Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd 2

2
DOSBARTH II.
Disgyniad yr Ysbryd Glan a Chychwniad Teyrnasiad y Messia.
1-13A gwedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn unfryd wedi ymgynnull yn yr un lle: ac yn ddisymwth y daeth swn o’r nef, megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac á lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau tebyg i dân, wedi eu gwahanu yn amlwg, ac efe á orphwysodd àr bob un o honynt: a hwy oll á lanwyd â’r Ysbryd Glan, ac á ddechreuasant lefaru mewn ieithoedd ereill, megys y rhoddes yr Ysbryd iddynt ymadrodd. Ac yr oedd yn ymdaith yn Nghaersalem wŷr crefyddol, Iuddewon o bob cenedl dàn y nef: a gwedi myned y gair allan am hyn, daeth y lliaws yn nghyd, ac á ddyryswyd; oherwydd yr oedd pob un yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei briodiaith ei hun. A sỳnu á wnaeth pawb, a rhyfeddu, gàn ddywedyd wrth eu gilydd, Wele! onid Galileaid yw y rhai hyn oll sydd yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn clywed bob un yn ei briodiaith enedigol ei hun: – Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Iuwdea, a Chappodocia, Pontus ac Asia, Phrygia, a Phamphylia, yr Aifft, a pharthau Affrica, y rhai sy gerllaw Cyrene: dyeithriaid o Rufeinwyr hefyd, yn Iuddewon a throedigion; Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hieithoedd ein hunain fawrion weithredoedd Duw! Ac yr oeddynt oll mewn syndod a dyryswch, a dywedasant y naill wrth y llall, Beth á all hyn fod? Ond ereill, gàn watwar, á ddywedasant, Llawn o win melys ydynt.
14-36Eithr Pedr yn sefyll gyda ’r unarddeg, á gyfododd ei leferydd, ac á ddywedodd wrthynt, – Iuddewon a chwithau oll sydd yn ymdaith yn Nghaersalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau; canys nid yw y rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied, gàn nad yw hi ond y drydedd awr o’r dydd: ond hyn yw y peth á ddywedwyd drwy y proffwyd Iöel, “A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o’m Hysbryd àr bob cnawd; a’ch meibion chwi a’ch merched á broffwydant; a’ch gwŷr ieuainc á welant weledigaethau, a’ch henafgwyr á freuddwydiant freuddwydion. Ië, àr fy ngweision, ac àr fy llawforwynion y tywalltaf o’m Hysbryd yn y dyddiau hyny; a hwy á broffwydant: a mi á roddaf aruthrodion yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaiar isod; gwaed, a thân, a chwmwl mwg: yr haul á droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i dydd mawr a hynodol yr Arglwydd ddyfod. A bydd, pwybynag á alwo àr enw yr Arglwydd, á fydd cadwedig.” Israeliaid, gwrandewch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gwr wedi ei arbrofi i chwi gàn Dduw drwy weithrediadau nerthol, a rhyfeddodau, ac arwyddion, y rhai á wnaeth Duw yn eich canol chwi, (megys ag y gwyddoch chwithau eich hunain;) hwn á ddaliasoch chwi, gwedi ei draddodi drwy ddatganedig gynghor a rhagwybodaeth Duw, a thrwy ddwylaw anwiriaid á groeshoeliasoch ac á laddasoch: yr hwn á gyfododd Duw, gwedi dattod gloesion angeu, gàn mai annichon oedd iddo ef gael ei ddal o dano. Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, “Myfi á olygais yr Arglwydd megys yn wastad gèr fy mron; am mai àr fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger: am hyn y llawenycha fy nghalon, ac y gorfoledda fy nhafod; ïe, a’m cnawd hefyd á orphwys mewn gobaith na adewi fy enaid yn y byd anweledig, a na oddefi i’th Sant weled llygredigaeth. Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd bywyd; ti á’m cyflawni o lawenydd â’th wynebpryd.” Frodyr, goddefwch i mi ddywedyd yn hyf wrthych am y prifdad Dafydd; ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrawd ef gyda ni hyd y dydd hwn: am hyny, ac efe yn broffwyd, ac yn gwybod dyngu o Dduw iddo drwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef y cyfodai efe y Messia i eistedd àr ei orseddfa ef; efe, yn rhagweled hyn, á lefarodd am adgyfodiad y Messia, nas gadewid ei enaid ef yn y byd anweledig, a nas gwelai ei gnawd ef lygredigaeth. Yr Iesu hwn á gyfododd Duw i fyny, o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion: wedi ei dderchafu, gàn hyny, i ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gàn y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glan, efe á dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yn ei weled ac yn ei glywed. Oblegid nid esgynodd Dafydd i’r nefoedd, ond y mae efe yn dywedyd, “Yr Arglwydd á ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd àr fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i ti.” Am hyny, gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Fessia, yr Iesu hwn à groeshoeliasoch chwi.
37-41Hwythau gwedi clywed y pethau hyn á ddwysbigwyd i’r galon, ac á ddywedasant wrth Bedr, a’r Apostolion ereill, Frodyr, beth á wnawn ni? A Phedr á ddywedodd wrthynt, Diwygiwch, a throcher pob un o honoch yn enw Iesu Grist, èr maddeuant pechodau, a chwi á dderbyniwch ddawn yr Ysbryd Glan. Canys i chwi y mae yr addewid, ac i’ch plant, ac i bawb yn mhell, cynnifer ag á alwo yr Arglwydd ein Duw ni ato. Ac â llawer o ymadroddion ereill y tystiolaethodd, ac y cynghorodd efe, gàn ddywedyd, Gwaredwch eich hunain rhag y genedlaeth drofâus hon. Yna y rhai à dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar, á drochwyd; á chwanegwyd at y dysgyblion y dwthwn hwnw yn nghylch tair mil o eneidiau.
42-47Ac yr oeddynt yn parâu yn athrawiaeth, yn nghymdeithas, yn nhòriad torth, ac yn ngweddiau yr Apostolion. Ac ofn á ddaeth ár bob enaid, a llawer o wyrthiau ac arwyddion á wnaethwyd gàn yr Apostolion. A’r rhai à gredent oll oeddynt yn nghyd, a phob peth ganddynt yn gyffredin. Hwy á werthasant hefyd eu meddiannau a’u da, ac á’u rhànasant i bob un yn ol ei angen. Hefyd, yr oeddynt beunydd yn parâu yn unfryd yn y deml; a chàn dòri bara o dŷ i dŷ, hwy á gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, gàn foli Duw, a chael rhadgarwch gàn yr holl bobl; a’r Arglwydd á chwanegodd beunydd y rhai cadwedig at y gynnulleidfa.

Dewis Presennol:

Gweithredoedd 2: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda