Ioan 12
12
1-8Chwe diwrnod cỳn y pasc, Iesu á ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn á godasai efe o feirw. Yno y gwnaethant iddo gwynos, a Martha oedd yn gwasanaethu: ond Lazarus oedd un o’r rhai à oeddynt wrth y bwrdd gydag ef. Yna Mair, wedi cymeryd pwys o enaint ysbignard, yr hwn oedd dra gwerthfawr, á eneiniodd draed Iesu, ac á’u sychodd hwynt â’i gwallt, nes llanwyd y tŷ gàn arogl yr enaint. Ar hyny, un o’i ddysgyblion ef, Iuwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd àr fedr ei fradychu ef, á ddywedodd, Paham na werthwyd yr enaint hwn èr tri chann ceiniog, y rhai y gallasid eu rhoddi i’r tylodion? Hyn á ddywedodd efe, nid oherwydd ei fod yn gofalu am y tylodion; ond am mai lleidr oedd, a bod ganddo y god, a’i fod yn cario yr hyn à ddodid ynddi. Yna y dywedodd Iesu, Gad iddi. I’m perarogli erbyn dydd fy nghladdedigaeth, y cadwodd hi hwn. Canys bydd genych y tylodion gyda chwi bob amser; eithr myfi ni bydd genych bob amser.
9-11Nifer mawr o’r Iuddewon, pan wybuant lle yr oedd efe, á ddaethant yno, nid èr mwyn Iesu yn unig, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn á godasai efe o feirw. Yr archoffeiriaid, gàn hyny, á roisant eu bryd àr ladd Lazarus hefyd; am iddo fod yn achlysur i lawer o’r Iuddewon eu gadael hwynt, a chredu yn Iesu.
DOSBARTH IX.
Y Mynediad i fewn i Gaersalem.
12-19Tranoeth, lliaws mawr, y rhai á ddaethent i’r wyl, pan glywsant bod Iesu àr y ffordd i Gaersalem, á gymerasant gangau o’r palmwŷdd, ac á aethant allan i gyfarfod ag ef, gàn lefain, Hosanna! bendigedig fyddo Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. Ac Iesu gwedi cael asynyn, oedd yn marchogaeth arno, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Nac ofna, ferch Sïon; wele y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd àr ebol asen.” Y pethau hyn ni ddeallai ei ddysgyblion ef àr y cyntaf; ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, hwy á gofiasant mai felly yr ysgrifenasid am dano ef, a mai fel hyn y gwnaethent iddo. A’r bobl à fuasent bresennol á ardystient iddo alw Lazarus o’r tomawd, a’i godi ef o feirw. Y sôn ddarfod iddo wneuthur y wyrth hon, á berodd i’r bobl ymdỳru i gyfarfod ag ef. Y Phariseaid, gàn hyny, á ddywedasant yn eu plith eu hunain, Oni welwch chwi, nad oes genych ddim dylanwad? Wele, y mae y byd wedi myned àr ei ol ef.
20-22Ac yn mhlith y rhai à ddaethent i addoli àr yr wyl, yr oedd rhai Groegiaid. Y rhai hyn á ddaethant at Phylip, o Fethsaida, yn Ngalilea, gàn wneuthur y deisyfiad hwn, Sỳr, ni á ewyllysiem weled Iesu. Phylip á aeth ac à ddywedodd i Andreas; yna Andreas a Phylip á ddywedasant i Iesu.
23-26Iesu á atebodd iddynt, gàn ddywedyd, Yr amser á ddaeth, pan y mae yn raid i Fab y Dyn gael ei ogoneddu. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Pan deflir y gronyn gwenith i’r ddaiar, oni bydd efe marw, efe á erys yn unig; ond os bydd efe marw, y mae yn dyfod yn dra ffrwythlawn. Yr hwn sydd yn caru ei einioes, á’i cyll hi; a’r hwn sydd yn casâu ei einioes yn y byd hwn, á’i ceidw hi yn dragwyddol yn y nesaf. Os mỳn neb fy ngwasanaethu i, dylyned fi; a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd. Os gwasanaetha neb fi, fy Nhad á’i gobrwya ef.
