Ioan 14
14
DOSBARTH X.
Cysur i’r Dysgyblion.
1-7 Na thralloder eich calon; credwch yn Nuw, a chredwch ynof finnau hefyd. Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o drigfànau. Pe yn amgen, mi á ddywedaswn i chwi. Yr wyf fi yn myned i barotoi lle i chwi: a gwedi i mi fyned a pharotoi lle i chwi, mi á ddychwelaf ac á’ch cymeraf gyda mi, fel lle yr wyf fi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyf fi yn myned, chwi á wyddoch, a’r ffordd á wyddoch. Dywedodd Thomas wrtho, Feistr, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned. Pa fodd, gàn hyny, y gallwn wybod y ffordd? Iesu á atebodd, Myfi yw y ffordd, a’r gwirionedd, a’r bywyd; nid yw neb yn dyfod at y Tad ond trwof fi. Ped adnabuasech fi, fy Nhad hefyd á adnabuasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi á’i gwelsoch ef.
8-14Phylip á ddywedodd wrtho, Feistr, dangos i ni y Tad, a digon fydd i ni. Iesu á adatebodd, A fum i gyhyd o amser gyda chwi, a nid wyt yn fy adnabod i eto, Phylip? Y neb à’m gwelodd i, á welodd y Tad. Pa fodd, gàn hyny, yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau? Y geiriau yr wyf fi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun y maent yn deilliaw; am y gweithredoedd, y Tad yn aros ynof fi yw yr hwn sydd yn eu gwneuthur hwynt. Credwch fi, fy mod i yn y Tad, a’r Tad ynof finnau; os nad àr fy nhystiolaeth i, argyhoedder chwi gàn y gweithredoedd eu hunain. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, yntau á wna y cyfryw weithredoedd ag wyf fi yn eu gwneuthur; ie, rhai mwy na’r rhai hyn á wna efe; am fy mod i yn myned at fy Nhad, ac y gwnaf bethbynag á ofynoch yn fy enw i. Fel y gogonedder y Tad yn y Mab, pa beth bynag á ofynoch yn fy enw i, mi á’i gwnaf.
15-24Os ydych yn fy ngharu i, cedẅwch fy ngorchymynion; a mi á attolygaf àr y Tad, ac efe á rydd i chwi Ddadleuwr arall, i aros gyda chwi yn dragywydd; sef Ysbryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn; am nad yw yn ei weled nac yn ei adnabod ef; ond chwi á’i hadnabyddwch ef, oherwydd efe á erys gyda chwi, ac ynoch y bydd efe. Nis gadawaf chwi yn amddifaid; mi á ddychwelaf atoch chwi. Eto ènyd bach, a’r byd ni’m gwel mwy; ond chwi á’m gwelwch; am mai byw wyf fi, byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnw y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhad, a chwithau ynof fi, a minnau ynoch chwithau. Yr hwn sydd â’m gorchymyion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i; a’r hwn sydd yn fy ngharu i, á gerir gàn fy Nhad, a minnau á’i caraf ef, ac á egluraf fy hun iddo. Iuwdas (nid yr Iscariot) á ddywedodd wrtho, Feistr, paham yr wyt ti àr fedr dy egluro dy hun i ni, a nid i’r byd? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe á geidw fy ngair; a’m Tad á’i câr yntau; a ni á ddeuwn ato, ac á drigwn gydag ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, sydd yn diystyru fy ngeiriau; èr hyny y gair yr ydych yn ei glywed nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tad, yr hwn á’m hanfonodd i.
25-31Y pethau hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych, tra yr ydwyf yn aros gyda chwi. Ond y Dadleuwr, yr Ysbryd Glan, yr hwn á ddenfyn y Tad yn fy enw i, á ddysg i chwi bob peth, ac á ddwg àr gof i chwi yr holl bethau à ddywedais i i chwi. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na ddigalonwch; nac ofnwch. Clywsoch fi yn dywedyd, Yr wyf yn myned ymaith, a mi á ddeuaf yn ol atoch. Pe baech yn fy ngharu i, chwi á lawenâech am fy mod yn myned at y Tad; canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi. Hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych yn awr cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. Nid ymddyddanaf â chwi nemawr o hyn allan; canys y mae tywysog y byd yn dyfod, èr na chaiff efe ddim ynof fi; ond rhaid i hyn fod, fel y gwypo y byd fy mod i yn caru y Tad, ac yn gwneuthur pa beth bynag á orchymyno efe i mi. Codwch, awn oddyma.
Dewis Presennol:
Ioan 14: CJW
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Yr Oraclau Bywiol gan John Williams 1842. Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2021.