Dros ychydig enyd ni’m gwelwch; dros ychydig enyd wedi, y gwelwch fi; am fy mod yn myned at y Tad. Rhai o’i ddysgyblion ef á ddywedasant wrth eu gilydd, Beth á feddylia efe wrth hyn; dros ychydig enyd ni’m gwelwch; dros ychydig enyd wedi, y gwelwch fi; am fy mod yn myned at y Tad? Beth yw yr ychydig enyd yma, y sonia efe am dano? Nid ydym ni yn ei amgyffred. Iesu gwedi canfod eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo, á ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Dros ychydig enyd ni’m gwelwch; dros ychydig enyd wedi y gwelwch fi? Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, chwi á wylwch ac á alerwch, ond y byd á lawenycha; chwi á fyddwch dristion; ond eich tristwch á droir yn llawenydd. Gwraig wrth esgor sy mewn tristwch, am ddyfod ei hawr. Ond wedi geni ei mab, nid yw hi yn cofio ei gofid mwyach, gàn lawenydd ddarfod iddi ddwyn dyn i’r byd. Felly chwithau ydych yr awrhon mewn tristwch; eithr mi á ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon á lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddarnoch. Y dydd hwnw ni’m holwch i ddim. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Pa bethau bynag á ofynoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i; gofynwch, a chwi á gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.