27-36Yr awrhon y cynhyrfir fy enaid, a pha beth á ddywedaf? Ai, O Dad, gwared fi allan o’r awr hon? Na, eithr èr mwyn hyn y daethym i’r awr hon. O Dad, gogonedda dy enw. Yna y daeth llais o’r nef, yr hwn á ddywedai, Mi á’i gogoneddais, ac á’i gogoneddaf drachefn. Y bobl à oeddynt bresennol, á glywsant y swn, ac á ddywedasant, Fe daranodd: ereill á ddywedasant, Angel á lefarodd wrtho. Iesu á ddywedodd, Nid èr fy mwyn i y daeth y llais hwn, ond èr eich mwyn chwi. Yn awr y mae yn raid barnu y byd hwn. Yn awr y mae yn raid i dywysog y byd hwn gael ei fwrw allan. Am danaf fi, pan ddyrchefir fi oddar y ddaiar, mi á dỳnaf bawb ataf fy hun. Hyn á ddywedodd efe, gàn gyfeirio at y farwolaeth, yr oedd efe iddei dyoddef. Y bobl á atebasant, Ni á ddysgasom o’r gyfraith, y bydd i’r Messia fyw byth. Pa fodd, gàn hyny, yr wyt ti yn dywedyd, bod yn raid dyrchafu Mab y Dyn? Pwy yw y Mab y Dyn hwn? Iesu á ddywedodd wrthynt, Eto ychydig ènyd y mae y goleuni yn aros gyda chwi; rhodiwch, tra y byddo gènych, rhag i dywyllwch eich gorddiwes: canys yr hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, nis gwyr i ba le y mae yn myned. Ymddiriedwch yn y goleuni, tra yr ydych yn ei fwynâu, fel y byddoch feibion goleuni. Gwedi iddo ddywedyd y geiriau hyn, efe á giliodd yn ddirgel oddwrthynt.
37-43Ond èr gwneuthur o hono gymaint o wyrthiau yn eu gwydd hwynt, ni chredasant ynddo; fel y gwireddwyd gair y proffwyd Isaia, “Arglwydd, pwy á gredodd ein cyhoeddeb ni?” ac, “I bwy y dadguddiwyd braich yr Arglwydd?” Am hyn ni allent gredu; oblegid dywedyd o Isaia hefyd, “Efe à ddallodd eu llygaid, ac á bylodd eu deall, fel na welent â’u llygaid, ac amgyffred â’u deall, á dychwelyd, fel yr adferwn hwynt.” Y pethau hyn á ddywedodd Isaia, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd am dano ef. Er hyny, llawer, hyd yn nod o’r llywiawdwyr, oedd yn credu ynddo ef; ond, rhag ofn y Phariseaid, nid addefasant hyny, rhag iddynt gael eu bwrw allan o’r gynnullfa; canys yr oeddynt yn dewis cymeradwyaeth dynion o flaen cymeradwyaeth Duw.
44-50Yna Iesu gàn godi ei leferydd, á ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi yn unig; ond yn yr hwn à’m hanfonodd i. A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn à’m danfonodd i. Myfi á ddaethym yn oleuni i’r byd, fel na bo i bwybynag sydd yn credu ynof fi, aros mewn tywyllwch. Ac os clyw neb fy ngeiriau i, a nis ceidw hwynt; nid myfi sydd yn ei gollfarnu ef; canys mi á ddaethym, nid i gollfarnu y byd, ond i achub y byd. Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac yn gwrthod fy addysgiadau, y mae ganddo yr hyn à’i collfarna ef. Yr athrawiaeth à ddysgais i, á’i collfarna ef yn y dydd diweddaf. Canys ni ddywedais i ddim o honof fy hun; ond y Tad, yr hwn á’m hanfonodd i, á roes orchymyn i mi beth á erchwn, a pha beth á ddysgwn. A mi á wn bod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Pa bethau bynag, gàn hyny, wyf yn eu dywedyd, yr wyf yn llefaru megys yr archodd y Tad i mi.
Dewis Presennol:
Ioan 12: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.