Yna Iesu gàn godi ei leferydd, á ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynof fi, nid yw yn credu ynof fi yn unig; ond yn yr hwn à’m hanfonodd i. A’r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn à’m danfonodd i. Myfi á ddaethym yn oleuni i’r byd, fel na bo i bwybynag sydd yn credu ynof fi, aros mewn tywyllwch. Ac os clyw neb fy ngeiriau i, a nis ceidw hwynt; nid myfi sydd yn ei gollfarnu ef; canys mi á ddaethym, nid i gollfarnu y byd, ond i achub y byd. Yr hwn sydd yn fy nirmygu i, ac yn gwrthod fy addysgiadau, y mae ganddo yr hyn à’i collfarna ef. Yr athrawiaeth à ddysgais i, á’i collfarna ef yn y dydd diweddaf. Canys ni ddywedais i ddim o honof fy hun; ond y Tad, yr hwn á’m hanfonodd i, á roes orchymyn i mi beth á erchwn, a pha beth á ddysgwn. A mi á wn bod ei orchymyn ef yn fywyd tragwyddol. Pa bethau bynag, gàn hyny, wyf yn eu dywedyd, yr wyf yn llefaru megys yr archodd y Tad i mi.
Darllen Ioan 12
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 12:44-50
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos