Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 13

13
1-5A chyn gwyl y pasc, Iesu yn canfod ddyfod ei amser ef i symud o’r byd hwn at ei Dad; a gwedi caru yr eiddo, y rhai oedd yn y byd, efe á’u carodd hwynt hyd y diwedd. A thra yr oeddynt àr gwynos, (wedi i ddiafol eisoes roi yn nghalon Iuwdas Iscariot, mab Simon, iddei fradychu ef,) Iesu, èr y gwyddai ddarfod i’r Tad ddarostwng pob peth iddo, a’i fod wedi dyfod oddwrth Dduw, ac yn dychwelyd at Dduw; á gododd oddar gwynos, a gwedi rhoi heibio ei fantell, á amwregysodd ei hun â thywel. Yna efe á dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac á ddechreuodd olchi traed ei ddysgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe gwedi ei wregysu.
6-11Pan ddaeth efe at Simon Pedr, Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, a wyt ti am olchi fy nhraed i? Iesu á atebodd, Nid wyt ti yn bresennol yn amgyffred yr hyn yr wyf fi yn ei wneuthur; ond ti á gai wybod àr ol hyn. Pedr á adatebodd, Ni chai di olchi fy nhraed i byth. Iesu á atebodd, Oni olchaf di, nis gall fod i ti ràn gyda myfi. Simon Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, nid fy nhraed yn unig; ond fy nwylaw a’m pen hefyd. Iesu á adatebodd, Yr hwn á fu yn ymolchi, ni raid iddo ond golchi ei draed yn unig, gàn fod y ràn arall o’i gorff yn lan. Yr ydych chwi yn lan, ond nid bawb. Canys efe á wyddai pwy á’i bradychai ef; am hyny y dywedodd, Nid ydych chwi bawb yn lan.
12-17Gwedi iddo olchi eu traed hwy, efe á roddes ei fantell am dano, a gwedi gosod ei hun drachefn wrth y bwrdd, á ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi beth á fum yn ei wneuthur i chwi? Yr ydych yn fy ngalw i yr Athraw a’r Meistr; ac yr ydych yn dywedyd yn iawn; canys felly yr ydwyf. Am hyny, os myfi, y Meistr a’r Athraw, á olchais eich traed chwi; chwithau á ddylech hefyd olchi traed eich gilydd. Canys rhoddais anghraifft i chwi, fel y gwnelech chwithau megys y gwneuthym i chwi. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, nid yw y gwas yn fwy na’i feistr, na’r apostol yn fwy na’r hwn à’i danfonodd ef. Gwỳn eich byd y rhai à wyddoch y pethau hyn, os gwnewch hwynt.
18-20Nid wyf fi yn dywedyd am danoch oll. Mi á wn pwy á ddewisais; ond rhaid yw cyflawni yr ysgrythyr hòno, “Yr hwn sydd yn bwyta wrth fy mwrdd, á gododd ei sawdl yn fy erbyn.” Yr wyf yn dywedyd hyn wrthych yn awr, cyn ei ddyfod; fel pan ddel, y credoch mai myfi yw y Messia. Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, Yr hwn sydd yn derbyn pwybynag á ddanfonwyf fi, sydd yn fy nerbyn i; a’r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn à’m hanfonodd i.
21-30Gwedi iddo ddywedyd y geiriau hyn, Iesu á gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac á dystiodd, gàn ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i chwi, y bradycha un o honoch fi. Yna y dysgyblion á edrỳchasant àr eu gilydd, gàn ammheu am bwy yr oedd efe yn dywedyd. Ac un o’i ddysgyblion, yr hwn yr oedd Iesu yn ei garu oedd yn gorwedd yn agos at ei ddwyfron ef: Simon Pedr, gàn hyny, á amneidiodd arno, i ofyn pwy oedd efe yn ei feddwl. Yntau, gàn hyny, yn lledorwedd àr fynwes Iesu, á ddywedodd wrtho ef, Feistr, pwy yw efe? Iesu á atebodd, Hwnw yw efe i’r hwn y rhoddaf fi y tamaid hwn, wedi i mi ei wlychu, A gwedi iddo wlychu y tamaid, efe á’i rhoddes i Iuwdas Iscariot, mab Simon. Wedi iddo dderbyn y tamaid, Satan á aeth i fewn iddo. A dywedodd Iesu wrtho, Yr hyn wyt yn ei wneuthur, gwna àr frys. Ond ni wyddai neb wrth y bwrdd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. Rhai á dybient, am mai gàn Iuwdas yr oedd y god, ddarfod i Iesu ddywedyd wrtho am brynu cyfreidiau erbyn yr wyl; neu, roddi rhywbeth i’r tylodion. Wedi i Iuwdas gymeryd y tamaid, efe á aeth allan yn ebrwydd: ac yr oedd hi yn nos.
31-35Gwedi iddo fyned allan, Iesu á ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw á ogoneddwyd drwyddo ef. Os gogoneddwyd Duw drwyddo ef, Duw hefyd á’i gogonedda yntau drwyddo ei hun, a hyny yn ebrwydd. Fy mhlant, nid oes i mi yn awr ond ychydig amser i fod gyda chwi. Chwi á’m ceisiwch, a’r hyn à ddywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn ei ddywedyd yn awr wrthych chwithau. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, àr garu o honoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, àr garu o honoch chwithau bawb eich gilydd. Wrth hyn y gwybydd pawb mai dysgyblion i mi ydych; os bydd gènych gariad at eich gilydd.
36-38Simon Pedr á ddywedodd wrtho, Feistr, i ba le yr wyt ti yn myned? Iesu á atebodd, Lle yr wyf fi yn myned, ni elli yr awrhon fy nghanlyn; ond àr ol hyn ym canlyni. Pedr á atebodd, Feistr, pa ham na allaf fi dy ganlyn yr awrhon? Mi á roddaf fy mywyd i lawr èr dy fwyn. Iesu á’i hatebodd ef, A roddi di dy fywyd i lawr èr fy mwyn? Mewn gwirionedd, yr wyf yn dywedyd i ti, Ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu deirgwaith.

Dewis Presennol:

Ioan 13: CJW

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda