Ioan 16
16
1-6Y pethau hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych, fel na ddigalònoch. Hwy á’ch bwriant chwi allan o’r gynnullfa; ïe, y mae yr amser yn dyfod, y tybia pwybynag à’ch lladdo, ei fod yn offrymu aberth i Dduw. A’r pethau hyn á wnant, am nad adwaenant y Tad, na myfi. Am y pethau hyn yr wyf yn awr yn eich rhybyddio chwi, fel pan ddêl yr amser, y cofioch ddarfod i mi eu crybwyll i chwi. Ni chrybwyllais mohonynt, mae yn wir, àr y dechreu, am fy mod fy hunan gyda chwi. Ac yn awr yr wyf yn myned ymaith at yr hwn à’m hanfonodd; èr hyny nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned? Eithr, oblegid y pethau à ragddywedais i chwi, yr ydych wedi eich gorlenwi â gofid.
7-11Er hyny, yr wyf fi yn dywedyd y gwirionedd i chwi; buddiol yw i chwi fy myned i ymaith; canys onid af fi, ni ddaw y Dadleuwr atoch; eithr os mi á af, mi á’i hanfonaf ef atoch. A phan ddêl, efe á argyhoedda y byd am bechod, ac am gyfiawnder, ac am farn; am bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi; am gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, a ni’m gwelwch i mwyach; am farn, oblegid tywysog y byd hwn á farnwyd.
12-15Y mae genyf eto lawer o bethau iddeu dywedyd i chwi, ond ni ellwch hyd yma eu dwyn hwynt. Ond pan ddêl Ysbryd y Gwirionedd, efe á’ch arwain chwi i’r holl wirionedd; oblegid ei eiriau ni ddeilliant o hono ei hun; ond pa bethau bynag á glywo, á lefara efe, a phethau i ddyfod á ddengys efe i chwi. Efe á’m gogonedda i; canys efe á gymer o’r eiddof, ac á’i mynega i chwi. Bethbynag sydd eiddo y Tad, sydd eiddof fi; am hyny, yr wyf yn dywedyd, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi.
16-24Dros ychydig enyd ni’m gwelwch; dros ychydig enyd wedi, y gwelwch fi; am fy mod yn myned at y Tad. Rhai o’i ddysgyblion ef á ddywedasant wrth eu gilydd, Beth á feddylia efe wrth hyn; dros ychydig enyd ni’m gwelwch; dros ychydig enyd wedi, y gwelwch fi; am fy mod yn myned at y Tad? Beth yw yr ychydig enyd yma, y sonia efe am dano? Nid ydym ni yn ei amgyffred. Iesu gwedi canfod eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo, á ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Dros ychydig enyd ni’m gwelwch; dros ychydig enyd wedi y gwelwch fi? Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, chwi á wylwch ac á alerwch, ond y byd á lawenycha; chwi á fyddwch dristion; ond eich tristwch á droir yn llawenydd. Gwraig wrth esgor sy mewn tristwch, am ddyfod ei hawr. Ond wedi geni ei mab, nid yw hi yn cofio ei gofid mwyach, gàn lawenydd ddarfod iddi ddwyn dyn i’r byd. Felly chwithau ydych yr awrhon mewn tristwch; eithr mi á ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon á lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddarnoch. Y dydd hwnw ni’m holwch i ddim. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Pa bethau bynag á ofynoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i; gofynwch, a chwi á gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
25-33Y pethau hyn á lefarais wrthych mewn ffugyrau: y mae yr amser yn nesu, pan na lefarwyf wrthych mewn ffugyrau mwyach, ond ych addysgaf chwi yn eglur am y Tad. Yna y gofynwch yn fy enw, a nid wyf yn dywedyd yr attolygaf fi àr y Tad drosoch: oblegid y mae y Tad ei hun yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i oddwrth Dduw. O wydd y Tad y daethym i’r byd. Drachefn, yr wyf yn gadael y byd, ac yn dychwelyd at y Tad. Ei ddysgyblion á atebasant, Yn awr yn wir yr wyt ti yn llefaru yn eglur, a heb ffugyr. Yn awr yr ydym yn coelio dy fod yn gwybod pob peth, a na raid i ti holi o neb dydi. Wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddwrth Dduw. Iesu á’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? Wele y mae yr amser yn dyfod, neu yn hytrach wedi dyfod, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig; èr hyny nid wyf fi yn unig, oblegid y mae y Tad gyda myfi. Y pethau hyn á ddywedais wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder á gewch. Ond cymerwch gysur! myfi á orchfygais y byd.
Dewis Presennol:
Ioan 16: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.