Ioan 10
10
1-10Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i fewn drwy y drws i gorlan y defaid, ond yn dringo dros y mur, lleidr ac ysbeiliwr yw. Y mae y bugail yn wastad yn myned i fewn drwy y drws. Iddo ef y mae y drysawr yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrandaw àr ei lais ef. Y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henwau, ac yn eu harwain hwynt allan. A gwedi iddo ỳru allan ei ddefaid, y mae efe yn myned o’u blaen hwynt, a hwythau á’i canlynant ef, am eu bod yn adnabod ei lais ef. Y dyeithr nis canlynant, eithr ffoant oddwrtho, am nad adwaenant lais dyeithriaid. Y gyffelybiaeth hon á gyfeiriodd Iesu atynt, ond nid oeddynt hwy yn amgyffred beth yr oedd efe yn ei ddywedyd. Am hyny efe á chwanegodd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Myfi yw drws y gorlan. Cynnifer oll ag á ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr oeddynt; ond y defaid nid ufyddâasant iddynt. Myfi yw y drws: y sawl á ant i fewn trwof fi, á fyddant ddiogel: hwy á ant i fewn ac allan, ac á gant borfa. Nid yw y lleidr yn dyfod ond i ladrata, i ladd, ac i ddystrywio. Myfi á ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaeth.
11-18Myfi yw y bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. Y gwas cyflog, yr hwn nid yw y bugail, a’r hwn nid yw y defaid yn eiddo iddo, pan welo y blaidd yn dyfod, á edy y defaid, ac á ffy; a’r blaidd á’u hysglyfia hwynt, ac á wasgara y ddëadell. Y mae y gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, a nad oes ofal arno am y defaid. Myfi yw y bugail da. A mi á adwaen yr eiddof, ac á adwaenir ganddynt; (fel yr edwyn y Tad fi, ac yr adwaen innau y Tad;) ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. Defaid ereill sy genyf, y rhai nid ynt o’r gorlan hon. Y rhai hyny hefyd sy raid i mi eu cyrchu; a hwy á wrandawant àr fy llais i; a bydd un ddëadell, un bugail. Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. Nid oes neb yn ei dwyn oddarnaf; ond myfi sydd yn ei rhoddi o honof fy hun. Y mae genyf awdurdod iddei rhoddi, ac y mae genyf awdurdod iddei chymeryd drachefn. Y gorchymyn hwn á dderbyniais i gàn fy Nhad.
19-21Bu drachefn ymraniad yn mysg yr Iuddewon, o achos yr ymadrawdd hwn. Llawer o honynt á ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu; paham y gwrandewch chwi arno ef? Ereill á ddywedasant, Nid yw y rhai hyn eiriau un cythreulig. A all cythraul roddi golwg i’r deillion?
22-30Gwedi hyny, pan oeddynt yn cadw gwyl y cysegriad, yn Nghaersalem, a hi yn auaf; fel yr oedd Iesu yn rhodio yn y deml, yn mhorth Solomon, yr Iuddewon, wedi dyfod o’i amgylch ef, á ddywedasant wrtho, Pa hyd y cedwi di ni mewn petrusdod? Os tydi yw y Messia, dywed i ni yn eglur. Iesu á atebodd, Mi á ddywedais i chwi; ond ni chredasoch. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, á dystiolaethant am danaf fi. Ond chwi nid ydych yn credu, am nad ydych o’m defaid i. Y mae fy nefaid i, fel y dywedais wrthych, yn gwrandaw àr fy llais i; mi á’u hadwaen hwynt, a hwy á’m canlynant i. Heblaw hyny, yr wyf fi yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; a ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i. Fy Nhad, yr hwn á’u rhoddes hwynt i mi, sy fwy na phawb; a nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i. Myfi a’r Tad un ydym.
31-38Yna yr Iuddewon drachefn á godasant gèryg iddei labyddio ef. Iesu á ddywedodd wrthynt, Llawer o weithredoedd da á ddangosais i chwi oddwrth fy Nhad; am ba un o’r gweithredoedd hyny yr ydych yn fy llabyddio i? Yr Iuddewon á atebasant, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio di, ond am gabledd; am dy fod di, a thithau yn ddyn, yn gwneuthur dy hun yn Dduw. Iesu á adatebodd, Onid yw yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mi á ddywedais, Duwiau ydych? Os galwodd y gyfraith hwynt yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, ac os yw iaith yr ysgrythyr yn anwrthodadwy; á gyhuddwch chwi o gabledd, yr hwn á gysegrodd y Tad yn Apostol iddo i’r byd, am alw ei hun yn Fab iddo? Os nad wyf fi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhad, na chredwch fi. Ond os wyf fi yn eu gwneuthur, èr nad ydych yn fy nghredu i, credwch y gweithredoedd, fel y gwybyddoch ac y credoch, bod y Tad ynof fi, a minnau ynddo yntau.
39-42Yna hwy á geisiasant drachefn ei ddal ef; ond efe á ddiangodd allan o’u dwylaw hwynt, ac á giliodd drachefn tua’r Iorddonen, ac á arosodd yn y fàn lle yr oedd Ioan àr y cyntaf yn trochi. A llawer á gyrchasant ato ef, y rhai á ddywedasant, Ioan yn wir ni wnaeth un wyrth; ond pob peth à ddywedodd Ioan am hwn, sydd wir. A llawer yno á gredasant ynddo.
Dewis Presennol:
Ioan 10: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.