Myfi yw y bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. Y gwas cyflog, yr hwn nid yw y bugail, a’r hwn nid yw y defaid yn eiddo iddo, pan welo y blaidd yn dyfod, á edy y defaid, ac á ffy; a’r blaidd á’u hysglyfia hwynt, ac á wasgara y ddëadell. Y mae y gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, a nad oes ofal arno am y defaid. Myfi yw y bugail da. A mi á adwaen yr eiddof, ac á adwaenir ganddynt; (fel yr edwyn y Tad fi, ac yr adwaen innau y Tad;) ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. Defaid ereill sy genyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon. Y rhai hyny hefyd sy raid i mi eu cyrchu; a hwy á wrandawant àr fy llais i; a bydd un ddëadell, un bugail. Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. Nid oes neb yn ei dwyn oddarnaf; ond myfi sydd yn ei rhoddi o honof fy hun. Y mae genyf awdurdod iddei rhoddi, ac y mae genyf awdurdod iddei chymeryd drachefn. Y gorchymyn hwn á dderbyniais i gàn fy Nhad.
Darllen Ioan 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 10:11-18
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos