Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 11

11
DOSBARTH VIII.
Lazarus yn cael ei gyfodi o feirw.
1-6Ac un Lazarus, o Fethania, pentref Mair a’i chwaer Martha, oedd yn glaf. (Y Fair hòno à eneiniodd yr Arglwydd ag enaint, ac á sychodd ei draed ef â’i gwallt, oedd a’i brawd Lazarus yn glaf.) Y chwiorydd, gan hyny, á ddanfonasant i fynegi i Iesu: Feistr, wele! y mae yr hwn sy hoff genyt ti, yn glaf. Iesu gwedi clywed hyn, á ddywedodd, Ni bydd y clefyd hwn yn angeuol; ond èr gogoniant i Dduw, fel y gogonedder Mab Duw drwyddo. A hoff oedd gàn Iesu Fartha, a’i chwaer, a Lazarus. Pan glybu efe, gàn hyny, ei fod ef yn glaf, Iesu á arosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.
7-16Gwedi hyny, efe á ddywedodd wrth ei ddysgyblion, Dychwelwn i Iuwdea. Y dysgyblion á atebasant, Rabbi, yn ddiweddar iawn yr oedd yr Iuddewon yn ceisio dy labyddio di, ac á wyt ti am fyned yno drachefn? Iesu á adatebodd, Onid oes deg a dwy awr o’r dydd? Os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda; am ei fod yn gweled goleuni y byd hwn: ond os rhodia efe y nos, efe á dramgwydda; am nad oes oleuni. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á chwanegodd, Y mae ein cyfaill Lazarus yn huno; ond yr wyf fi yn myned iddei ddihuno ef. Yna y dywedodd ei ddysgyblion ef, Feistr, os huno y mae, efe á adferir. Iesu á ddywedasai am ei farwolaeth ef; ond hwy á dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. Yna y dywedodd Iesu wrthynt yn eglur, Y mae Lazarus wedi marw. Ac èr eich mwyn chwi, y mae yn dda genyf nad oeddwn i yno; fel y credoch; ond awn ato ef. Yna Thomas, sef Didymus, á ddywedodd wrth ei gyd‐ddysgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef.
17-46Pan ddaeth Iesu, efe á ganfu bod Lazarus wedi bod eisioes bedwar diwrnod yn y tomawd. A llawer o’r Iuddewon (gàn fod Bethania yn nghylch pymtheg ystad oddwrth Gaersalem,) á ddaethent at Fartha, a Mair, iddeu cysuro hwy àr farwolaeth eu brawd. Martha, gwedi clywed bod Iesu yn dyfod, á aeth iddei gyfarfod ef; ond Mair á arosodd yn y tŷ. Yna y dywedodd Martha wrth Iesu, Feistr, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. Ond hyd yn nod yr awr hon, mi á wn, pa bethau bynag á ofynych di gàn Dduw, y dyry Duw i ti. Iesu á ddywedodd wrthi, Cyfodir dy frawd drachefn. Martha á atebodd, Mi á wn y cyfyd efe yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf. Iesu á ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad a’r bywyd. Yr hwn sydd yn credu ynof fi, èr iddo farw, á fydd byw; a phwybynag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn? Hithau á atebodd, Ydwyf, Feistr, yr wyf yn credu mai ti yw y Messia, Mab Duw, yr Hwn sydd yn dyfod i’r byd. Wedi iddi ddywedyd hyn, hi á aeth ac á alwodd Fair ei chwaer o’r neilldu, gàn ddywedyd, Y mae yr Athraw gwedi dyfod, ac y mae yn galw am danat. Pan glybu Mair hyn, hi á gododd yn ebrwydd, ac á aeth ato ef. Ac Iesu ni ddaethai eto i’r pentref, ond yr oedd efe yn y fàn lle y cyfarfuasai Martha ag ef. Yna yr Iuddewon, y rhai oeddynt yn cydgwyno â Mair yn y tŷ, pan welsant iddi godi àr frys, a myned allan, á’i canlynasant hi, gàn ddywedyd, Y mae hi yn myned at y tomawd, i wylo yno. Mair, wedi dyfod i’r fàn lle yr oedd Iesu, a’i weled ef, á syrthiodd wrth ei draed ef, gàn ddywedyd, Feistr, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. Pan welodd Iesu hi yn wylo, a’r Iuddewon, y rhai á ddaethent gyda hi, yn wylo, efe á ruddfanodd yn ddwys, ac á ymgynhyrfodd, ac á ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwythau á atebasant ac á ddywedasant, Feistr, dyred a gwel. Iesu á wylodd. Yr Iuddewon, gàn hyny, á ddywedasant, Gwelwch fel yr oedd efe yn ei garu ef. Eithr rhai o honynt á ddywedasant, Oni allasai yr hwn à roddes olwg i’r dall, beri na buasai farw hwn chwaith? Iesu gàn hyny, gwedi gruddfan drachefn, á ddaeth at y tomawd. Ogof oedd, a’r fynedfa iddi gwedi ei chau i fyny â maen. Iesu á ddywedodd, Symudwch y maen. Martha, chwaer y trengedig, á atebodd, Sỳr, y mae yr arogl erbyn hyn yn annymunol, oherwydd hwn yw y pedwerydd dydd. Iesu á adatebodd, Oni ddywedais i ti, pe credit, y cait ti weled gogoniant Duw? Yna hwy á symudasant y maen. Ac Iesu, gwedi codi ei olwg i fyny, á ddywedodd, O Dad, yr wyf yn diolch i ti, am i ti wrandaw arnaf. Am danaf fi, myfi á wn dy fod yn fy ngwrandaw bob amser; eithr yr wyf yn dywedyd èr mwyn y bobl sydd yn sefyll o’m hamgylch, fel y credont mai tydi à’m hanfonaist i. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á lefodd â llef uchel, Lazarus, dyred allan! Yr hwn à fuasai farw, á ddaeth allan, yn rwym ei draed a’i ddwylaw âg ysnodeni, a’i wyneb wedi ei rwymo â napcyn. Iesu á ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rydd, a gadewch iddo fyned. Llawer gàn hyny o’r Iuddewon, y rhai á ddaethent at Fair, ac á welsent yr hyn à wnaethai efe, á gredasant ynddo ef. Eithr rhai o honynt á aethant at y Phariseaid, ac á ddywedasant iddynt beth á wnaethai Iesu.
47-54Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid á gynnullasant y Sanhedrim yn nghyd, ac á ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dyn yma yn gwneuthur llawer o wyrthiau. Os gadaẅwn iddo fyned yn mlaen fel hyn, pawb á gredant ynddo, a’r Rhufeiniaid á ddeuant, ac á ddyfethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. Un o honynt, a’i enw Caiaphas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn hòno, á ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim oll, nac yn ystyried, mai gwell yw i ni farw o un dyn dros y bobl, nag i’r holl genedl gael ei dyfetha. Hyn á ddywedodd efe, nid o hono ei hun; ond, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn hòno, efe á broffwydodd y byddai Iesu farw dros y genedl; a nid dros y genedl hòno yn unig, ond fel y casglai efe yn nghyd yn un corff, blant Duw y rhai à wasgarasid. O’r dydd hwnw allan, gàn hyny, y cyd‐ymgynghorasant pa fodd y dyfethent ef. Am hyny, nid ymddangosodd Iesu mwy yn gyhoedd yn mysg yr Iuddewon, ond á giliodd i’r wlad, yn agos i’r anialwch, i ddinas à elwir Ephraim; ac á arosodd yno gyda ’i ddysgyblion.
55-57Yn y cyfamser pasc yr Iuddewon á nesâodd, á llawer o’r wlad á aethant i Gaersalem, o flaen y pasc, iddeu puro eu hunain. Y rhai hyn á ymofynasant am Iesu, ac á ddywedasant wrth eu gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth á dybygwch chwi? A ddaw efe ddim i’r wyl? A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid á roisent orchymyn allan, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, àr iddo hysbysu hyny, fel y gallent ei ddal ef.

Dewis Presennol:

Ioan 11: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda