Chwe diwrnod cỳn y pasc, Iesu á ddaeth i Fethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn á godasai efe o feirw. Yno y gwnaethant iddo gwynos, a Martha oedd yn gwasanaethu: ond Lazarus oedd un o’r rhai à oeddynt wrth y bwrdd gydag ef. Yna Mair, wedi cymeryd pwys o enaint ysbignard, yr hwn oedd dra gwerthfawr, á eneiniodd draed Iesu, ac á’u sychodd hwynt â’i gwallt, nes llanwyd y tŷ gàn arogl yr enaint. Ar hyny, un o’i ddysgyblion ef, Iuwdas Iscariot, mab Simon, yr hwn oedd àr fedr ei fradychu ef, á ddywedodd, Paham na werthwyd yr enaint hwn èr tri chann ceiniog, y rhai y gallasid eu rhoddi i’r tylodion? Hyn á ddywedodd efe, nid oherwydd ei fod yn gofalu am y tylodion; ond am mai lleidr oedd, a bod ganddo y god, a’i fod yn cario yr hyn à ddodid ynddi. Yna y dywedodd Iesu, Gad iddi. I’m perarogli erbyn dydd fy nghladdedigaeth, y cadwodd hi hwn. Canys bydd genych y tylodion gyda chwi bob amser; eithr myfi ni bydd genych bob amser.
Darllen Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos