Gwedi hyny, pan oeddynt yn cadw gwyl y cysegriad, yn Nghaersalem, a hi yn auaf; fel yr oedd Iesu yn rhodio yn y deml, yn mhorth Solomon, yr Iuddewon, wedi dyfod o’i amgylch ef, á ddywedasant wrtho, Pa hyd y cedwi di ni mewn petrusdod? Os tydi yw y Messia, dywed i ni yn eglur. Iesu á atebodd, Mi á ddywedais i chwi; ond ni chredasoch. Y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, á dystiolaethant am danaf fi. Ond chwi nid ydych yn credu, am nad ydych o’m defaid i. Y mae fy nefaid i, fel y dywedais wrthych, yn gwrandaw àr fy llais i; mi á’u hadwaen hwynt, a hwy á’m canlynant i. Heblaw hyny, yr wyf fi yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol; a ni ddwg neb hwynt allan o’m llaw i. Fy Nhad, yr hwn á’u rhoddes hwynt i mi, sy fwy na phawb; a nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i. Myfi a’r Tad un ydym.
Darllen Ioan 10
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Ioan 10:22-30
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos