Matthaw 17
17
PENNOD XVII.
Gwedd newidiad Crist. Y mae efe yn iachâu y lloerig; yn rhag-fynegi ei ddioddefaint; ac yn talu teyrn-ged.
1AC ar ol chwe diwrnod, y cymmerodd yr Iesu Pedr, ac Iacob, ac Ioan ei frawd, ac a’u dug hwy i fynydd uchel o’r neilldu. 2A gwedd-newidiwyd ef ger eu bron hwy; a’i wyneb a ddisgleiriodd fel yr haul, a’i ddillad oedd cyn wŷnned a’r goleuni. 3Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosant iddynt, yn ymddiddan ag ef. 4A Phedr a attebodd ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, da yw i ni fod yma: os ewyllysi, gwnawn yma dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias. 5Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmmwl goleu a’u cysgododd hwynt: ac wele, lef o’r cwmmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab, yn yr hwn y’m llawn boddlonwyd: gwrandewch arno ef. 6A phan glybu y disgyblion hynny, hwy syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr. 7A daeth yr Iesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac â ddywedodd, Cyfodwch, ac nac ofnwch. 8Ac wedi iddynt ddyrchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Iesu yn unig. 9Ac fel yr oeddynt yn disgyn o’r mynydd, gorchymynodd yr Iesu iddynt, gan ddywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni adgyfodo Mab y dyn o feirw. 10A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Paham gan hynny y mae’r ysgrifenyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf? 11A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn, wir a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bob peth. 12Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, ddyfod o Elias eisoes; ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur ohonynt iddo beth bynnag a fynnasant: felly y bydd hefyd i Fab y dyn ddioddef ganddynt hwy. 13Yna y deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y dywedasai efe wrthynt. 14Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth atto ryw ddyn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau, 15Ac a ddywedodd, Arglwydd, trugarhâ wrth fy mab, oblegyd y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych. 16Ac mi a’i dygais ef at dy ddisgyblion di, ac ni allent hwy ei iachâu ef. 17A’r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hŷd y byddaf gyd â chwi? pa hŷd y dioddefaf chwi? dygwch ef yma attaf fi. 18A’r Iesu a geryddodd y cythraul; ac efe a aeth allan o hono: a’r bachgen a iachawyd o’r awr honno. 19Yna y daeth y disgyblion at yr Iesu o’r neilldu, ac ymofynasant, Paham na allem ni ei fwrw ef allan? 20A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Oblegyd eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, Pe bai gennych ffydd megis gronyn o had mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddi yma draw, ac efe a symmudai; ac ni bydd dim ammhosibl ichwi. 21Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, ond trwy weddi ac unpryd. 22Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilaia, dywedodd yr Iesu wrthynt, Mab y dyn a draddodir i ddwylaw dynion: 23A hwy a’i lladdant; a’r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn. 24Ac wedi dyfod o honynt i Kapernaum, y rhai oedd yn derbyn yr hanner shekel a ddaethant at Pedr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athraw chwi yn talu teyrn-ged? 25Yntau a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i’r tŷ, yr Iesu a achubodd ei flaen ef, gân ddywedyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Simon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaear deyrn-ged neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid? 26Pedr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion. 27Etto, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fâch, a chymmer y pysgodyn a ddêl i fynu yn gyntaf; ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei shekel; cymmer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.
Dewis Presennol:
Matthaw 17: JJCN
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Cyfammod Newydd gan John Jones. Argraffwyd gan John Williams, Llundain 1808. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.