Y pethau hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych, tra yr ydwyf yn aros gyda chwi. Ond y Dadleuwr, yr Ysbryd Glan, yr hwn á ddenfyn y Tad yn fy enw i, á ddysg i chwi bob peth, ac á ddwg àr gof i chwi yr holl bethau à ddywedais i i chwi. Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na ddigalonwch; nac ofnwch. Clywsoch fi yn dywedyd, Yr wyf yn myned ymaith, a mi á ddeuaf yn ol atoch. Pe baech yn fy ngharu i, chwi á lawenâech am fy mod yn myned at y Tad; canys y mae fy Nhad yn fwy na myfi. Hyn yr wyf yn ei ddywedyd wrthych yn awr cyn ei ddyfod, fel pan ddêl, y credoch. Nid ymddyddanaf â chwi nemawr o hyn allan; canys y mae tywysog y byd yn dyfod, èr na chaiff efe ddim ynof fi; ond rhaid i hyn fod, fel y gwypo y byd fy mod i yn caru y Tad, ac yn gwneuthur pa beth bynag á orchymyno efe i mi. Codwch, awn oddyma.
Darllen Ioan 14
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 14:25-31
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos