Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd. Os yw y byd yn eich casâu chwi, ystyriwch ddarfod iddo fy nghasâu i o’ch blaen chwi. Pe byddech o’r byd, y byd á garai yr eiddo ei hun. Ond am nad ydych o’r byd, gàn fy mod i gwedi eich dethol chwi allan o’r byd, y mae y byd yn eich casâu chwi. Cofiwch yr hyn à ddywedais i wrthych, Nid yw y gwas yn fwy na’i feistr. Os erlidiasant fi, hwy á’ch erlidiant chwithau hefyd; os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd á gadwant. Eithr hyn oll á wnant i chwi o’m hachos i, am nad adwaenant yr hwn à’m danfonodd i. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod. Yr hwn sydd yn fy nghasâu i, sydd yn casâu fy Nhad hefyd. Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y fath weithredoedd, na wnaeth neb arall erioed, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr hwy á’u gwelsant, ac èr hyny á’m casâasant i a’m Tad hefyd. Fel hyn y maent yn gwireddu y dywediad hwnw yn eu cyfraith hwynt, “Hwy á’m casâasant i yn ddiachos.” Ond pan ddêl y Dadleuwr, yr hwn á ddanfonaf i chwi oddwrth y Tad, Ysbryd y Gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddwrth y Tad, efe á dystiolaetha am danaf fi. A chwithau hefyd á dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.