Phylip á ddywedodd wrtho, Feistr, dangos i ni y Tad, a digon fydd i ni. Iesu á adatebodd, A fum i gyhyd o amser gyda chwi, a nid wyt yn fy adnabod i eto, Phylip? Y neb à’m gwelodd i, á welodd y Tad. Pa fodd, gàn hyny, yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun y maent yn deilliaw; am y gweithredoedd, y Tad yn aros ynof fi yw yr hwn sydd yn eu gwneuthur hwynt. Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau; os nad àr fy nhystiolaeth i, argyhoedder chwi gàn y gweithredoedd eu hunain. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, yntau á wna y cyfryw weithredoedd ag wyf fi yn eu gwneuthur; ie, rhai mwy na’r rhai hyn á wna efe; am fy mod i yn myned at fy Nhad, ac y gwnaf bethbynag á ofynoch yn fy enw i. Fel y gogonedder y Tad yn y Mab, pa beth bynag á ofynoch yn fy enw i, mi á’i gwnaf.
Darllen Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:8-14
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos