Tranoeth, lliaws mawr, y rhai á ddaethent i’r wyl, pan glywsant bod Iesu àr y ffordd i Gaersalem, á gymerasant gangau o’r palmwŷdd, ac á aethant allan i gyfarfod ag ef, gàn lefain, Hosanna! bendigedig fyddo Brenin Israel, yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd. Ac Iesu gwedi cael asynyn, oedd yn marchogaeth arno, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Nac ofna, ferch Sïon; wele y mae dy Frenin yn dyfod, yn eistedd àr ebol asen.” Y pethau hyn ni ddeallai ei ddysgyblion ef àr y cyntaf; ond wedi i Iesu gael ei ogoneddu, hwy á gofiasant mai felly yr ysgrifenasid am dano ef, a mai fel hyn y gwnaethent iddo. A’r bobl à fuasent bresennol á ardystient iddo alw Lazarus o’r tomawd, a’i godi ef o feirw. Y sôn ddarfod iddo wneuthur y wyrth hon, á berodd i’r bobl ymdỳru i gyfarfod ag ef. Y Phariseaid, gàn hyny, á ddywedasant yn eu plith eu hunain, Oni welwch chwi, nad oes genych ddim dylanwad? Wele, y mae y byd wedi myned àr ei ol ef.