rhai pethau yn fwy priodol i’r Messiah nag i Dafydd. Cymmhwysa y Gwaredwr yr ymadrodd yn adn. 4, “y rhai a’m casânt heb achos,” ato ei hun yn ei berthynas â’r Iuddewon:— “Fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a’m casasant yn ddiachos;” Ioan xv. 25. Ar yr ymadrodd “Yna y telais yr hyn ni chymmerais,” yn niwedd yr un adnod, sylwa Ainsworth, “Gorfodi dyn i dalu neu i adferu peth nad oedd efe wedi ei gymmeryd ymaith, yw yr anghyfiawnder mwyaf a all fod.” Gwel Exod. xxii. 1-5. Cyflawnwyd hyn yn Nghrist, “yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fod yn ogyfuwch â Duw;” Phil. ii. 6. Etto, am iddo dystiolaethu am dano ei hun ei fod yn Fab Duw, dodwyd ef i farwolaeth gan yr Iuddewon: Ioan xix. 7.
“Aethum yn ddyeithr i’m brodyr;” adn. 8. Felly Crist:— “At yr eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef;” Ioan i. 11. “Eithr hwn nis gwyddom ni o ba le y mae efe, meddai yr Iuddewon;” Ioan ix. 29. “Ac nid oedd ei frodyr (yn ol y cnawd) yn credu ynddo:” Ioan vii. 5.
“Sêl dy dŷ di a’m hysodd i;” adn. 9. Yr oedd Dafydd yn nodedig am ei hoffder o, a’i sêl dros dŷ ac addoliad Duw:— ond Crist yn fwy felly. Pan gymmerth efe fflangell o fân reffynau, a gyru y prynwyr a’r gwerthwyr allan o’r deml, ei ddysgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, “Sêl dy dŷ di a’m hysodd i;” Ioan ii. 15-17.
“Rhoddasant hefyd fustl yn fy mwyd, ac a’m diodasant yn fy syched â finegr;” adn. 21. Ni wnaed hyn yn llythyrenol, ond yn ffugrol â Dafydd; ond cyflawnwyd y peth yn ol y llythyren yn Nghrist: Mat. xxvii. 34; Ioan xix. 28-30.
O’r ail adnod ar hugain hyd yr wythfed ar hugain, rhagfynegir dinystr llwyr a sicr yr Iuddewon anghrediniol, am eu cyndyn wrthodiad o Grist yn wyneb yr holl brofion, drwy arwyddion sicr a rhyfeddodau a gawsant, mai efe oedd y gwir Fessiah.
“Bydded eu preswylfod yn anghyfannedd;” & c. adn. 25. Cymmhwysa yr apostol Pedr hyn at Iudas: Act. ii. 20. Myn rhai mai chwanegiad at y salm gan rywun ar ol y dychweliad o Babilon yw y tair adnod olaf o’r salm. Ond ni welaf fi un rheswm digonol i gefnogi y cyfryw dyb; canys y maent yn cydio yn ddigon naturiol wrth yr adnodau blaenorol.
Yn adn. 30, y mae y dymmestl fawr, oedd wedi parhau yn ddiattal o ddechreu y salm, yn gostegu ar unwaith, a’r hin yn troi yn dawel ac yn deg, a’r truan fuasai yn helbulus gan y dymmestl yn tori allan i ganu yn llawen, ac yn galw ar y nefoedd a’r ddaear, a’r môr, a’r hyn oll sydd ynddo, i uno yn y fawl‐gân.
Y mae y gyfran olaf o’r salm, o adn. 30, yn eithaf priodol i’r Messiah, feddyliwn; lle y mae efe, wedi iddo fyned trwy waith mawr ei ufudd‐dod, a’i berffeithio yn ei aberth hollddigonol, megys yn rhoddi terfyn am byth ar aberthau y gyfraith, ac yn sefydlu trefn newydd o addoli — aberthau ysbrydol o fawl a diolch, yn lle aberthau gwaedlyd y gyfraith; ac felly, yn gosod pawb oll, cyfoethog a thlawd, ar yr un tir cyfartal. Y tlodion, y rhai na feddant y moddion i aberthu “ych, neu fustach corniog, carnol, a lawenychant pan glywant hyn;” sef, nad oes angen mwy am y cyfryw aberthau. Yn ol aralleiriad y pêr ganiedydd o Bant-y‐celyn —
“Y trueiniaid tlodion, hwythau
Lawenhânt, pan glywant hyn;
Nad oes iawn trwy unrhyw aberth,
Ond gaed ar Galfaria fryn.”

Dewis Presennol:

Salmau 69: SC1875

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda