A chyn gwyl y pasc, Iesu yn canfod ddyfod ei amser ef i symud o’r byd hwn at ei Dad; a gwedi caru yr eiddo, y rhai oedd yn y byd, efe á’u carodd hwynt hyd y diwedd. A thra yr oeddynt àr gwynos, (wedi i ddiafol eisoes roi yn nghalon Iuwdas Iscariot, mab Simon, iddei fradychu ef,) Iesu, èr y gwyddai ddarfod i’r Tad ddarostwng pob peth iddo, a’i fod wedi dyfod oddwrth Dduw, ac yn dychwelyd at Dduw; á gododd oddar gwynos, a gwedi rhoi heibio ei fantell, á amwregysodd ei hun â thywel. Yna efe á dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac á ddechreuodd olchi traed ei ddysgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe gwedi ei wregysu.