Os ydych yn fy ngharu i, cedẅwch fy ngorchymynion; a mi á attolygaf àr y Tad, ac efe á rydd i chwi Ddadleuwr arall, i aros gyda chwi yn dragywydd; sef Ysbryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn; am nad yw yn ei weled nac yn ei adnabod ef; ond chwi á’i hadnabyddwch ef, oherwydd efe á erys gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. Nis gadawaf chwi yn amddifaid; mi á ddychwelaf atoch chwi. Eto ènyd bach, a’r byd ni’m gwel mwy; ond chwi á’m gwelwch; am mai byw wyf fi, byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Yr hwn sydd â’m gorchymyion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i; a’r hwn sydd yn fy ngharu i, á gerir gàn fy Nhad, a minnau á’i caraf ef, ac á egluraf fy hun iddo. Iuwdas (nid yr Iscariot) á ddywedodd wrtho, Feistr, paham yr wyt ti àr fedr dy egluro dy hun i ni, a nid i’r byd? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe á geidw fy ngair; a’m Tad á’i câr yntau; a ni á ddeuwn ato, ac á drigwn gydag ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, sydd yn diystyru fy ngeiriau; èr hyny y gair yr ydych yn ei glywed nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tad, yr hwn á’m hanfonodd i.