Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 2:1-13

Gweithredoedd 2:1-13 CJW

A gwedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn unfryd wedi ymgynnull yn yr un lle: ac yn ddisymwth y daeth swn o’r nef, megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac á lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau tebyg i dân, wedi eu gwahanu yn amlwg, ac efe á orphwysodd àr bob un o honynt: a hwy oll á lanwyd â’r Ysbryd Glan, ac á ddechreuasant lefaru mewn ieithoedd ereill, megys y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. Ac yr oedd yn ymdaith yn Nghaersalem wŷr crefyddol, Iuddewon o bob cenedl dàn y nef: a gwedi myned y gair allan am hyn, daeth y lliaws yn nghyd, ac á ddyryswyd; oherwydd yr oedd pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei briodiaith ei hun. A sỳnu á wnaeth pawb, a rhyfeddu, gàn ddywedyd wrth eu gilydd, Wele! onid Galileaid yw y rhai hyn oll sydd yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn clywed bob un yn ei briodiaith enedigol ei hun: – Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Iuwdea, a Chappodocia, Pontus ac Asia, Phrygia, a Phamphylia, yr Aifft, a pharthau Affrica, y rhai sy gerllaw Cyrene: dyeithriaid o Rufeinwyr hefyd, yn Iuddewon a throedigion; Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ein hunain fawrion weithredoedd Duw! Ac yr oeddynt oll mewn syndod a dyryswch, a dywedasant y naill wrth y llall, Beth á all hyn fod? Ond ereill, gàn watwar, á ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.